Tai Gogledd Cymru yn cymryd risg yn y gynhadledd staff blynyddol

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cynnal ei gynhadledd staff blynyddol ac roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys enillydd medal Aur Gemau’r Gymanwlad Diane Modahl, a’r arbenigwr risg a’r cyn-chwaraewr pocer proffesiynol, Caspar Berry.

Mynychodd tua 140 o staff ar draws y busnes y digwyddiad diwrnod llawn a oedd yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau, gemau, gweithdai a sesiynau. Rhannodd y siaradwyr gwadd, Diane Modahl a Caspar Berry, eu profiadau, eu safbwyntiau a’u golwg arbennig nhw ar waith tîm a chymryd risg, gan drafod sut mae’r ddau yn ffactorau pwysig i’w hystyried ym mywyd unigolyn yn y gwaith ac yn y cartref.

Roedd y diwrnod yn achos dwbl i ddathlu gan fod eleni yn nodi pen-blwydd y gymdeithas yn 40 oed. Cynhyrchwyd cyfres o ffilmiau byr i nodi’r achlysur, gan amlygu digwyddiadau ac achlysuron allweddol yn hanes Tai Gogledd Cymru dros y pedwar degawd diwethaf. Ymddangosodd sawl aelod o staff mewn ffilm, pob un yn canu i gyfeiliant cân enwog Madness, ‘Our House’ ochr yn ochr â’r Prif Weithredwr, Paul Diggory a fu hefyd yn cyfweld un o aelodau’r bwrdd cyntaf un sef, Alice Robinson. Rhannodd Alice ei hatgofion o ddyddiau cynnar Tai Gogledd Cymru, lle’r oedd y bwrdd yn cyfarfod yn y dafarn leol, gan reoli llond llaw o dai yn unig.

Bu’r gynhadledd hefyd yn gyfle delfrydol i gynnal seremoni wobrwyo’r staff, gan ddathlu llwyddiannau’r tîm ar hyd y flwyddyn.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae hon yn flwyddyn wirioneddol nodedig i ni ac roedd y gynhadledd yn ein galluogi i fyfyrio ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni. Mae’r gymdeithas wedi tyfu ac esblygu cymaint dros y 40 mlynedd diwethaf – heddiw rydym yn rheoli dros 2500 o gartrefi ac wedi arallgyfeirio’n sylweddol, gan ddarparu tai â chefnogaeth a thai i bobl hŷn. Bydd cynlluniau mawr yn cael eu cwblhau eleni, gan gynnwys cynlluniau gofal ychwanegol ym Mangor ac Abergele.”

“Rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan bob aelod o’n staff wnaeth fwynhau’r diwrnod ac roedd yn amlwg hefyd bod ganddynt ymdeimlad o falchder eu bod yn rhan o sefydliad sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl leol ar draws Gogledd Cymru.”