Blas ar lwyddiant ar gyfer staff sy’n dysgu Cymraeg

Roedd nifer o staff Tai Gogledd Cymru ar y rhestr fer yn ddiweddar yn y bedwaredd Seremoni Wobrwyo Cymraeg i Oedolion.

Ar y rhestr fer roedd Julie Jones (Swyddog Personél), Karen Johnson (Dadansoddydd Systemau Busnes), Allan Jones/ Yam Yam (Trwsio) a Ged Butters (Rheolwr Cribinau ac Ystolion), ar ôl cael eu henwebu gan eu tiwtor Cymraeg,  Rhian Oldroyd.

Daeth teuluoedd, cyfeillion a thiwtoriaid efo’r dysgwyr i’r seremoni yn Galeri, Caernarfon, ddiwedd mis Mai, i ddathlu beth oeddent wedi’i gyflawni a chael cyflwyno’r gwobrau.

Enillodd Julie Jones, Swyddog Personél, y lefel Sylfaenol.

“Roedd yn syndod mawr i mi pan glywais fy mod wedi ennill. Roeddwn yn falch dros ben hefyd. Gall dysgu ieithoedd fod yn reit anodd, ac mae’r gwersi yn gallu bod yn dipyn o her. Ond mae’r bwysig fy mod yn dysgu, er mwyn gallu siarad efo fy nghydweithwyr a’r cwsmeriaid yn yr iaith roedden nhw’n ei dewis.”

Aeth gwobr gyntaf y noson, ‘Tiwtor y Flwyddyn’, i Rhian Oldroyd, tiwtor dosbarthiadau Cymraeg Tai Gogledd Cymru.

Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gyrraedd y rhestr fer ac ennillwyd.

Gwobr adfer am gyfoethogi tref Rhuthun

Yn ddiweddar cyflwynodd Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cylch Wobr Quayle 2014 i Tai Gogledd Cymru am ailddatblygu rhes o fythynnod adfeiliedig yn Stryd Mwrog, Rhuthun.

Caiff y wobr, a enwyd ar ôl un o drigolion lleol nodedig Rhuthun, sef y diweddar Athro William Quayle, ei chyflwyno’n rheolaidd i berchnogion adeiladau preifat, cyhoeddus a masnachol, sydd wedi cyfoethogi’r dref a’r pentrefi lleol drwy ddylunio a chynllunio newydd da neu drwy adfer sensitif.

Dyfarnodd y beirniaid fod yr ailddatblygiad yn Stryd Mwrog yn enillydd teilwng.

Fel yr eglurodd Miles Anderson, Ysgrifennydd Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cylch:

“Mae’r llety amlbwrpas newydd sydd wedi ei godi yn lle’r hen adeilad adfeiliedig wedi ei adeiladu gyda sensitifrwydd ac i safon uchel iawn. Ac mae’r hen flwch postio hefyd wedi cael ailddefnydd. Er mai rhes fechan yw’r adeiladau, mae’r gwaith adfer wedi cael ei gyflawni i’r safon uchaf ac yn sicr yn denu’r llygad – mewn ffordd bleserus! Llongyfarchiadau mawr i Gymdeithas Tai Gogledd Cymru.”

Derbyniodd Peter Gibson, Cadeirydd Bwrdd Grŵp TGC, y wobr mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Gymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cylch ar ddydd Gwener, 26 Mehefin yng Nghanolfan Gymunedol Llanfwrog, Rhuthun.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae Tai Gogledd Cymru yn hynod falch o ennill y wobr hon. Rydym yn frwd dros ddod â bywyd newydd i gartrefi gwag, gan helpu i wella cymunedau yn ogystal â galluogi tenantiaid newydd i fwynhau bywyd yn eu cartrefi newydd. Rydym wrth ein bodd bod cymuned Rhuthun yn ymfalchïo yn y prosiect gymaint â ni.”

 

Buddugoliaeth Fawr i Lais Cymunedol Conwy

Mae cynllun ymgysylltu cymunedol sy’n cael ei gefnogi gan dair cymdeithas dai leol wedi ennill Gwobr ‘Cyfranogiad Tenantiaid’ genedlaethol a gyflwynwyd yng Nghaerdydd.

Bu Cartrefi Conwy, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ers Mai 2013, fel rhan o brosiect ‘Conwy gyda’i Gilydd’ a’r wythnos ddiwethaf enillodd Llais Cymunedol Conwy’r wobr bwysig flynyddol am Gyfranogiad Tenantiaid yn cynnwys Cymru gyfan a ddyfarnwyd gan TPAS Cymru, y Gwasanaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Chynghori.

Trefnir ‘Llais Cymunedol Conwy’ gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Conwy ac mae’n cael ei ariannu gan y Loteri Fawr.

Dan y cynllun mae’r tair cymdeithas dai wedi gweithio gyda’i gilydd i gynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ennyn diddordeb preswylwyr Conwy yn greadigol gan eu grymuso i gael lleisio eu barn o ran y gwasanaethau a’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau dyddiol.

Roedd y digwyddiadau yn amrywio o ddyddiau hwyl i’r teulu a sinema dawel i fforwm cymunedol cyson gydag amrywiaeth eang o siaradwyr yn ymweld.

“Rwyf wedi mwynhau cyfarfod cynghorwyr a gwleidyddion yn y fforymau – dwi’n meddwl eu bod wedi synnu bod gennym gymaint i’w ddweud!” dywedodd Anne Rothwell, un o breswylwyr Pentre Mawr yn Abergele.

Canmolodd Mr S. (Mitch) Mitchell hefyd y fforymau, gan ddweud bod yr awyrgylch hamddenol yn annog y preswylwyr i gymryd rhan yn y trafodaethau.

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid Cymdeithas Tai Gogledd Cymru:

“Mae Tai Gogledd Cymru yn eithriadol o falch bod y prosiect wedi ennill y wobr bwysig hon. Yn sicr bu’r prosiect yn llwyddiant; bu’n allweddol wrth sicrhau bod tenantiaid anodd eu cyrraedd yn cael llais a mynegi eu barn am weithgareddau a gwasanaethau cyrff cyhoeddus. Mae tenantiaid Tai Gogledd Cymru wedi mwynhau’r llu o weithgareddau ac maent wedi eu gweld yn ddefnyddiol.”

Dywedodd David Lloyd, Cyfarwyddwr TPAS Cymru:

“Mae ein Gwobrau Cyfranogiad blynyddol yn rhoi cyfle i ni gydnabod bod cyfranogiad tenantiaid yn newid gwasanaethau tai a chymunedau er gwell. Mae’r gwobrau yn cynnig ffenestr siop i arfer gorau ar draws Cymru wrth sicrhau bod tenantiaid wrth galon gwasanaethau tai. Mae wedi bod yn braf iawn dathlu llwyddiannau cyfranogiad ac rydym wedi gweld enillwyr sy’n ysbrydoli ac yn ysgogi unwaith eto eleni.”

Menter gymunedol ar y rhestr fer am wobr

Mae cynllun ymgysylltu cymunedol sy’n cael ei gefnogi gan dair cymdeithas dai leol wedi cael ei roi ar restr fer am Wobr ‘Cyfranogiad Tenantiaid’ genedlaethol.

Bu Chymdeithas Tai Gogledd Cymru, Cartrefi Conwy a Cymdeithas Tai Clwyd Alyn yn gweithio mewn partneriaeth ers Mai 2013, fel rhan o Brosiect ‘Conwy Gyda’i Gilydd’ ac yn awr mae eu cynllun ar restr fer gan TPAS Cymru, y Gwasanaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Chynghori yng Nghymru ar gyfer eu seremoni wobrwyo flynyddol i’w chynnal yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae’r prosiect yn rhan o gynllun ‘Llais Cymunedol Conwy’ sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Conwy ac yn cael ei ariannu gan y Loteri Fawr.

Dan y cynllun mae’r tair cymdeithas dai wedi gweithio gyda’i gilydd i gynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ennyn diddordeb preswylwyr Conwy yn greadigol gan eu grymuso i gael lleisio eu barn o ran y gwasanaethau a’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau dyddiol.

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid Cymdeithas Tai Gogledd Cymru:

Mae Tai Gogledd Cymru yn eithriadol o falch bod y prosiect ar y rhestr fer. Yn sicr bu’r prosiect yn llwyddiant; bu’n allweddol wrth sicrhau bod tenantiaid anodd eu cyrraedd yn cael llais a mynegi eu barn am weithgareddau a gwasanaethau cyrff cyhoeddus. Mae tenantiaid Tai Gogledd Cymru wedi mwynhau’r llu o weithgareddau ac maent wedi eu gweld yn ddefnyddiol.”

Rhoddwyd prosiect Llais Cymunedol Conwy ar y rhestr fer yn y categori Prosiectau Cyfranogiad Tenantiaid yng Ngwobrau TPAS Cymru 2015 a fydd yn cael eu cyhoeddi yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar 25 Mehefin.

Cynlluniau gofal ychwanegol arloesol yn cipio prif wobrau’r diwydiant adeiladu

Cafodd cynlluniau gofal ychwanegol Tai Gogledd Cymru noson lwyddiannus yn ddiweddar yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu rhanbarthol Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC).

Enillodd Cae Garnedd, Bangor, cynllun gofal ychwanegol mwyaf newydd Tai Gogledd Cymru wobr sirol a rhanbarthol Gwynedd am y ‘Prosiect Dylunio Cynhwysol Gorau’ a chipiodd Hafod y Parc, Abergele y wobr am ‘Tai Cymdeithasol/Fforddiadwy Gorau’ ar gyfer rhanbarth Conwy.

Cyflwynwyd y gwobrau i K&C Construction, sef y tîm oedd y tu ôl i’r cynlluniau gofal ychwanegol arloesol yng Ngogledd Cymru, mewn digwyddiad gwobrwyo a gynhaliwyd yn yr Urban Resort Village, Caer ar ddydd Gwener 24 Ebrill, 2015.

Nod gwobrau’r LABC yw dathlu rhagoriaeth mewn safonau adeiladu, arloesedd technegol a dylunio cynaliadwy.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

Rydym wrth ein boddau gyda’n llwyddiant ar y noson. Rydym yn hynod falch o’n cynlluniau gofal ychwanegol ond mae derbyn y wobr yma gan y diwydiant yn atgyfnerthu’r balchder hynny.

Hoffwn longyfarch ein partneriaid adeiladu, K&C sydd wedi gweithio ar y cyd gyda’n tîm trwy gydol y broses ddylunio ac adeiladu, gan gynhyrchu datblygiadau gwych. Yn sicr mae hyn yn llwyddiant haeddiannol i holl dîm K&C.”

Roedd Bleddyn Jones, Rheolwr K&C Construction hefyd ar ben ei ddigon:

Rwyf wrth fy modd bod K&C Construction wedi derbyn y gwobrau hyn ac rwy’n credu ei bod yn deyrnged addas iawn i ymroddiad a gwaith caled yr holl dîm. Mae llwyddiant y prosiectau yn adlewyrchu ein perthynas waith gydweithredol gref gyda Chyngor Sir Gwynedd a Tai Gogledd Cymru a’r holl ymgynghorwyr sydd wedi ymwneud â’r prosiectau.”

Nid dyna oedd yr unig lwyddiant fodd bynnag, oherwydd llwyddodd Tai Gogledd Cymru a Pure Residential hefyd i ennill y wobr ‘Tai Cymdeithasol/Fforddiadwy’ ar gyfer Sir Ddinbych am y gwaith diweddar a wnaed yn adnewyddu Plas Penyddeuglawdd, Ffordd Pendyffryn, Y Rhyl, sef un o’r tai hynaf yn y Rhyl.

Bydd Cae Garnedd yn awr yn mynd ymlaen i Rowndiau Terfynol gwobrau’r LABC a gaiff eu cynnal ar ddydd Mawrth, 10 Tachwedd, 2015 yng Ngwesty’r Lancaster, Llundain.