Symud i fyny mewn hostel ym Mae Colwyn

Mae hostel Noddfa i’r digartref ym Mae Colwyn yn datblygu ei gwasanaethau yn dilyn cyhoeddiad bod 10 uned symud ymlaen newydd i gael eu creu gan alluogi defnyddwyr gwasanaeth i gymryd y camau hanfodol cyntaf tuag at fyw’n annibynnol.

Mae’r hostel a reolir gan Tai Gogledd Cymru yn darparu cefnogaeth a llety i 12 o ddynion a merched sy’n ddefnyddwyr gwasanaeth ar unrhyw un adeg ac mae’n gyson yn llawn. Bydd cynlluniau i ddatblygu fflatiau symud ymlaen penodol yn Noddfa yn sicrhau bod llety addas ar gael i bobl symud iddo, tra’n cadw cysylltiadau agos gyda Noddfa a’r gefnogaeth y mae’n ei gynnig.

Ar hyn o bryd mae Plas Llewelyn ym Mae Colwyn yn cael ei ailddatblygu i ddarparu unedau llety unigol gyda chegin, ardaloedd byw a chysgu annibynnol.

Mae’r hostel Noddfa ei hun hefyd wedi cael ei weddnewid yn ddiweddar yn fewnol ac yn allanol, gan gynnwys y garej sydd bellach wedi ei drawsnewid yn ystafell gemau, ynghyd â waliau celf graffiti a bwrdd pŵl.

Dywedodd Dave Williams, Rheolwr Cynllun yn Noddfa:

“Mae’r datblygiad yma o ran y cyfleuster tai newydd yn wych a bydd yn ein galluogi i gefnogi’r rhai rydym yn gweithio â nhw trwy gydol eu taith. Disgwylir i’r uned symud ymlaen ym Mhlas Llewelyn gael ei gwblhau ym mis Ebrill 2015, yn dilyn gwaith gwella gan dîm Tai Gogledd Cymru, ac mae gennym eisoes denantiaid wedi eu clustnodi ar gyfer y cartrefi hynny.”

Dywedodd Paul Diggory Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym bob amser wedi cynnig cymorth sy’n mynd y tu hwnt i arhosiad cychwynnol yn ein hostelau; ond, rydym yn gweld y fantais o greu ein hunedau symud ein hunain fydd yn rhoi’r hyder a’r sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaeth o wybod y bydd cartref iddynt wrth iddynt symud allan o amgylchedd hostel.”

Mae nifer o gyn-denantiaid Noddfa wedi llwyddo i gael gwaith llawn amser yn ddiweddar yn lleol a chyda cymorth parhaus gan Noddfa a Thai Gogledd Cymru, maen nhw’n mwynhau eu swyddi a’u cartrefi newydd.

Ychwanegodd Paul:

“Mae’n wych gweld ein cyn-ddefnyddwyr gwasanaeth yn gwneud y newid mawr hwn – gyda’r datblygiadau diweddaraf hyn, ein nod yw cynnig mwy o gymorth i bobl a pharhau i wneud newid cadarnhaol.”

Gynd â’r gwastraff adref

Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto pan fydd ffrindiau a staff Tai Gogledd Cymru yn ymweld â safle gŵyl Wakestock yn Abersoch i gasglu llwyth o offer gwersylla a adawyd ar ôl er mwyn eu hailddosbarthu i bobl sy’n cysgu ar y stryd yn ystod misoedd y gaeaf.

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae’r tîm wedi llwyddo i gasglu 69 pabell, 48 sach gysgu, 45 mat, 15 gwely aer, 22 cadair gwersylla, 10 pâr o esgidiau glaw yn ogystal â bagiau oeri, cynfasau llawr, blancedi, clustogau aer, matiau picnic, pegiau pabell ac esgidiau rhedeg!!

Mae cymysgedd o ddefnyddwyr staff a chyfeillion gwasanaeth digartref Santes Fair a Thai Gogledd Cymru wedi ymuno i gasglu’r deunyddiau, a fydd yn darparu cymorth hanfodol i lawer o bobl sy’n cysgu allan yng Ngogledd Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae’r casgliad blynyddol yn parhau i lenwi bwlch sylweddol yng nghyllideb Tai â Chefnogaeth Tai Gogledd Cymru, gan alluogi’r gymdeithas i ddarparu pecynnau gaeaf hanfodol sydd wedyn yn cael eu dosbarthu wrth fynedfa’r hostel ym Mangor.

Dywedodd Kerry Jones o Tai Gogledd Cymru:

“Mae digwyddiad Wakestock yn gyfle gwych i ni hel a chasglu offer gwersylla o safon nad oes eu hangen, sydd wedi cael eu defnyddio yn bennaf ar gyfer yr un digwyddiad hwnnw. Rydym yn cymryd ein helfa yn ôl i’r hostel, ei lanhau ac yna’n ei ailddosbarthu yn y gaeaf pan fydd pobl sy’n cysgu ar y stryd, yn methu dod o hyd i wely am y noson, ac mewn angen cymorth a lloches ychwanegol.”

Mae pecyn gaeaf nodweddiadol yn cynnwys pabell, sach gysgu, blanced, offer oeri a bwyd tun. Caiff y pecynnau eu dosbarthu i yn bennaf ger mynedfa hostel Santes Fair ym Mangor wrth i’r tywydd oer ddechrau brathu.

Ychwanegodd:

“Hoffem ddiolch unwaith eto i drefnwyr Wakestock am hwyluso’r dydd a chaniatáu i ni ddod ar y safle. Unwaith eto mae eu gwastraff sbâr yn mynd i le gwych!”

“Fodd bynnag, rydym yn dal angen rhai hanfodion sylfaenol ac mae gwir angen arnom am dopiau a gwaelodion tracwisg, esgidiau rhedeg a bŵts, sanau a dillad isaf, yn bennaf ar gyfer dynion. Os oes gan unrhyw un unrhyw eitemau nad ydynt eu hangen ac yn gallu rhoi, galwch i mewn i hostel digartref Santes Fair ym Mangor lle byddem yn falch o dderbyn unrhyw roddion.”

Pe bawn i yn artist…

Yn dilyn rhaglen gelfyddydol uchelgeisiol, mae grŵp o denantiaid a defnyddwyr gwasanaethau tai â chefnogaeth Tai Gogledd Cymru yn arddangos eu doniau artistig mewn arddangosfa yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.

Mae’r grŵp o Fangor wedi cwblhau cwrs deg wythnos oedd yn eu cyflwyno i amrywiaeth o ddisgyblaethau a thechnegau artistig. Roedd y prosiect yn rhaglen bartneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru a Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau Cyngor Gwynedd.

Mae’r arddangosfa yn yr oriel yn dangos cynnydd y grŵp yn ystod y cwrs wrth iddynt ddatblygu’r gallu i fynegi eu hunain trwy wahanol gyfryngau.

Dywedodd Julie Eddowes Swyddog Allgymorth ac Ailsefydlu Tai Gogledd Cymru:

“Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych, sydd nid yn unig wedi caniatáu i’r tenantiaid a’r defnyddwyr gwasanaeth ddatblygu eu sgiliau a darparu cyfrwng i’w mynegiant, ond mae hefyd wedi annog y grŵp i weithio fel tîm, a rhannu eu profiadau, eu barn a’u teimladau.”

“Mae’r gwaith y mae pob un ohonynt wedi’i gynhyrchu yn anhygoel ac yn dangos talent go iawn!”

Dan arweiniad yr artist cymunedol, Vivienne Rickman-Poole, dechreuodd y cwrs gyda thaith o amgylch yr Amgueddfa a’r Oriel a oedd yn ysbrydoliaeth i’r darpar artistiaid. Roedd yr ail wythnos yn canolbwyntio ar ymarferion bywyd llonydd, yn yr achos hwn, mecryll – a dechreuodd y grŵp fraslunio’r pysgod gan ddefnyddio lluniadu llinell, gan symud ymlaen i ddefnyddio lliwiau, a symud ymlaen ymhellach wedyn i ychwanegu collage. Ymysg y mathau eraill o dechnegau ac arddulliau a archwiliwyd yr oedd printio a phaentio dyfrlliw.

Ychwanegodd Julie:

“Mae gwaith y myfyrwyr wedi cael ei fowntio a’i arddangos er mwyn i’r cyhoedd allu ei weld ac mae hynny wedi creu ymdeimlad o falchder gwirioneddol ymysg ein defnyddwyr gwasanaeth. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ymweld â’r arddangosfa am ddim yn Oriel Gwynedd.”

Dywedodd Dafydd Lloyd, un o denantiaid Tai Gogledd Cymru a gymerodd ran yn y prosiect:

“Mae’r prosiect wedi bod yn un o’r profiadau mwyaf boddhaol a chreadigol yr wyf wedi ei gael erioed.”

Mae pedwar o’r defnyddwyr gwasanaeth yn parhau i gyfarfod â’i gilydd yn rheolaidd fel grŵp celf , ac mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn caniatáu i’r egin artistiaid ddefnyddio’r lleoliad am 10 wythnos arall ar sail talu ‘mewn nwyddau’.

Y Principality yn rhoi busnes yn y gymuned ar waith

Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn helpu defnyddwyr gwasanaeth yn hostel Pendinas i’r digartref ym Mangor i wisgo’n drwsiadus i greu argraff.

Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru wedi cyfrannu rhodd o nifer o wisgoedd, y gall y preswylwyr eu defnyddio pan fyddan nhw’n mynychu cyfweliadau am swydd.

Mae’r Gymdeithas Adeiladu hefyd yn helpu Pendinas drwy gyfrannu offer a phlanhigion i brosiect garddio’r hostel, y mae’r holl drigolion yn cymryd rhan ynddo.

Dywedodd Else Lyon, Rheolwr Cynllun ym Mhendinas:

“Mae’r prosiect garddio wedi dod yn bwysig iawn i bawb yma ym Mhendinas. Mae’r defnyddwyr gwasanaeth wedi gweddnewid yr ardd ac wedi treulio llawer o amser yn plannu a thrin ein llysiau a’n ffrwythau ein hunain, ac rydym wedyn yn gallu defnyddio’r cynnyrch yn ein ryseitiau yma a hyrwyddo coginio a bwyta’n iach.”

“Mae’r cymorth gan y Principality wedi dod ar amser gwych gan fod y gwanwyn yn y tir. Bydd hyn yn ein helpu i brynu mwy o blanwyr, compost a hadau a gallu paratoi mwy o fwydydd ar gyfer y tymor nesaf. “

Mae’r Principality a Pendinas yn rhan o fenter ‘Seeing is Believing’ Busnes yn y Gymuned sy’n cynnig amrediad o gefnogaeth i grwpiau ac elusennau cymunedol lleol.

Mae Pendinas, cynllun a reolir gan Tai Gogledd Cymru (ynghyd â hostel y Santes Fair sydd hefyd ym Mangor) wedi bod yn gweithio gyda nifer o fusnesau lleol sydd wedi dangos eu hymrwymiad a’u cefnogaeth trwy ystod o fentrau arloesol ac ymarferol.

Dywedodd Kelly Williams, rheolwr cangen Bangor o Gymdeithas Adeiladu’r Principality:

“Rydym yn falch o fod wrth galon ein cymunedau ac rydym yn awyddus i roi cymorth i’r gwasanaeth hanfodol yma i bobl ym Mangor. Rydym yn gobeithio y bydd yr offer garddio yn helpu preswylwyr i dyfu eu bwyd rhad a maethlon eu hunain, ac ar yr un pryd yn eu helpu i ddysgu mwy am goginio a bod yn fwy hunan-gynhaliol.”

“Gall cyfweliadau swydd fod yn wirioneddol anodd, yn enwedig heb y dillad iawn, felly rydym yn falch iawn o allu helpu drwy roi ein gwisgoedd ac rydym yn dymuno pob lwc i’r preswylwyr gyda’u cyfweliadau.”

Mae’r Principality wedi cefnogi amryw o achosion tebyg yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys tîm rygbi dan 10 Bangor a’r tîm pêl-rwyd mewn ysgol yn Yr Wyddgrug.

Defnyddwyr gwasanaeth yn dysgu sgiliau tg diolch i BT

Mae defnyddwyr gwasanaeth yn hostel i’r digartref Pendinas ym Mangor yn gweithio ar ddatblygu sgiliau TG hanfodol, diolch i rodd o ddau gyfrifiadur personol gan BT.

Cyn hynny nid oedd gan yr hostel, sy’n cael ei reoli gan Tai Gogledd Cymru, unrhyw offer TG, oedd yn golygu bod pob ffurflen, cais am swyddi a gohebiaeth yn gorfod cael ei gwblhau â llaw neu drwy ddefnyddio cyfrifiaduron allanol. Bellach, gyda chefnogaeth y staff, mae’r defnyddwyr gwasanaeth yn gallu datblygu sgiliau TG sylfaenol, a fydd yn eu helpu wrth iddynt barhau â’u taith yn ôl tuag at fyw’n annibynnol.

Dywedodd Else Lyon, Rheolwr Hostel Pendinas:

“Mae sgiliau TG yn hanfodol yng nghymdeithas heddiw ac yn y farchnad swyddi ehangach. Gyda chyllid eisoes o dan straen aruthrol, nid oes unrhyw ffordd y gallem fforddio prynu unrhyw offer, felly mae’r rhodd yma wedi bod yn wych.”

“Datblygodd ein cysylltiad â BT yn sgîl menter Busnes yn y Gymuned. Mae BT wedi cynnig rhywfaint o gymorth hynod ystyriol a fydd yn cael effaith barhaol a chadarnhaol ar bobl yr ydym yn gweithio â hwy – pobl yn aml iawn sy’n agored i niwed – ac mae’r rhodd anhygoel yma yn rhan o hynny, a rhoi cyfle hefyd i ddefnyddwyr ein gwasanaethau gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith.”

“Mae cefnogaeth fel hyn yn amhrisiadwy i ni ac yn ffordd o roi help llaw hanfodol i’n defnyddwyr gwasanaeth.”

Dywedodd Geraint Strello, rheolwr rhanbarthol BT:

“Mae BT yn deall pwysigrwydd cael sgiliau TG a mynediad at offer TG ac rydym yn falch o gefnogi’r gwaith a wneir gan Tai Gogledd Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y cyfrifiaduron hyn o werth gwirioneddol ac yn helpu defnyddwyr gwasanaeth yn yr hostel.”

Mwy o alw am Fareshare

Mae partneriaeth Tai Gogledd Cymru â phrosiect bwyd Gogledd Cymru Fareshare yn mynd o nerth i nerth wrth i fwy o ddefnyddwyr gwasanaeth a thenantiaid gael eu hannog i ddefnyddio’r gwasanaeth.

Hyd yn hyn, mae’r cynnig Fareshare Gogledd Cymru wedi ei gyfyngu i’r rheiny sy’n byw mewn hosteli a thenantiaid camu ymlaen Tai Gogledd Cymru, fodd bynnag, mae hyn ar fin newid wrth i’r bartneriaeth rhwng y ddau sefydliad dyfu. O dan gynlluniau newydd cyffrous, mae ardal storio bwyd wedi cael ei sefydlu yn barod ym mhencadlys y sefydliad yng Nghyffordd Llandudno lle gall bwyd a gesglir gan Fareshare Gogledd Cymru gael ei gadw, gan gynnig mwy o hyblygrwydd i denantiaid wrth ddewis bwyd.

Yn y Flwyddyn Newydd, bydd tenantiaid Tai Gogledd Cymru yn gallu adolygu’r ystod o fwydydd sydd ar gael drwy wefan Tai Gogledd Cymru a rhoi archeb dros y ffôn neu yn electronig. Yna gellir gwneud trefniadau ar gyfer casglu’r bwyd mewn man codi dynodedig .

Dywedodd Brett Sadler o Tai Gogledd Cymru:

“Ynghyd â’n partneriaid Fareshare Gogledd Cymru, rydym yn ceisio canfod ffyrdd newydd o alluogi ein tenantiaid i gael mynediad i’r cynnig Fareshare. Mae llawer o bobl yn wynebu tlodi ar hyn o bryd a gall mentrau bwyd fel hyn helpu ein tenantiaid i brynu bwydydd o ansawdd am brisiau hynod o resymol ac ar yr un pryd ailddosbarthu bwyd fyddai fel arall wedi cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.”

Mae Tai Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Fareshare Gogledd Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae FareShare Gogledd Cymru yn gweithio i achub bwyd sydd o fewn y dyddiad defnyddio o safleoedd tirlenwi drwy weithio gyda chyflenwyr bwyd lleol a chenedlaethol ac ailddosbarthu’r bwyd sydd dros ben i gymuned Gogledd Cymru. Eu nod yw helpu pobl sy’n debygol o wynebu caledi bwyd.

Mae Tai Gogledd Cymru yn darparu bocsys bwyd ac eitemau unigol i denantiaid sydd yn yr angen mwyaf a hynny am bris gostyngol sylweddol (e.e. gwerth £25 o fwyd am gyfraniad o £5) a hyd yma dosbarthwyd 320 o focsys bwyd yn chwe mis cyntaf y prosiect, sy’n cyfateb i achub tair tunnell o fwyd o safleoedd tirlenwi.

Dywedodd Sharon Jones, Prif Weithredwr Crest Co-operative, sy’n rhedeg FareShare Gogledd Cymru:

“Rwyf wrth fy modd bod cymaint o denantiaid wedi elwa o wasanaeth FareShare Gogledd Cymru. Drwy weithio gyda Tai Gogledd Cymru, rydym yn gallu cefnogi tenantiaid, sy’n cael trafferth ymdopi gyda chost gynyddol biliau bwyd.”

“Rydym yn credu na ddylai bwyd da gael ei wastraffu ac y dylid ei ddosbarthu i bobl sydd ei angen,” ychwanegodd.”

Waitrose yn cefnogi’r digartref ym Mangor

Mae Waitrose ym Mhorthaethwy yn darparu parseli bwyd rheolaidd i ddefnyddwyr gwasanaeth digartrefedd yn hostel Pendinas ym Mangor.

waitrose

Mae’r archfarchnad wedi bod yn casglu bwydydd, lle mae’r deunyddiau pecynnu wedi’u difrodi neu wedi mynd heibio’r dyddiad arddangos, ac yna’n eu pasio ymlaen i’r hostel, gan roi hwb i’r darpariaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Bu rheolwr cangen Waitrose ym Mhorthaethwy, Gareth Hind, ar ymweliad â’r hostel sy’n cael ei rheoli gan Tai Gogledd Cymru drwy fenter ‘Seeing is Believing’ Busnes y n y Gymuned. Mae’r fenter yn annog busnesau i ymwneud â’u cymuned leol mewn materion cymdeithasol ac amgylcheddol allweddol. Mae’r siop bellach yn cefnogi’r hostel drwy nifer o fentrau, a’r gyntaf oedd cyflenwi rhoddion bwyd rheolaidd.

Mae aelodau o dîm Pendinas yn casglu’r parseli wedi eu pacio’n barod ac yn eu rhannu ymhlith defnyddwyr gwasanaeth gan ddefnyddio cynhwysion sy’n annog bwyta’n iach.

Dywedodd Lyon Else, Rheolwr Hostel Pendinas:

“Mae Waitrose wedi bod yn wych yn yr ymrwymiad y maent wedi’i ddangos i ni. Maent yn rhoi parsel bwyd gwych i ni o leiaf unwaith yr wythnos sy’n cynnwys pecyn gwirioneddol amrywiol o gynnyrch a nwyddau o ansawdd.”

“Nid yn unig y mae’r cymorth bwyd y llenwi bwlch mewn cronfeydd ond mae’r gwahanol mathau o fwyd a gawsom hefyd yn annog defnyddwyr gwasanaeth i feddwl am sut y gallant eu defnyddio a ffyrdd o’u coginio neu eu paratoi.”

Dywedodd Gareth Hind, Rheolwr Cangen Waitrose ym Mhorthaethwy:

“Mae’n wych gallu darparu parseli bwyd i gefnogi’r hostel ym Mhendinas a’r gwaith gwych y maent yn ei wneud yn ein cymuned. Fe wnes i fwynhau fy ymweld â’r hostel a chyfarfod pawb yno, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda nhw yn y dyfodol, gan gynnwys mentrau fel helpu defnyddwyr gwasanaeth i baratoi ar gyfer cyfweliadau a gwneud cais am swydd.”