Lesley Griffiths AC yn agos yn swyddogol cynllun Gofal Ychwanegol Hafod y Parc, Abergele

Mae cynllun Gofal Ychwanegol arloesol Tai Gogledd Cymru yn Hafod y Parc wedi cael ei agor yn swyddogol gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, ar ddydd Iau 20 Tachwedd, 2014.

Mae Hafod y Parc yn gynllun Gofal Ychwanegol newydd gwerth £11 miliwn yn Rhodfa Cinmel sy’n cynnig dewis gwell i bobl dros 60 oed, gan ddarparu byw’n annibynnol gyda rhaglen gofal a chefnogaeth y gellir ei haddasu a’i hasesu wrth i’w hanghenion unigol newid. Mae’r cynllun wedi derbyn dros £6m oddi wrth Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Daeth preswylwyr, staff a gwesteion ynghyd i ddathlu agoriad swyddogol y cynllun wrth i Lesley Griffiths AC ddadorchuddio plac i nodi’r achlysur. Cafodd te prynhawn ei weini a chafwyd perfformiadau gan Gôr Ysgol Glan Morfa, yr ysgol leol hefyd.

Manteisiodd y gwesteion ar y cyfle i fynd o amgylch cyfleusterau safonol gwych Hafod y Parc. Mae’r safle wedi’i leoli o fewn parcdir coediog deiliog hardd, ac mae’r cynllun yn cynnwys llu o ardaloedd cymunedol modern ond cartrefol, gan gynnwys sawl lolfa; bwyty; siop trin gwallt ac ystafell driniaeth maldod; ystafell snwcer a gemau; ystafell TG a llawer mwy.

Cwblhawyd y gwaith adeiladu yn Ebrill 2014 ac mae pob un o’r 49 flat un a dwy ystafell wely wedi cael eu llenwi. Mae’r preswylwyr wedi ymgartrefu’n gyflym yn eu cartrefi newydd, gan sefydlu nifer o weithgareddau cymdeithasol a hyd yn oed yn ffurfio band preswyl.

Dywedodd Betty Fraser, un o breswylwyr Hafod y Parc:

“Hafod y Parc yw’r lle gorau i mi fyw ynddo erioed, nid wyf erioed wedi teimlo mor hapus a bodlon yn fy mywyd. Mae yma fwyd bendigedig a chefnogaeth ddiamod gan y staff, mae’n anhygoel! “

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:

“Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r cyfleuster yma yn Hafod y Parc a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac a fydd yn helpu i amddiffyn pobl rhag cael eu hynysu neu fod yn unig.”

“Mae cynlluniau fel hyn yn cefnogi ystod o anghenion tai ac rwyf wedi cyfarfod â nifer o breswylwyr heddiw sydd i gyd yn hynod o fodlon gyda’u cartrefi newydd.”

“Mae’r buddsoddiad yma nid yn unig wedi darparu cartrefi sydd eu dirfawr angen, mae hefyd wedi cefnogi’r economi drwy roi hwb i swyddi a thwf economaidd a darparu cyfleoedd hyfforddi i bobl leol.”

Ychwanegodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym mor falch o Hafod y Parc, mae’n gynllun eithriadol ac mae’n hawdd gweld apêl y datblygiad.”

“Mae pobl hŷn yn haeddu mwy o ddewis yn eu blynyddoedd diweddarach ac mae Hafod y Parc yn cynnig dewis amgen atyniadol iawn i fywyd cartref a gofal preswyl. I ni, mae Gofal Ychwanegol yn golygu galluogi pobl i wneud dewisiadau tai a gofal ystyriol gyda rhyddid hyblygrwydd wrth i’w hanghenion newid.”