Hobi crosio yn hel cannoedd o bunnoedd ar gyfer apêl pabi

Mae Mrs Liliana Owen wedi troi ei hobi yn rhywbeth gwerth chweil go iawn, gan fynd ati i grosio a gwerthu 124 pabi coch er budd Apêl y Pabi mis Tachwedd, gan godi cannoedd o bunnoedd.

Roedd Liliana, 91 oed, yn difyrru’r amser trwy grosio pabis i’w chyd-breswylwyr yn natblygiad gofal ychwanegol Llys y Coed yn Llanfairfechan, ond yn gwbl annisgwyl mi wnaeth yr hobi dyfu’n rhywbeth mwy.

Eglurodd Mrs Liliana Owen:

Digwyddodd y cyfan ar ddamwain. Roeddwn yn gwneud pabis i breswylwyr ac mi wnaeth rhywun awgrymu fy mod yn eu gwerthu i godi arian at Apêl y Pabi.

 

Mi wnaethon nhw ddod yn boblogaidd iawn, ac mi wnes i ddechrau derbyn archebion am 10 ar y tro gan deulu a ffrindiau o bob cwr! Doedd crosio pabi ddim yn cymryd llawer o amser i mi, ac mi gefais help gan fy nghyd-breswylydd Mrs Eirwen Hughes.”

Mae Liliana yn crosio’n gyson ar gyfer achosion da, gan anfon ei chreadigaethau i nifer o elusennau megis Cancer Research UK i’w gwerthu ymlaen er mwyn codi arian. Mae hi hefyd yn cyflenwi dillad ar gyfer y babanod bach yn yr uned babanod cynamserol yn Ysbyty Bangor.

Rwy’n mwynhau crosio ac rwyf mor falch fy mod wedi gallu gwneud rhywbeth i helpu’r apêl a’n helpu i gofio.”