Menter gymunedol ar y rhestr fer am wobr

Mae cynllun ymgysylltu cymunedol sy’n cael ei gefnogi gan dair cymdeithas dai leol wedi cael ei roi ar restr fer am Wobr ‘Cyfranogiad Tenantiaid’ genedlaethol.

Bu Chymdeithas Tai Gogledd Cymru, Cartrefi Conwy a Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn gweithio mewn partneriaeth ers Mai 2013, fel rhan o Brosiect ‘Conwy Gyda’i Gilydd’ ac yn awr mae eu cynllun ar restr fer gan TPAS Cymru, y Gwasanaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Chynghori yng Nghymru ar gyfer eu seremoni wobrwyo flynyddol i’w chynnal yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae’r prosiect yn rhan o gynllun ‘Llais Cymunedol Conwy’ sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Conwy ac yn cael ei ariannu gan y Loteri Fawr.

Dan y cynllun mae’r tair cymdeithas dai wedi gweithio gyda’i gilydd i gynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ennyn diddordeb preswylwyr Conwy yn greadigol gan eu grymuso i gael lleisio eu barn o ran y gwasanaethau a’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau dyddiol.

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid Cymdeithas Tai Gogledd Cymru:

Mae Tai Gogledd Cymru yn eithriadol o falch bod y prosiect ar y rhestr fer. Yn sicr bu’r prosiect yn llwyddiant; bu’n allweddol wrth sicrhau bod tenantiaid anodd eu cyrraedd yn cael llais a mynegi eu barn am weithgareddau a gwasanaethau cyrff cyhoeddus. Mae tenantiaid Tai Gogledd Cymru wedi mwynhau’r llu o weithgareddau ac maent wedi eu gweld yn ddefnyddiol.”

Rhoddwyd prosiect Llais Cymunedol Conwy ar y rhestr fer yn y categori Prosiectau Cyfranogiad Tenantiaid yng Ngwobrau TPAS Cymru 2015 a fydd yn cael eu cyhoeddi yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar 25 Mehefin.