Gwelliant blasus ar y stryd fawr

Mae’r adeilad lle’r oedd y Bistro ar Stryd Fawr Llanberis wedi cael ei drawsnewid efo gwaith mawr arno, fel bod beth oedd gynt yn lle bwyta erbyn hyn yn nifer o gartrefi i bobl leol.

Roedd Tai Gogledd Cymru wedi prynu’r adeilad yn 2012 a datblygu cynlluniau i drawsnewid ac adfywio, a chreu naw o fflatiau dwy ystafell wely.

Mae croeso i’r fflatiau newydd yn Llanberis ymysg pobl sy’n gweld effeithiau’r cynnydd parhaus mewn prisiau tai, wedi’i yrru ymlaen gan y diwydiant twristiaeth, a hefyd ymysg pobl sy’n gobeithio cael cartref yn ardal y pentref prydferth hwn.

Mae hwn yn adeilad sylweddol ar y gornel, ac ers i’r Bistro gau yn 2008/9, mae wedi bod yn wag ac yn dirywio fesul dipyn. Roedd wedi mynd yn ddolur llygad ar y brif stryd ac yn denu fandaliaid a thynnu oddi wrth yr ardal o’i gwmpas.

Y contractwr lleol Celtic Souza sydd wedi rheoli’r gwaith ar ran Tai Gogledd Cymru. Mae’r cynllun wedi cael ei ddatblygu fel rhan o gydweithio ehangach rhwng Cyngor Gwynedd a Thai Gogledd Cymru, efo arian pellach oddi wrth Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mi fydd cwblhau’r prosiect yma’n cynnig gymaint o fanteision i’r gymuned leol. Rydan ni nid yn unig yn adfer a gwella adeilad mawr oedd yn cael effaith wael ar yr ardal leol, ond hefyd yn creu nifer o gartrefi ffantastig i bobl leol.”

“Mae prosiectau cartrefi gwag fel hyn yn ymwneud ag edrych ar adeiladau presennol sydd wedi cael eu hesgeuluso neu eu hanwybyddu a rhoi bywyd newydd iddynt. Mae ailddatblygu’r Bistro yn enghraifft wych o sut a pham y mae’r fenter hon yn gweithio cystal.”

Dyrannwyd tenantiaid newydd ar gyfer pob un o’r fflatiau dwy ystafell wely a chyn bo hir byddant yn symud i mewn i’w cartrefi newydd.