Caniatad Cynllunio llwyddiannus i atal digartrefedd ym Mangor

Rydan ni’n cydweithio hefo Cyngor Gwynedd a Adra er mwyn ail ddatblygu’r safle segur, 137 Stryd Fawr Bangor i fod yn 12 o fflatiau gyda chefnogaeth i atal digartrefedd yng Ngwynedd. Bydd Adra yn arwain ar y datblygu, tra y bydd yr adeilad wedyn yn cael ei reoli mewn partneriaeth gan Tai Gogledd Cymru a Cyngor Gwynedd.

Mae’r cais cynllunio wedi bod yn llwyddiannus ac felly bydd gwaith yn dechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf, 2021.

Rydan ni yn hynod falch o fod yn cydweithio hefo Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd er mwyn ail ddatblygu’r safle segur a fydd wedyn yn darparu llety/cartrefi addas i gynorthwyo a chyfrannu at atal digartrefedd ym Mangor, Gwynedd.

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra:

“Rydym mor falch bod y datblygiad yma wedi cael caniatad cynllunio, fedra i’m disgwyl i weld pobl yn cael symud i mewn i’w cartrefi newydd pan fydd y datblygiad wedi ei gyflawni.

“Mae cynnydd o bron i 40% yng nghanran digartrefedd yng Ngwynedd dros y 5 mlynedd diwethaf, a gyda chynnydd mewn achosion Credyd Cynhwysol eleni a cholli gwaith o ganlyniad i’r pandemig hefyd, mae yna alw am lety a gwasanaeth fel hyn yn fwy nag erioed.

“Rydym mor falch o fod yn cydweithio hefo Cyngor Gwynedd a Tai Gogledd Cymru ac yn falch ein bod yn cymryd camau i gyfarch y mater hwn ac i helpu pobl fregus, sydd mewn angen tai yng Ngwynedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd:

“Mae to dros eich pen yn rhywbeth mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Ond yn anffodus, mae amgylchiadau cymdeithasol yn golygu fod yr hawl dynol yma yn rywbeth sydd y tu hwnt i afael rhai pobl leol. Mae hynny’n annheg ac rydym yn benderfynol o wneud iawn am hynny.

“Rydym felly yn falch iawn o weld y prosiect pwysig yma yn bwrw ymlaen ac yn edrych ymlaen – mae’n rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor ar gyfer y blynyddoedd nesaf lle byddwn yn cydweithio efo partneriaid i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at dai addas.

“Bydd y prosiect yma yn cynnig cam cyntaf pwysig i bobl tuag at annibyniaeth a chartref hir-dymor wrth adeiladu bywydau annibynnol. Braf hefyd i weld y bydd bywyd newydd yn cael ei gynnig i adeilad sylweddol sydd wedi bod yn segur ers peth amser yn y rhan yma o Fangor.”

Dywedodd Brett Sadler, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn croesawu’r newyddion da bod caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad hwn. Rydym yn falch y byddwn, trwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd ac Adra, yn cefnogi digartrefedd ym Mangor, gan ategu’r gwaith y mae ein Tîm Allgymorth ac Ailsefydlu eisoes yn ei wneud yn yr ardal.”

“Fodd bynnag, rydym yn deall nad yw darparu cartref yn ddigonol, a byddwn hefyd yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol gan ein staff ymroddedig a gwybodus, i’w galluogi i lwyddo i fyw’n annibynnol.”

Mae’r holl bartneriaid wedi ymrwymo i gyflawni’r prosiect yma a byddwn yn gweithio hefo gwasanaethau arbenigol a sefydliadau gwirfoddol sy’n gweithredu ym Mangor.

Pen-blwydd Hapus i Monte Bre yn 30 oed!

Roedd y cynllun iechyd meddwl Monte Bre yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 ym mis Medi eleni.

Lleolir yn Llandudno, mae Monte Bre yn darparu llety â chymorth i breswylwyr sy’n gwella, neu sydd â phroblem iechyd meddwl hirdymor.

Dathlodd y cynllun y garreg filltir hon drwy wahodd rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol y maent yn gweithio gyda hwy i gael gwybodaeth bellach am y cynllun a’r gwaith a wnânt.  Dros ginio bwffe a chacen buont yn siarad gyda’r preswylwyr, y Gweithwyr Prosiect Judith Lewis a Joe Lambe a’r Rheolwr Kerry Jones, gan drafod rhai o’r prosiectau gwaith gwych maent yn eu cyflawni,

Pen-blwydd Hapus yn 30 Monte Bre – a dymuniadau gorau am lawer o flynyddoedd i ddod!!

Gwasanaeth digartref yn elwa o rodd cymunedol Waitrose

Derbyniodd gwasanaeth Tai Gogledd Cymru i’r digartref rhodd o £339 gan gynllun ‘Community Matters’ archfarchnad Waitrose, Porthaethwy ym mis Chwefror.

Lansiwyd cynllun Blwch Tocynnau Gwyrdd ‘Community Matters’ Waitrose yn 2008, gan alluogi siopwyr i ddewis elusen leol i’w chefnogi. Mae pob siopwr yn derbyn tocyn plastig gwyrdd i’w rhoi mewn blwch arbennig er mwyn cyfrannu at achos da o’u dewis.

Cyflwynwyd y siec o £339 i Aled Bebb, Gweithiwr Cymorth Ailsefydlu o fewn y Tîm Allgymorth ac Ailsefydlu, sy’n gweithio gyda digartref stryd ym Mangor a’r cyffiniau.

Meddai Aled:

“Hoffwn ddiolch yn fawr i gwsmeriaid Waitrose a ddewisodd gefnogi ein helusen. Rydym yn dibynnu’n fawr ar roddion fel hyn er mwyn gallu helpu i gadw’r gwasanaeth i fynd felly bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

“Mae’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i’r digartref yn darparu cymorth hanfodol i’w helpu i gadw’n gynnes a sych, gan gynnig bwyd, eitemau dillad a darpariaethau gwersylla argyfwng fel pebyll a sachau cysgu.”

Os hoffech roi cyfraniad galwch heibio Hostel Santes Fair ar Lôn Cariadon ym Mangor, neu ffoniwch 01248 362211 i drafod ymhellach.

Arddangos gwasanaethau yn helpu gwarchod pobl fregus

Aeth Tîm Tai â Chymorth Tai Gogledd Cymru ar y lôn ym mis Medi i arddangos y gwasanaethau a’r cymorth y maent yn eu cynnig i breswylwyr bregus.

Roedd y digwyddiad wedi’i anelu at ddarparwyr gwasanaeth, asiantaethau, sefydliadau a phartïon eraill sydd â diddordeb, a oedd yn dymuno gwybod mwy am y gwasanaethau y gallwn eu cynnig a sut i gyfeirio pobl at ein gwasanaethau.

Esboniodd Lynne Evans, Pennaeth Tai â Chymorth:

“Mae Tai Gogledd Cymru yn darparu ystod eang o wasanaethau tai â chymorth a gwasanaethau cymorth i bobl fregus ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys pobl ddigartref a rhai sy’n cysgu ar y stryd, pobl ifanc sy’n gadael gofal, pobl â phroblemau iechyd meddwl, a phobl ag anableddau dysgu.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill, ond mae digwyddiadau fel hyn yn  cynnig cyfle i ni atgoffa pawb o’r hyn rydym yn ei wneud a sut y gallwn weithio’n agosach gyda’n gilydd. Mae hefyd yn gyfle gwych i roi enw ar wynebau!”

Roedd Defnyddwyr y Gwasanaeth Tai â Chymorth hefyd yn bresennol yn y digwyddiad ac mi  dreuliodd y rhai oedd yn bresennol dipyn o’u hamser yn siarad â nhw am eu siwrne tai. Mae eu straeon yn dangos bod defnyddwyr bregus, gyda chefnogaeth darparwyr megis Tai Gogledd Cymru, yn gallu symud ymlaen gyda’u bywydau yn llwyddiannus.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cefnogi ymgyrch ‘Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl’, ymgyrch yn y sector i godi ymwybyddiaeth am y rhaglen Cefnogi Pobl, y bobl sy’n cael budd, natur ataliol y rhaglen a sut y mae’r arian yn cael ei wario.

Roedd Lynne yn hynod o falch i ddatgelu bod digwyddiadau fel hyn a’r ymgyrch wedi dilyn i ddiogelu grantiau am flwyddyn arall:

“Mae nifer o gynlluniau Tai â Chymorth TGC yn cael eu hariannu gan Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Rydym yn hynod o falch bod Llywodraeth Cymru eto wedi ymrwymo i ddiogelu Grant Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer 2017/18 yn eu cyllideb ddiweddar”

“Mae’r Rhaglen Cefnogi Pobl yn cefnogi dros 60,000 o bobl fregus dros Gymru bob blwyddyn. Tra bydd y blynyddoedd nesaf yn galed, gyda phwysau cynyddol ar wariant gwasanaethau cyhoeddus dros y bwrdd, mae amddiffyn y cyllid hwn yn golygu mi fydd gennym fwy o allu i ymateb i sialensiau yn y dyfodol.”

“Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig ofnadwy i arddangos yr effaith positif ar fywydau pobl fregus a chynnal cymunedau. Mae hefyd yn annog mwy o gyd-weithio, sydd yn hanfodol i gadw gwasanaethau i fynd.

Rhoddion gan breswylwyr yn cadw’r digartref yn gynnes y gaeaf hwn

Ym mis Medi eleni anfonodd hostel Santes Fair i’r digartref ym Mangor apêl brys am roddion wrth i gyflenwadau eu gwasanaeth i’r digartref fynd yn beryglus o isel.

Camodd adran Pobl Hŷn a phreswylwyr Tai Gogledd Cymru i’r adwy gan gydweithio i gasglu rhoddion.

Esboniodd Eirlys Parry, y Pennaeth Pobl Hŷn, pam eu bod wedi penderfynu helpu:

“Wedi i ni ddarllen yn ein newyddlen am y prinder roeddem yn awyddus iawn fel adran i helpu. Mae estyn cymorth yn cychwyn ar garreg ein drws ac roeddem yn hynod awyddus i helpu ein cydweithwyr. Mae’r tenantiaid Pobl Hŷn hefyd yn wirioneddol dda am godi arian ar gyfer gwahanol elusennau drwy gydol y flwyddyn, felly roeddem yn gwybod y byddent yn gwneud yn dda.

“Daeth preswylwyr ar draws Gogledd Cymru at ei gilydd i gasglu, gan ddethol o’u casgliadau eu hunain yn ogystal â rhai ffrindiau a theuluoedd. Roedd y canlyniad yn anhygoel, ac roedd pawb yn hynod o hael. Mi wnaethon ni gasglu pentwr o ddillad a bocsys yn orlawn o fwyd.”

Trosglwyddodd y Tîm y pentwr anferth o roddion i Hostel Santes Fair ar Lôn Cariadon, Bangor mis Hydref.

Roedd Rob Parry, Rheolwr Cynllun yn y Santes Fair, wrth ei fodd efo’r rhodd:

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r adran Pobl Hŷn a’r preswylwyr am eu haelioni, a hoffwn ddiolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth.”

“Mae’r gwasanaeth clwyd a gynigir yn y Santes Fair i ddigartref y stryd ym Mangor yn dibynnu’n helaeth ar roddion er mwyn cadw i fynd. Gyda’r gaeaf oer yn agosáu roeddem yn bryderus bod ein stoc yn isel ac roedd dirfawr angen y rhodd hwn.”

Cael gwybod mwy am roddion angenrheidiol yma. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw bebyll, sachau cysgu, dillad cynnes neu fwyd ewch ag unrhyw roddion draw i’r Santes Fair, Lôn Cariadon, Bangor neu cysylltwch â 01248 362211 ar gyfer trefniadau eraill.

Eisiau Sachau Cysgu a Phebyll ar frys

Mae hostel Santes Fair a’r Tîm Allgymorth ac Adsefydlu yn cynnig gwasanaeth giât ym Mangor. Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth hanfodol er mwyn helpu’r digartref i aros yn gynnes a sych, gan gynnig bwyd, eitemau dillad a darpariaethau gwersylla argyfwng iddynt fel pebyll a sachau cysgu.

Rydym yn dibynnu’n helaeth ar roddion gan unigolion a busnesau er mwyn gallu helpu i gadw’r gwasanaeth i fynd.

Nid oes gennym unrhyw bebyll neu sachau cysgu chwith ar hyn o bryd. Gyda tywydd oer prysur agosáu mae hyn yn sefyllfa bryderus.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cyfraniad alw heibio Hostel Santes Fair ar Lôn Cariadon, Bangor, neu gysylltu â 01248 362211 ar gyfer trefniadau arall.

Sanau santes fair

Mae hostel digartref Santes Fair ym Mangor wedi lansio apêl am sanau!

Mae’r hostel wedi canfod o’r eitemau sy’n cael eu cyfrannu mai sanau yw’r mwyaf prin, ond eto i gyd mae angen mawr am barau o sanau. Mae traul ar sanau ac esgidiau yn gyffredin ymysg y rhai sy’n cysgu ar y stryd ac er mwyn helpu i gadw dynion a merched digartref yn gynnes ac yn rhydd o haint, mae cyflenwad da o sanau yn hanfodol.

Dywedodd Barbara Fitzsimmons o hostel Santes Fair sy’n cael ei reoli gan Tai Gogledd Cymru,:

“Yn rhyfedd ddigon pan fyddwn yn derbyn rhoddion dydan ni ddim yn cael llawer iawn o sanau ac yn aml iawn mae’n rhaid i ni brynu rhai newydd lle gallwn. Rwy’n credu mai eitem sy’n cael ei anghofio yw sanau gan fod pobl yn tueddu i ganolbwyntio ar eitemau swmpus fel cotiau a siwmperi.”

Ychwanegodd:

“Mae unrhyw anrhegion diangen yn ddelfrydol neu efallai y gall pobl sbario pâr o sanau o becyn ‘multipack’. Felly, mae llawer o bobl sy’n rhoi mewn gwirionedd yn prynu o’r newydd ac yn hynod o hael – felly byddem yn gofyn i bobl sydd yn ystyried cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth i feddwl am draed, a sanau yn arbennig!”

Gellir gadael rhoddion wrth giatiau’r hostel ar Lôn Cariadon ym Mangor.

Fel rhan o ymgyrch y Santes Fair i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael mynediad at ddillad cynnes ac offer awyr agored, bydd timau o Tai Gogledd Cymru yn mentro unwaith eto i ŵyl Wakestock ar ôl y digwyddiad i gasglu unrhyw ddeunyddiau a adawyd ar ôl. Bydd dillad, esgidiau ac offer gwersylla sydd wedi cael eu gadael yn cael eu hadennill gan y tîm, eu cymryd yn ôl i’r hosteli, eu glanhau a’u storio yn barod ar gyfer misoedd y gaeaf pan fydd cyflenwadau ar eu hisaf.

Meddai Barbara:

“Mae casgliad Wakestock yn ffordd wych o gael mynediad at swm enfawr o eitemau gwirioneddol ddefnyddiol fydd yn helpu pobl sy’n cysgu allan i oroesi’r gaeaf. Bydd ein tîm o wirfoddolwyr yn treulio’r diwrnod yn cerdded drwy’r sbwriel i geisio darganfod eitemau gwerthfawr i ni allu eu defnyddio a’u rhannu gyda defnyddwyr gwasanaeth. “

Rhowch Nadolig i bobl ddigartref Bangor eleni

Rydym yn credu bod pawb yn haeddu Nadolig. Dyna pam rydym yn lansio yr apêl Nadolig yma, er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl ddigartref o Fangor hefyd yn cael y Nadolig y maent yn ei haeddu eleni.

Mae gan Tai Gogledd Cymru ddau hostel i’r digartref ym Mangor, sef Santes Fair a Pendinas. Trwy gydol y flwyddyn mae’r hosteli’n dibynnu’n llwyr am roddion er mwyn helpu i gadw’r gwasanaeth i fynd.

Y Nadolig hwn rydym eisiau gwneud mwy; rydym am gynnig Nadolig eu hunain i bobl ddigartref Bangor. Rydym am allu cynnig pryd o fwyd Nadolig ac anrhegion ymarferol iddynt; pethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol.

Sut allwch chi helpu?

Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth a’ch cefnogaeth yn y ffyrdd canlynol:

• Cyfrannu eitemau fel rhoddion ymarferol, bwyd, dillad cynnes a blancedi

• Rhoi arian er mwyn i ni allu prynu’r eitemau hyn

• Rhannu negeseuon o’n tudalen Facebook a Twitter er mwyn codi ymwybyddiaeth

Ble allwch chi gyfrannu rhoddion?

Gallwch ddod â’ch rhoddion i Hostel Santes Fair (Lôn Cariadon, Bangor LL57 2TE) neu alw heibio ein swyddfa ym Mangor (30 Stryd y Deon, Bangor. LL57 1UR). Neu cysylltwch ar 01248 362211 neu [email protected] i drefnu i’w casglu. Os hoffech fwy o wybodaeth neu ragor o bosteri, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni unrhyw bryd.

Diolch i chi am eich cefnogaeth, byddem yn ddiolchgar iawn i chi am eich haelioni.

Adran Tai â Chefnogaeth yn arddangos ei gwasanaethau allweddol i breswylwyr bregus

Mae adran Tai â Chefnogaeth wedi cynnal digwyddiad partner galw heibio i arddangos y gwasanaethau a’r gefnogaeth y maent yn eu darparu i’w tenantiaid.

Yn gynyddol mae Tai Gogledd Cymru yn un o arweinwyr maes Gwasanaethau Tai â Chefnogaeth, gan ddarparu gwasanaethau rhagorol i ddefnyddwyr gwasanaeth a chyllidwyr ar draws gogledd Cymru.

Eglurodd Lynne Evans, Pennaeth Tai â Chefnogaeth gyda Tai Gogledd Cymru:

Rydym yn darparu ystod eang o lety a chefnogaeth a gwasanaethau cymorth i bobl fregus ledled gogledd Cymru, gan gynnwys pobl ddigartref a rhai sy’n cysgu ar y stryd, pobl ifanc sy’n gadael gofal, pobl â phroblemau iechyd meddwl, a phobl ag anableddau dysgu.

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i gyfarfod â phartneriaid a chyllidwyr ac atgyfnerthu’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, yn ogystal â thrafod sut y gall ein llety a’n gwasanaethau gefnogi eu cleientiaid.”

Daeth nifer o bobl leol allweddol draw i gefnogi’r digwyddiad a drefnwyd gan Kerry Jones, Rheolwr Cynllun TGC. Roedd y mynychwyr yn cynnwys Maer Bae Colwyn, y Cynghorydd Doctor Sibani Roy a’r Cynghorydd Philip Edwards, a achubodd ar y cyfle i ymweld â stondinau ardal yr adran, gan siarad â staff a defnyddwyr gwasanaeth.

Dywedodd Lynne Evans, Pennaeth Tai â Chefnogaeth gyda Tai Gogledd Cymru:

Roedd defnyddwyr gwasanaeth Tai â Chefnogaeth yn bresennol yn y digwyddiad ac mi wnaeth y rhai oedd yno dreulio amser yn siarad â nhw am eu taith tai.

Mae dau o’r defnyddwyr gwasanaeth oedd yn bresennol, Peter a Patrick, yn enghreifftiau gwych o sut mae’r broses yn TGC yn gweithio, gan fod y ddau wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i fyw’n annibynnol yn eu heiddo eu hunain, diolch i’r gefnogaeth a gynigiwyd gan TGC. Mae llwyddiannau fel hyn yn gwneud ein swyddi werth chweil.”

Caiff nifer o gynlluniau Tai â Chefnogaeth TGC eu hariannu gan Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Yng Nghymru, cafwyd pwysau cynyddol ar y ffynhonnell ariannu yma, gyda thoriadau blwyddyn ar ôl blwyddyn a mwy yn yr arfaeth. Mae digwyddiadau fel hyn yn annog mwy o gydweithio gan fod hynny’n hanfodol er mwyn cadw’r gwasanaethau i fynd.

Dywedodd Lynne Evans, Pennaeth Tai â Chefnogaeth gyda Tai Gogledd Cymru:

Rydym yn gefnogwyr ymgyrch ‘Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl’. Nod yr ymgyrch yw sicrhau buddsoddiad parhaus yn y Rhaglen Cefnogi Pobl a sicrhau bod pobl sy’n cael eu gwthio i’r cyrion ac sy’n wynebu risg yn parhau i gael eu hamddiffyn.”

 

Helpu’r digartref ym Mangor wrth i oerfel y gaeaf ddechrau brathu

Mae Hostel Santes Fair i’r digartref ym Mangor wedi lansio ei apêl Gaeaf blynyddol i gefnogi rhai sy’n cysgu allan yn y dref a’r cyffiniau wrth i’r tymor oer ddechrau. Ffeindiwch allan sut fedrwch chi helpu.

Mae’r hostel yn cynnig cymorth a chefnogaeth i ddynion a merched digartref lleol, gan ddarparu llety ar gyfer hyd at 13 o bobl. Mae Santes Fair bob amser yn llawn i’r ymylon ac mae’r hostel hefyd yn cefnogi pobl sy’n cysgu allan nad yw’n gallu cynnig lle dan do iddynt, gan ddarparu eitemau allweddol gan gynnwys sachau cysgu, pebyll, blancedi a dillad, sy’n hanfodol ar gyfer goroesi wrth i’r tywydd oer ddechrau brathu.

Er gwaethaf casglu cryn dipyn o bebyll a sachau cysgu o nwyddau a gafodd eu gadael ar ôl yng Ngŵyl Wakestock a Gŵyl Rhif 6 eleni mae’r hostel yn dal yn brin o rai eitemau hanfodol.

Dywedodd Rheolwr Cynllun Santes Fair, Rob Parry:

“Eleni rydym yn arbennig o brin o eitemau megis pebyll, sachau cysgu a blancedi. Rydym yn dibynnu ar roddion fel hyn i roi amddiffyniad i bobl rhag y tywydd gwael. Heb hyn, ni fyddem yn gallu helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.”

Ychwanegodd Rob:

“Mae croeso arbennig ar yr adeg hon o’r flwyddyn hefyd i bobl gyfrannu bwydydd tun a bwydydd sydd ddim yn ddarfodus. Rydym yn ddiolchgar am bob rhodd, waeth pa mor fawr neu fach ac mae pob eitem yn helpu.”

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu rhodd alw heibio Hostel Santes Fair ar Lôn Cariadon ym Mangor neu unrhyw un o Swyddfeydd Tai Gogledd Cymru ym Mangor neu Gyffordd Llandudno. Neu ffoniwch 01248 362211 i drafod ymhellach.