Rhoddion gan breswylwyr yn cadw’r digartref yn gynnes y gaeaf hwn

Ym mis Medi eleni anfonodd hostel Santes Fair i’r digartref ym Mangor apêl brys am roddion wrth i gyflenwadau eu gwasanaeth i’r digartref fynd yn beryglus o isel.

Camodd adran Pobl Hŷn a phreswylwyr Tai Gogledd Cymru i’r adwy gan gydweithio i gasglu rhoddion.

Esboniodd Eirlys Parry, y Pennaeth Pobl Hŷn, pam eu bod wedi penderfynu helpu:

“Wedi i ni ddarllen yn ein newyddlen am y prinder roeddem yn awyddus iawn fel adran i helpu. Mae estyn cymorth yn cychwyn ar garreg ein drws ac roeddem yn hynod awyddus i helpu ein cydweithwyr. Mae’r tenantiaid Pobl Hŷn hefyd yn wirioneddol dda am godi arian ar gyfer gwahanol elusennau drwy gydol y flwyddyn, felly roeddem yn gwybod y byddent yn gwneud yn dda.

“Daeth preswylwyr ar draws Gogledd Cymru at ei gilydd i gasglu, gan ddethol o’u casgliadau eu hunain yn ogystal â rhai ffrindiau a theuluoedd. Roedd y canlyniad yn anhygoel, ac roedd pawb yn hynod o hael. Mi wnaethon ni gasglu pentwr o ddillad a bocsys yn orlawn o fwyd.”

Trosglwyddodd y Tîm y pentwr anferth o roddion i Hostel Santes Fair ar Lôn Cariadon, Bangor mis Hydref.

Roedd Rob Parry, Rheolwr Cynllun yn y Santes Fair, wrth ei fodd efo’r rhodd:

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r adran Pobl Hŷn a’r preswylwyr am eu haelioni, a hoffwn ddiolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth.”

“Mae’r gwasanaeth clwyd a gynigir yn y Santes Fair i ddigartref y stryd ym Mangor yn dibynnu’n helaeth ar roddion er mwyn cadw i fynd. Gyda’r gaeaf oer yn agosáu roeddem yn bryderus bod ein stoc yn isel ac roedd dirfawr angen y rhodd hwn.”

Cael gwybod mwy am roddion angenrheidiol yma. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw bebyll, sachau cysgu, dillad cynnes neu fwyd ewch ag unrhyw roddion draw i’r Santes Fair, Lôn Cariadon, Bangor neu cysylltwch â 01248 362211 ar gyfer trefniadau eraill.