Bod yn wyrdd a chadw tŷ mewn trefn

Mae preswylwyr ystadau tai ledled rhanbarth Conwy wedi gwneud defnydd o nifer o sgipiau mawr dros dro, gan gael gwared ar wastraff hen a segur a fydd yn cael ei ailgylchu wedyn fel rhan o gyfres o ‘Ddiwrnodau Gweithredu Amgylcheddol’.

Dechreuodd y fenter, sy’n cael ei rheoli gan Tai Gogledd Cymru, ryw chwe blynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad blynyddol y mae preswylwyr yn edrych ymlaen ato fel cyfle i gael trefn ar eu tai ar ôl y Nadolig.

Caiff eitemau cartref o beiriannau golchi, setiau teledu a nwyddau trydanol bach eu rhoi yn y sgip ochr yn ochr â theganau, ffensys wedi torri, gemau a llawer mwy. Yna caiff y sgip enfawr ei gasglu gan fynd â’r nwyddau i’w hailgylchu a’u hailddefnyddio lle bo hynny’n bosibl.

Dywedodd Garth Butcher o Tai Gogledd Cymru, sy’n helpu i reoli’r dydd:

“Mae’r Diwrnod Amgylcheddol yma nid yn unig yn gyfle gwych i bobl glirio a chael trefn ar eu tai ond mae hefyd yn annog aelodau o’r gymuned i gyfarfod a sgwrsio. Yn aml, mi welwch chi gymdogion sydd erioed wedi siarad â’i gilydd yn dechrau cymryd rhan a helpu ei gilydd, sy’n wych!”

Bydd cyfanswm o 24 sgip yn cael eu lleoli o fewn cymunedau lleol gyda phob un yn dal dwy dunnell o wastraff. Ar ôl cwblhau’r gwaith dros 12 wythnos o gyflwyno’r sgipiau, mae tîm Tai Gogledd Cymru yn disgwyl y byddant wedi casglu bron i 50 tunnell o wastraff.