Grŵp preswylwyr yn y ras i ennill dwy o wobrau’r diwydiant

Mae grŵp preswylwyr Tai Gogledd Cymru, sef y Panel Ymgynghorol Preswylwyr, ar restr fer yn y categori Craffu Tenantiaid ar gyfer Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru eleni.

Mae Gwobrau Cyfranogiad blynyddol TPAS Cymru yn cael eu cydnabod fel “Oscars” y Byd Cyfranogi, gan ddathlu cyfranogiad cymunedol yn eu cymdogaethau, cydnabod gwaith caled yn ogystal â rhannu arfer gorau ar draws Cymru.

Esboniodd Iwan Evans, y Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

“Rwy’n hynod o falch o’r panel am gyrraedd y rhestr fer. Maent wedi mynd o nerth i nerth ers eu sefydlu yn 2013. Erbyn hyn mae gennym 9 o aelodau ac maent yn gyson yn cyfrannu a llunio gwasanaethau yn Tai Gogledd Cymru.” 

Mae Tai Gogledd Cymru hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Prosiect Digidol yn Gyntaf yn y categori Gwella Gwasanaethau; prosiect cyffrous yw hwn sy’n anelu at gynyddu nifer y gwasanaethau y gellir eu cynnig i denantiaid yn ddigidol ac ar-lein yn y dyfodol.

Roedd nifer o aelodau’r Panel yn rhan o’r prosiect hwn, ac roedd eu cyfranogiad yn rhan hanfodol o lwyddiant y prosiectau hyd yma yn ôl Brett Sadler, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymdogaethau a Rheolwr y Prosiect:

“Gallaf ddweud yn onest na fyddai ein prosiect Digidol yn Gyntaf wedi bod mor llwyddiannus heb gynnwys pedwar o aelodau’r Panel Ymgynghorol Preswylwyr ar y Tîm Prosiect; dydyn nhw byth yn ofni lleisio eu barn, herio’r norm ac awgrymu syniadau newydd. Maent yn chwa o awyr iach.”

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir ar 14 Gorffennaf 2016 yn Venue Cymru, Llandudno.