TGC yn mynd yn ddigidol

Mae Tai Gogledd Cymru wedi mynd yn ddigidol ar gyfer ei adolygiad blynyddol.

Mae’r gymdeithas wedi penderfynu cyhoeddi ei adolygiad blynyddol am 2014 yn gyfangwbl ar-lein, gan ddatblygu darn o waith arloesol, diddorol sy’n cynnwys animeiddio, ac sydd hefyd yn defnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf, gan gynnwys html5.

Mae’r adolygiad blynyddol hefyd yn ddathliad o ben-blwydd y gymdeithas yn 40 oed, ac yn rhoi cyfle i adolygu’r flwyddyn sydd wedi mynd heibio a mynd yn ôl ymhellach a darganfod mwy am Tai Gogledd Cymru, gan fwrw golwg dros y pedwar degawd diwethaf. Yng nghanol y ddwy linell amser ceir ffilm fer yn cynnwys un o aelodau gwreiddiol bwrdd Tai Gogledd Cymru, sef Alice Robinson, sy’n rhannu ei hatgofion am y gymdeithas mewn cyfweliad gyda’r Prif Weithredwr Paul Diggory.

Mae adolygiad blynyddol 2014 yn cynnwys cyfuniad o destun, delweddau, ffotograffau, ffilm ac animeiddio.

Dywedodd Paul Diggory:

“Rydym yn deall pwysigrwydd cyfathrebu ar-lein ac roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig dangos ein hymrwymiad i hynny drwy ddatblygu’r adolygiad blynyddol mewn fformat digidol yn unig.”

“Rwy’n hynod o falch gyda’r canlyniadau. Rydym wedi llwyddo i gynnwys cymaint o wybodaeth bwysig a’i chyflwyno mewn ffordd rydym yn gobeithio sy’n ysgogol yn weledol, yn graff ac yn ddiddorol. Rydym yn deall nad yw pobl mewn gwirionedd yn dymuno chwilota am wybodaeth mewn pentwr o bapurau a’u bod efallai yn fwy parod i ddysgu am TGC yn y fformat hwn. Mae hefyd yn arbed arian o ran argraffu a chostau postio.”

Ychwanegodd:

“Wrth symud ymlaen byddwn yn edrych ar ffyrdd eraill o gyfathrebu â’n tenantiaid, partneriaid a rhanddeiliaid gan ddefnyddio fformat digidol, gan ystyried syniadau a fydd yn y diwedd yn ein helpu i gyflwyno ein neges ac annog rhyngweithio ac ymgysylltu.”

I weld yr adolygiad ewch i http://www.nwha.org.uk/internal/interactive/NWH_Digital_Annual_Review_cy/index.html