Arddangos gwasanaethau yn helpu gwarchod pobl fregus

Aeth Tîm Tai â Chymorth Tai Gogledd Cymru ar y lôn ym mis Medi i arddangos y gwasanaethau a’r cymorth y maent yn eu cynnig i breswylwyr bregus.

Roedd y digwyddiad wedi’i anelu at ddarparwyr gwasanaeth, asiantaethau, sefydliadau a phartïon eraill sydd â diddordeb, a oedd yn dymuno gwybod mwy am y gwasanaethau y gallwn eu cynnig a sut i gyfeirio pobl at ein gwasanaethau.

Esboniodd Lynne Evans, Pennaeth Tai â Chymorth:

“Mae Tai Gogledd Cymru yn darparu ystod eang o wasanaethau tai â chymorth a gwasanaethau cymorth i bobl fregus ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys pobl ddigartref a rhai sy’n cysgu ar y stryd, pobl ifanc sy’n gadael gofal, pobl â phroblemau iechyd meddwl, a phobl ag anableddau dysgu.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill, ond mae digwyddiadau fel hyn yn  cynnig cyfle i ni atgoffa pawb o’r hyn rydym yn ei wneud a sut y gallwn weithio’n agosach gyda’n gilydd. Mae hefyd yn gyfle gwych i roi enw ar wynebau!”

Roedd Defnyddwyr y Gwasanaeth Tai â Chymorth hefyd yn bresennol yn y digwyddiad ac mi  dreuliodd y rhai oedd yn bresennol dipyn o’u hamser yn siarad â nhw am eu siwrne tai. Mae eu straeon yn dangos bod defnyddwyr bregus, gyda chefnogaeth darparwyr megis Tai Gogledd Cymru, yn gallu symud ymlaen gyda’u bywydau yn llwyddiannus.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cefnogi ymgyrch ‘Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl’, ymgyrch yn y sector i godi ymwybyddiaeth am y rhaglen Cefnogi Pobl, y bobl sy’n cael budd, natur ataliol y rhaglen a sut y mae’r arian yn cael ei wario.

Roedd Lynne yn hynod o falch i ddatgelu bod digwyddiadau fel hyn a’r ymgyrch wedi dilyn i ddiogelu grantiau am flwyddyn arall:

“Mae nifer o gynlluniau Tai â Chymorth TGC yn cael eu hariannu gan Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Rydym yn hynod o falch bod Llywodraeth Cymru eto wedi ymrwymo i ddiogelu Grant Rhaglen Cefnogi Pobl ar gyfer 2017/18 yn eu cyllideb ddiweddar”

“Mae’r Rhaglen Cefnogi Pobl yn cefnogi dros 60,000 o bobl fregus dros Gymru bob blwyddyn. Tra bydd y blynyddoedd nesaf yn galed, gyda phwysau cynyddol ar wariant gwasanaethau cyhoeddus dros y bwrdd, mae amddiffyn y cyllid hwn yn golygu mi fydd gennym fwy o allu i ymateb i sialensiau yn y dyfodol.”

“Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig ofnadwy i arddangos yr effaith positif ar fywydau pobl fregus a chynnal cymunedau. Mae hefyd yn annog mwy o gyd-weithio, sydd yn hanfodol i gadw gwasanaethau i fynd.