Diweddariad ar y Diwrnod Hwyl Tenantiaid
Am y 4 blynedd diwethaf rydym wedi cynnal Diwrnod Hwyl blynyddol gan estyn gwahoddiad i’n holl breswylwyr i’w fynychu. Eleni, ar ôl ymgynghori gyda thenantiaid a staff, rydym wedi gwneud y penderfyniad i beidio a’i gynnal.
Daw’r penderfyniad hwn ar ôl adolygu diwrnodau hwyl blaenorol, gan edrych ar adborth a gwrando ar farn yn ystod yr ymgynghori ar y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid. Oherwydd ein hardal ddaearyddol eang mae hefyd yn anodd dod o hyd i leoliad addas sy’n hwylus i’r rhan fwyaf o breswylwyr.
Beth sy’n mynd i ddigwydd yn lle’r diwrnod hwyl?
- Byddwn yn darparu mwy o gyfleoedd i denantiaid i ddweud eu dweud
- Bydd digwyddiadau a gweithgareddau llai, mwy lleol yn cael eu cynnal dros y flwyddyn gyfan
- Byddwn yn darparu cyngor a chefnogaeth i breswylwyr a grwpiau cymunedol
- Byddwn yn cefnogi cymunedau sydd am gynnal eu digwyddiadau a’u gweithgareddau eu hunain
- Byddwn yn darparu mwy o gyfleoedd i denantiaid wella eu sgiliau a chael mynediad at hyfforddiant
Byddwn yn cynnig grant Datblygiad Personol er mwyn helpu i fynd i’r afael â rhwystrau ariannol a allai atal preswylwyr rhag cael mynediad i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ymgysylltu â thenantiaid a’r dulliau y gallwch eu defnyddio i gymryd rhan, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu anfonwch e-bost at [email protected]
Gallwch ddarllen mwy am ymgysylltu â thenantiaid yn ein Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Lleol