Tai Gogledd Cymru yn gweld newid ar y brig

Ar ddiwedd mis Mai bydd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru ers dros 15 mlynedd, yn symud ymlaen o’i swydd.

Dywedodd Paul Diggory:

“Rwyf wedi cynllunio ers peth amser i wneud newid wedi i mi gyrraedd 60 oed. Dydw i ddim yn bwriadu ymddeol, ond byddaf yn gweithio’n llawrydd ar draws y sectorau tai a mentrau cymdeithasol, gan neilltuo mwy o amser i fynd ar drywydd rhai o’m diddordebau eraill.

“Mae wedi bod yn fraint cyflawni’r swydd hon am gymaint o amser a gweithio gyda chymaint o bobl wych dros yr amser hynny. Yn fwy na dim rwy’n teimlo’n falch iawn o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn Tai Gogledd Cymru yn ystod fy nghyfnod yma, a’r ffordd rydym wedi symud ymlaen ac yn benodol, y bobl rydym wedi’u helpu a’r gwahaniaeth cadarnhaol rydym wedi’i wneud i fywydau pobl.”

Ar ddiwedd 2015 cyflwynwyd y Wobr Arian am y ‘Gymdeithas Tai Orau’ i Tai Gogledd Cymru yng Ngwobrau What House UK yn Llundain. Cynrychiolodd Paul y Sefydliad Tai Siartredig fel Llywydd yn 2007-08, un o uchafbwyntiau personol ei yrfa a oedd yn cynnwys siarad mewn digwyddiadau rhyngwladol mewn llefydd fel Hong Kong, Cape Town a Vancouver.

Llwyddiant arall oedd derbyn Gwobr Tai Cymru 2015 am ‘Gyfraniad Eithriadol’. Eglurodd Paul ei lawenydd bryd hynny:

“Roedd cael fy nghydnabod gan fy nghymheiriaid yn y ffordd honno yn brofiad cwbl arbennig.”

Yn y lle cyntaf bydd Paul yn cael ei olynu gan y Prif Weithredwr Dros Dro, Owen Ingram, a fydd yn dechrau ar 31 Mai. Mae hyn wedi galluogi’r sefydliad i gynnal ymarfer er mwyn asesu ei opsiynau strategol at y dyfodol. Gan fod yr ymarfer yna bellach wedi cael ei gwblhau, penderfynwyd cychwyn ar y dasg o recriwtio Prif Weithredwr parhaol newydd, a fydd yn cychwyn yn y swydd yn nes ymlaen eleni.

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Tai Gogledd Cymru, Peter Gibson:

“Mae’n mynd i fod yn anodd iawn llenwi esgidiau Paul. Mae wedi bod yn allweddol o ran rhoi proffil mor uchel i Tai Gogledd Cymru ac mae’n dda gweld bod ei ymdrechion wedi cael eu cydnabod yn lleol ac yn genedlaethol.”

“Mae ei egni a’i frwdfrydedd cyson wedi bod yn sbardun ar gyfer cymaint o fentrau a chynlluniau ardderchog ac mae wedi rhoi Tai Gogledd Cymru mewn sefyllfa gref ar gyfer y dyfodol.”

“Ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch iddo am bopeth y mae wedi’i wneud a dymuno pob lwc iddo yn ei ymddeoliad. Mae’n dda gwybod na fydd yn cilio’n llwyr o’r maes tai oherwydd heb amheuaeth mae ganddo lawer i’w gyfrannu o hyd.”