Newidiadau ar fwrrd Tai Gogledd Cymru
Mae Tai Gogledd Cymru wedi penodi tri Chyfarwyddwr Anweithredol newydd i wasanaethu ar ei Bwrdd Grŵp fel rhan o adolygiad cyffredinol o lywodraethu. Bydd yr aelodau newydd, David Jones, Susan Miller a Mark Richardson yn ymgymryd â’u swyddogaethau ym mis Ionawr yn dilyn ymgyrch recriwtio a gynhaliwyd gan y gymdeithas tai sydd wedi ei lleoli yng Nghyffordd Llandudno.
Mae llywodraethu effeithiol yn hanfodol ar gyfer cwmni fel Tai Gogledd Cymru, sy’n cyflogi tua 200 o bobl ac sydd â throsiant o £13 miliwn a rhaglen ddatblygu sylweddol. Yn 2014 cynhaliodd y cwmni adolygiad manwl o’u llywodraethu a datblygu dull gweithredu a strwythur newydd sy’n gweld Bwrdd Grŵp yn goruchwylio cyfeiriad strategol, busnes a rheolaeth ariannol y sefydliad.
Mae Peter Gibson, Cadeirydd Grŵp yn hyderus y bydd y newid hwn yn cryfhau perfformiad Tai Gogledd Cymru.
“Roedd yr adolygiad a gynhaliwyd gennym yn gynhwysfawr. Gallai aelodau presennol Bwrdd weld yr angen am newid a’r gwerth posibl i’r busnes o gryfhau ein haelodaeth, sy’n dangos agwedd hynod broffesiynoldeb. Bydd craidd aelodaeth y Bwrdd Grŵp newydd yn dod o’r Bwrdd presennol, ond mae’n siŵr y bydd yr aelodau newydd yn dod â safbwyntiau newydd ac egni newydd i’r busnes. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn a fydd yn ddechrau cyfnod newydd i Tai Gogledd Cymru.”
Mae Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru yr un mor frwdfrydig, gan ychwanegu:
“Mae Tai Gogledd Cymru wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi dod yn fusnes mwy cymhleth wrth i ni geisio cyflawni mewn ffyrdd gwahanol. Felly mae llywodraethu da wedi dod yn bwysicach nag erioed. Mae angen Bwrdd Grŵp sy’n meddu gweledigaeth, a all fod yn heriol ac yn gefnogol, yn dibynnu ar y gofynion.”
Mae pob un o’r tri aelod newydd yn lleol, ond mae gan bob un brofiad gyrfa sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt Nghymru.
Ychwanegodd Paul:
“Mae’r aelodau newydd yn dod ag ystod o sgiliau i ni, yn amrywio o reoli busnes a chydymffurfiaeth, mentrau cymdeithasol a bancio a gwasanaethau ariannol. Bydd y sgiliau hyn yn ychwanegu at y rhai sydd gennym eisoes ac yn ein helpu i godi ein llywodraethu i lefel uwch.”