Lledaenu ysbryd y nadolig trwy gydnabod cymdogion

Mae Tai Gogledd Cymru wedi lledaenu ychydig o ysbryd y Nadolig a dosbarthu hamperi blasus i breswylwyr ar draws Conwy a Gwynedd fel rhan o’i menter flynyddol ‘Enwebu Cymydog’.

Mae’r ymgyrch dymhorol yn nodi dechrau dathliadau’r Nadolig i Tai Gogledd Cymru ac mae wedi dod yn ddyddiad i’w groesawu yng nghalendr y gymdeithas tai.

Gwahoddwyd preswylwyr ar draws Conwy a Gwynedd i ‘Enwebu Cymydog’ sydd yn eu barn nhw yn haeddu ychydiog o syrpreis Nadoligaidd cynnar ac hamper llawn o bethau da.

Roedd y rhesymau dros yr enwebiadau yn amrywio o breswylwyr ag anawsterau eu hunain yn helpu eraill gyda gweithgareddau bob dydd y byddent fel arall yn cael trafferth gyda hwynt, i bobl a ddioddefodd salwch difrifol, ond oedd yn dal i fod yno ar gyfer eu cymdogion. Dangosodd eraill gefnogaeth ragorol i aelodau eraill o’r gymuned, gan helpu i lansio menter neu brosiect cymunedol neu a fu’n gymydog gwirioneddol wych.

Cafodd y cymdogion haeddiannol ymweliad annisgwyl gan Tai Gogledd Cymru ar ddydd Mawrth 17 Rhagfyr, pan ddaeth Siôn Corn, a’i geirw a thîm o helpwyr Dolig heibio yn eu sled i ddosbarthu’r hamperi a lledaenu ychydig o ysbryd yr ŵyl.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae hon yn ymgyrch wych y mae tenantiaid a staff bob amser yn awyddus i gymryd rhan ynddi. Bob blwyddyn rydym yn cael ein synnu gan rai o’r enwebiadau a gawn. Mae ein tenantiaid yn wir yn mynd yr ail filltir i helpu eu cymdogion, mae’n wych bod cymaint o ysbryd cymunedol ymysg ein tenantiaid.”