Ychydig o ofal ychwanegol yn y Cyfarfod Blynyddol

Cynhaliodd Tai Gogledd Cymru ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ar ddydd Iau 16 o Orffennaf. Daeth staff, aelodau’r Bwrdd, cyfranddalwyr a thenantiaid at ei gilydd yn y digwyddiad blynyddol yng Nghanolfan OpTIC, Parc Busnes Llanelwy.

Roedd ffocws eleni ar ‘Annibyniaeth a Lles Pobl Hŷn’, gydag Angela Bradford, Cyfarwyddwr Comisiynu a Ffordd Iach o Fyw gydag Ymddiriedolaeth Elusennol ExtraCare yn rhannu’r canlyniadau ymchwil gan Brifysgol Aston a gomisiynwyd gan ExtraCare sy’n dangos yr effaith gadarnhaol y gall llety a gwasanaethau eu cael ar gostau’r GIG.

Dyma oedd y tro cyntaf i’r gymdeithas gynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Sir Ddinbych, oedd yn adlewyrchu lefel uwch o fusnes y Gymdeithas Tai yn y sir a’i lledaeniad daearyddol wrth iddi ehangu ar draws Gogledd Cymru.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

Nid oes yn agos ddigon o dai ar gael i bobl hŷn i ymdopi â’r twf yn y boblogaeth hŷn. Mae angen modelau arnom sy’n integreiddio tai, iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau’r ansawdd bywyd yr ydym i gyd yn anelu ato.”

Achubodd Tai Gogledd Cymru ar y cyfle hefyd i groesawu dau aelod newydd o’r Bwrdd Gwasanaethau Landlord. Mae Carol Downes a Caroline Thomas ill dau yn breswylwyr TGC a chyn hyn roeddent yn aelodau o’r Panel Ymgynghorol Preswylwyr, sef grŵp o breswylwyr sy’n adolygu perfformiad TGC, materion polisi a meysydd i’w gwella yn rheolaidd.

Mae’r ddau aelod newydd yn cymryd lle Gerry Davies ac Adrian Baugh, sydd hefyd yn breswylwyr gyda Tai Gogledd Cymru, sydd newydd gwblhau eu cyfnod o 9 mlynedd ar y Bwrdd.

Dywedodd Peter Gibson, Cadeirydd Bwrdd Grŵp Tai Gogledd Cymru:

Rydym yn ddiolchgar iawn i Gerry ac Adrian am eu cyfraniad at lwyddiant Tai Gogledd Cymru. Rŵan mae’n amser edrych ymlaen drwy groesawu dau aelod newydd i’n Bwrdd Gwasanaethau Landlord a fydd yn rhoi persbectif gwahanol i ni.”