Mae hostel digartref Santes Fair ym Mangor wedi lansio apêl am sanau!
Mae’r hostel wedi canfod o’r eitemau sy’n cael eu cyfrannu mai sanau yw’r mwyaf prin, ond eto i gyd mae angen mawr am barau o sanau. Mae traul ar sanau ac esgidiau yn gyffredin ymysg y rhai sy’n cysgu ar y stryd ac er mwyn helpu i gadw dynion a merched digartref yn gynnes ac yn rhydd o haint, mae cyflenwad da o sanau yn hanfodol.
Dywedodd Barbara Fitzsimmons o hostel Santes Fair sy’n cael ei reoli gan Tai Gogledd Cymru,:
“Yn rhyfedd ddigon pan fyddwn yn derbyn rhoddion dydan ni ddim yn cael llawer iawn o sanau ac yn aml iawn mae’n rhaid i ni brynu rhai newydd lle gallwn. Rwy’n credu mai eitem sy’n cael ei anghofio yw sanau gan fod pobl yn tueddu i ganolbwyntio ar eitemau swmpus fel cotiau a siwmperi.”
Ychwanegodd:
“Mae unrhyw anrhegion diangen yn ddelfrydol neu efallai y gall pobl sbario pâr o sanau o becyn ‘multipack’. Felly, mae llawer o bobl sy’n rhoi mewn gwirionedd yn prynu o’r newydd ac yn hynod o hael – felly byddem yn gofyn i bobl sydd yn ystyried cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth i feddwl am draed, a sanau yn arbennig!”
Gellir gadael rhoddion wrth giatiau’r hostel ar Lôn Cariadon ym Mangor.
Fel rhan o ymgyrch y Santes Fair i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael mynediad at ddillad cynnes ac offer awyr agored, bydd timau o Tai Gogledd Cymru yn mentro unwaith eto i ŵyl Wakestock ar ôl y digwyddiad i gasglu unrhyw ddeunyddiau a adawyd ar ôl. Bydd dillad, esgidiau ac offer gwersylla sydd wedi cael eu gadael yn cael eu hadennill gan y tîm, eu cymryd yn ôl i’r hosteli, eu glanhau a’u storio yn barod ar gyfer misoedd y gaeaf pan fydd cyflenwadau ar eu hisaf.
Meddai Barbara:
“Mae casgliad Wakestock yn ffordd wych o gael mynediad at swm enfawr o eitemau gwirioneddol ddefnyddiol fydd yn helpu pobl sy’n cysgu allan i oroesi’r gaeaf. Bydd ein tîm o wirfoddolwyr yn treulio’r diwrnod yn cerdded drwy’r sbwriel i geisio darganfod eitemau gwerthfawr i ni allu eu defnyddio a’u rhannu gyda defnyddwyr gwasanaeth. “