Diweddariad CHC ar risgiau concrit aeredig awtoclaf wedi’i atgyfnerthu (RAAC).

Fel y soniwyd yn y newyddion ar draws y wlad cafodd risgiau newydd eu nodi am goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) – deunydd a ddefnyddiwyd i adeiladu ac addasu llawer o adeiladau, yn bennaf rhwng y 1950au a’r 1990au.

Tan yn ddiweddar, cafodd canllawiau cenedlaethol ar RAAC mewn adeiladau eu hystyried gan bob llywodraeth yn y Deyrnas Unedig fel bod yn ddull cadarn at ei reoli. Fodd bynnag, ar 31 Awst 2023 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau newydd ar RAAC mewn safleoedd addysg. Ers hynny cafodd Llywodraeth Cymru beth dystiolaeth gan Lywodraeth y DU sy’n dangos y gall fod angen newid ein dull rheoli iechyd a diogelwch ar RAAC.

Mewn ymateb i hyn, rydym ni yn Tai Gogledd Cymru wedi ystyried ein stoc o fewn y proffil oedran a ddarparwyd, wedi cynnal archwiliadau a phrofion ychwanegol, a bellach wedi cadarnhau nad oes unrhyw RAAC wedi’i nodi.

Ruth Lanham-Wright – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi: “Rydym yn falch o roi gwybod i denantiaid am absenoldeb concrit aredig awtoclaf wedi’i atgyfnerthu (RAAC) yn ein heiddo, yn dilyn asesiad cynhwysfawr ac archwiliadau trylwyr a ysgogwyd gan y cyngor diweddar gan Gartrefi Cymunedol Cymru (CCC). Mae ein dull diwyd o archwilio ein stoc tai, ynghyd â phrofion manwl, wedi darparu tystiolaeth bendant nad yw ein heiddo yn cael eu heffeithio gan y pryderon a godwyd ynghylch RAAC”.

Os oes gan unrhyw breswylydd bryderon neu ymholiadau am eu cartref, yna cysylltwch â ni.

Tai fforddiadwy newydd yn Wrecsam o ganlyniad i bartneriaeth newydd

Mae preswylwyr wedi cael eu croesawu i’w cartrefi newydd yr wythnos hon wrth i 12 o dai rhent fforddiadwy gael eu creu mewn datblygiad tai cymdeithasol gwerth £1.5 miliwn gan Tai Gogledd Cymru yn Wrecsam.

Gan weithio’n agos gyda Chyngor Sir Wrecsam, mae datblygiad newydd Clos Owen wedi cael ei adeiladu yn ardal Whitegate ar safle hen faes parcio yn y dref. Mae’r safle wedi cael ei weddnewid gan Tai Gogledd Cymru a’r contractwyr K&C Group, gan ddarparu 12 o gartrefi sydd eu dirfawr angen, sef 6 tŷ gyda 2 ystafell wely a 6 fflat gydag un ystafell wely.

Y datblygiad hwn yw un cyntaf Tai Gogledd Cymru yn Wrecsam, ac mae’n sicrhau bod y gymdeithas yn cyfiawnhau ei henw fel ‘Tai Gogledd Cymru’.

Meddai Phil Danson, Cyfarwyddwr Lleoedd, Tai Gogledd Cymru:

“Mae hon yn garreg filltir bwysig i Tai Gogledd Cymru, wrth i ni dyfu ac ehangu ymhellach. Drwy weithio mewn partneriaeth agos gyda Chyngor Wrecsam rydym wedi gwella’r rhagolygon tai i deuluoedd ifanc lleol a mynd i’r afael â mater ehangach prinder tai.”

Un o’r tenantiaid sydd wedi elwa o’r datblygiad newydd yw John Spruce. Mae John wedi symud i mewn i fflat sydd wedi cael ei addasu ar gyfer ei anghenion arbennig.

“Yn ddiweddar mi wnes i symud i mewn i un o’r fflatiau llawr gwaelod a addaswyd, ac rwy’n hapus iawn. Mae’n darparu ar gyfer fy holl anghenion yn dda iawn. Mae digon o ofod yma, cyfarpar da, ac mae popeth yno ar y lefel iawn i mi, gan gynnwys y gawod, popty, silffoedd, ac ati. Mi wnes i ofyn am gael eiddo i mi fy hun beth amser yn ôl ac mae’r cyngor yn ddiweddar wedi fy argymell i ar gyfer un o’r fflatiau newydd sbon yma felly rwy’n hapus dros ben.”

Dywedodd Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Dai, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Rwy’n falch iawn bod y cartrefi newydd yma wedi cael eu creu diolch i bartneriaeth lwyddiannus rhwng Tai Gogledd Cymru a Chyngor Wrecsam. Mae datblygu tai fforddiadwy yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r mater o brinder tai, ac rwy’n gobeithio y bydd y preswylwyr newydd yn falch iawn o’r eiddo yma.”

Dywedodd yr Aelod Lleol dros ardal Whitegate, y Cyng Brian Cameron, “Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn ar gyfer tai yn yr ardal. Rwy’n falch iawn fod dau o’r fflatiau un ystafell wely ar y llawr gwaelod wedi cael eu hadeiladu gydag addasiadau ar gyfer pobl hŷn ac anabl hefyd. Mae partneriaeth y Cyngor gyda Tai Gogledd Cymru wedi gweithio’n dda iawn yma ac rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y berthynas yma.”

Mae datblygiad arall eisoes ar y gweill gan Tai Gogledd Cymru a Chyngor Wrecsam.

Cartrefi newydd yn cynnig dyfodol newydd i bobl leol Y Rhyl

Mae chwech o drigolion lleol yn elwa o gartrefi newydd sydd wedi cael eu hailddatblygu i’w rhentu diolch i bartneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl.

Mae’r eiddo ar John Street yng Ngorllewin y Rhyl, a fu cyn hyn yn cartrefu tua 12 o fflatiau un ystafell, wedi cael eu trawsnewid i 6 o fflatiau ansawdd uchel, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon ac sydd hefyd yn fflatiau fforddiadwy.

Mae’r fflatiau yn agos at fan gwyrdd cymunedol newydd Gerddi Heulwen, ac wedi’u lleoli yng nghanol ardal adfywio strategol Llywodraeth Cymru a’r eiddo yma cyntaf i’w ddwyn yn ôl i ddefnydd yn dilyn rhaglen gwaith adfywio.

Mae Maria Dawson un o’r tenantiaid newydd wrth ei bodd:

“Rydw i mor hapus oherwydd byddaf yn cael cymaint o fudd o’r fflat hardd yma. Rwy’n dioddef o arthritis difrifol ac roeddwn yn byw mewn fflat ar y trydydd llawr cyn hyn, felly mae pethau’n bendant yn mynd i fod yn llawer gwell ac yn haws i mi rŵan. Mae gen i fynediad hefyd i ardal gardd sydd yn mynd i fod yn hyfryd pan fyddaf yn sâl ac eisiau mymryn o awyr iach. Rwyf mor ddiolchgar.”

Dywedodd Fiona Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Tir Gorllewin y Rhyl:

“Rydym yn hynod falch o allu trosglwyddo goriadau’r eiddo yma i bobl leol. Mae safon y gwaith a wnaed gan Carroll Builders & Contractors yn ardderchog ac mae’r tenantiaid newydd yn hapus iawn gyda’u cartrefi newydd. “

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl a Tai Gogledd Cymru wedi bod yn cydweithio ers dechrau 2012 i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ac i safon dda, er mwyn eu rhentu i bobl leol am bris fforddiadwy. Dyma’r eiddo diweddaraf a ddatblygwyd ac rydym yn falch dros ben gyda sut y mae pethau wedi mynd ar y safle. Rydym yn gobeithio y bydd y tenantiaid newydd ymgartrefu a mwynhau byw yn eu cartrefi newydd “.

Mae’r eiddo yma wedi ei leoli gyferbyn â Datblygiad Tai Afallon ar Ffordd yr Abaty, datblygiad cyntaf Menter Tai Cydweithredol Gorllewin y Rhyl, sy’n bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Tir a Thai Gogledd Cymru, gan adeiladu ar ddyheadau’r gymuned.

Hwyl a sbri Nos Galan Gaeaf yn stadau tai!

Bydd Prosiect Bus Stop yn ymweld ag nifer o ein stadau tai yn gwneud gweithgareddau Nos Galan Gaeaf AM DDIM yn mis Hydref.

Y dyddiadau a’r lleoliadau yw:

  • Maes Myrddin, Llanrwst – Dydd Llun 26 Hydref 1:30yp – 3:00yp
  • Ffordd Dawel & Heol Dirion, Colwyn Bay – Dydd Mercher 28 Hydref 5:00yp – 6:30yp
  • Parc Clarence, Llandudno – Dydd Iau 29 Hydref 1:00yp – 14:30yp

Dewch draw gydag eich plant a chadwch lygaid allan am y bws glas!

Gweithgareddau hwylus gyda Bus Stop yn Maes y Llan

Bydd Prosiect Bus Stop yn ymweld â Maes Y Llan, Towyn o mis Hydref i Rhagfyr.

Dewch i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau anffurfiol a hwylus sydd yn cael ei gynnal ar eich stâd.

Byddem yno ar y dyddiadau canlynol:

  • 19eg o Hydref 4.00—5.00yp
  • 2il o Dachwedd 4.00—5.00yp
  • 16eg o Dachwedd 4:00-5:00yp
  • 30ain o Dachwedd 4:00– 5:00yp
  • 14eg o Rhagfyr 4:00– 5:00yp

Mae pob sesiwn AM DDIM ac yn agored I unrhyw oed. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal o’r Bws Bus Stop ar eich stâd.

Lawrlwythwch y poster yma

Tai newydd sbon i deuluoedd ar gyfer Gorllewin Y Rhyl

 

Mae gwaith wedi dechrau ar gynllun tai arloesol £1.4 miliwn sy’n anelu at ailadeiladu cymuned yn y Rhyl.

Mae datblygiad newydd Afallon wedi ei leoli yn Ffordd yr Abaty yng nghanol ardal orllewinol y dref ac yn edrych dros fan gwyrdd Gerddi Heulwen a agorodd y llynedd.

Y sbardun y tu ôl i’r cynllun yw Menter Tai Gydweithredol Gorllewin y Rhyl, sef menter tai rhent trefol cyntaf Cymru, a ffurfiwyd gan Tai Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl.

Meddai Fiona Davies, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth:

Mae hwn yn gyfle cyffrous i deuluoedd lleol i elwa o dai fforddiadwy newydd sbon o safon uchel. Nod y fenter gydweithredol yw ailadeiladu’r gymuned glos a fu unwaith yn ffynnu yng Ngorllewin y Rhyl.”

Mae tenantiaid yn dod yn aelodau o’r cwmni tai cydweithredol, sy’n rhoi hawl iddynt i gymryd rhan yn y ffordd y mae eu heiddo yn cael ei reoli a phenderfynu a dylanwadu ar gynlluniau a phrosiectau’r dyfodol yn yr ardal.

Croesawyd y datblygiad gan Barry Mellor, Maer y Rhyl a ddywedodd:

Mae’n wych. Dyma’r union beth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers amser hir iawn, a bydd yn rhoi hwb sylweddol i’r ardal hon.

 

Mae meddwl bod yr Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol wedi gwneud hyn yn anghredadwy ac i gael Anwyl, cwmni lleol, yn gwneud y gwaith adeiladu mae’n ardderchog – beth rydym ei angen rŵan yw i gwmnïau eraill ymuno a rhoi help llaw.”

Bydd adeiladwyr nodedig Anwyl, sydd wedi eu lleoli yn y Rhyl, yn adeiladu saith o gartrefi teuluol tair ystafell wely newydd gyda gerddi preifat a lle parcio ac yn ailwampio hen adeiladau masnachol a fydd yn gartref i siop gymunedol a becws ar y llawr gwaelod gyda dau o fflatiau un ystafell wely a dau o fflatiau dwy ystafell wely uwchben.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

Mae Tai Gogledd Cymru yn falch o fod yn rhan o’r gwaith adfywio pwysig yma yng Ngorllewin y Rhyl.

 

Mae Afallon yn brosiect tai cymunedol deniadol sy’n darparu cartrefi go iawn i deuluoedd ac sydd wedi eu hadeiladu i ansawdd da a safon effeithlonrwydd ynni uchel hefyd.

 

Ei nod yw creu cymuned fywiog lle mae teuluoedd a busnesau yn dymuno setlo a ffynnu.”

Dywedodd Joan Butterfield, Cynghorydd Gorllewin y Rhyl ar Gyngor Sir Ddinbych, sydd hefyd yn aelod o’r Ymddiriedolaeth:

Mae’n gyfle gwirioneddol wych i’r bobl yma gychwyn adeiladu cymuned go iawn o’r diwrnod cyntaf.

 

Mae’r prosiect yn fenter gymdeithasol wirioneddol sy’n cynnwys y bobl sy’n byw yma ac yn rhoi cyfleoedd a sgiliau iddynt, ac rwy’n credu y bydd yn rhoi hwb i’r Rhyl yn gyffredinol.”

Dywedodd Nikki Jones, Cyfarwyddwr Menter Tai Gydweithredol Gorllewin y Rhyl:

Rydym yn awyddus i glywed gan deuluoedd lleol sydd am fod yn rhan o’r cwmni cydweithredol a gwneud cais i fyw yn y tai teulu newydd.

 

Os oes gan bobl sydd ar hyn o bryd yn byw neu’n gweithio yn y Rhyl neu ardaloedd cyfagos ddiddordeb mae yna amser o hyd i wneud cais i ddod yn denantiaid.”

I gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais ffoniwch 01745 339779 neu anfonwch e-bost at [email protected].

Datblygiad Ffordd Whitegate yn nodi ehangu Tai Gogledd Cymru yn Wrecsam

Mae’r gwaith wedi dechrau’n swyddogol ar ddatblygiad tai cymdeithasol newydd gwerth £1.5 miliwn yn Wrecsam, fydd yn darparu 12 o dai rhent fforddiadwy newydd yn yr ardal.

Y datblygiad  hwn yw datblygiad cyntaf TGC yn y rhanbarth, a hynny mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam.

Trefnwyd ddigwyddiad gan Tai Gogledd Cymru I i nodi dechrau’r gwaith ar y safle, ac er mwyn croesawu partneriaid a’r Cynghorwyr lleol Mark Pritchard ac Ian Roberts i roi mwy o wybodaeth iddynt am y datblygiad pwysig hwn.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gael cychwyn ar y datblygiad hwn yn Wrecsam. Mae’n nodi ehangu i Tai Gogledd Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyngor Wrecsam. Trwy weithio mewn partneriaeth agos fel hyn gallwn wella rhagolygon tai teuluoedd ifanc lleol.”

Mae’r safle wedi’i leoli oddi ar Ffordd Whitegate yn Wrecsam, ac yn y gorffennol cafodd ei ddefnyddio fel maes parcio. Bydd TGC a’r contractwyr a benodwyd, Grŵp K & C, yn trawsnewid  y safle, gan ddarparu 12 o gartrefi sydd eu dirfawr angen yn yr ardal, sef 6 tŷ gyda 2 ystafell wely a 6 fflat un ystafell wely.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Arweiniol dros Dai, Cyngor Wrecsam:

Mae tai fforddiadwy yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor a bydd y datblygiad hwn yn helpu tuag at ddiwallu’r angen yma.”

 

Partneriaeth yn creu cartrefi newydd ar Ynys Môn

Mae pump o denantiaid yn elwa o gartrefi newydd sbon i’w rhentu diolch i bartneriaeth gyda Chymdeithas Tai Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a Cyngor Sir Ynys Môn.

Mae’r prosiect tai cymdeithasol Rhes Capel ar safle yng Nghaergybi wedi cael ei ariannu ar y cyd gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru a cronfa Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Gymunedau a Mynd i’r Afael â Thlodi:

“Rwy’n hapus bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi y dablygiad yma gyda chyllid o bron i £310,000. Mae’r cynllun wedi creu cartrefi o safon uchel i bobl lleol, a hefyd wedi defnyddio cwmniau a chyflenwyr lleol ac felly wedi cefnogi yr economi lleol”.

“Mae’r datblygiad yn esiampl ardderchog o  gydweithio effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, a’r sector adeiladu tai preifat lleol, sydd yn helpu i ddelifro ein gweledigaeth ar gyfer tai yng Nghymru. Rwy’n dymuno pob hapusrwydd i’r tenantiaid yn eu cartrefi newydd”.

Mae’r rhes o bum annedd newydd tri person, dwy ystafell wely, wedi cael ei adeiladu ar safle yr hen Eglwys Fethodistaidd Saesneg yn Ffordd Longford, ac fe’i lleolir yn agos at ysgolion lleol a chyfleusterau eraill. Mae’r cartrefi newydd wedi cael eu hadeiladu i fodloni safonau ansawdd dylunio tai Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae Rhes Capel yn brosiect gwych a rydym yn falch o fod wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru. Mae adfywio Caergybi yn dod yn ei flaen ac mae’r prosiect hwn yn ddatblygiad gwych arall i Dai Gogledd Cymru ei reoli.”

Ychwanegodd deilydd portfolio Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Aled Morris Jones :

“Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan bwysig wrth wireddu’r datblygiad hwn, sy’n cyfrannu at ein hamcanion tai ac adfywio.”

 

Gwelliant blasus ar y stryd fawr

Mae’r adeilad lle’r oedd y Bistro ar Stryd Fawr Llanberis wedi cael ei drawsnewid efo gwaith mawr arno, fel bod beth oedd gynt yn lle bwyta erbyn hyn yn nifer o gartrefi i bobl leol.

Roedd Tai Gogledd Cymru wedi prynu’r adeilad yn 2012 a datblygu cynlluniau i drawsnewid ac adfywio, a chreu naw o fflatiau dwy ystafell wely.

Mae croeso i’r fflatiau newydd yn Llanberis ymysg pobl sy’n gweld effeithiau’r cynnydd parhaus mewn prisiau tai, wedi’i yrru ymlaen gan y diwydiant twristiaeth, a hefyd ymysg pobl sy’n gobeithio cael cartref yn ardal y pentref prydferth hwn.

Mae hwn yn adeilad sylweddol ar y gornel, ac ers i’r Bistro gau yn 2008/9, mae wedi bod yn wag ac yn dirywio fesul dipyn. Roedd wedi mynd yn ddolur llygad ar y brif stryd ac yn denu fandaliaid a thynnu oddi wrth yr ardal o’i gwmpas.

Y contractwr lleol Celtic Souza sydd wedi rheoli’r gwaith ar ran Tai Gogledd Cymru. Mae’r cynllun wedi cael ei ddatblygu fel rhan o gydweithio ehangach rhwng Cyngor Gwynedd a Thai Gogledd Cymru, efo arian pellach oddi wrth Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mi fydd cwblhau’r prosiect yma’n cynnig gymaint o fanteision i’r gymuned leol. Rydan ni nid yn unig yn adfer a gwella adeilad mawr oedd yn cael effaith wael ar yr ardal leol, ond hefyd yn creu nifer o gartrefi ffantastig i bobl leol.”

“Mae prosiectau cartrefi gwag fel hyn yn ymwneud ag edrych ar adeiladau presennol sydd wedi cael eu hesgeuluso neu eu hanwybyddu a rhoi bywyd newydd iddynt. Mae ailddatblygu’r Bistro yn enghraifft wych o sut a pham y mae’r fenter hon yn gweithio cystal.”

Dyrannwyd tenantiaid newydd ar gyfer pob un o’r fflatiau dwy ystafell wely a chyn bo hir byddant yn symud i mewn i’w cartrefi newydd.