Gwobr adfer am gyfoethogi tref Rhuthun

Yn ddiweddar cyflwynodd Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cylch Wobr Quayle 2014 i Tai Gogledd Cymru am ailddatblygu rhes o fythynnod adfeiliedig yn Stryd Mwrog, Rhuthun.

Caiff y wobr, a enwyd ar ôl un o drigolion lleol nodedig Rhuthun, sef y diweddar Athro William Quayle, ei chyflwyno’n rheolaidd i berchnogion adeiladau preifat, cyhoeddus a masnachol, sydd wedi cyfoethogi’r dref a’r pentrefi lleol drwy ddylunio a chynllunio newydd da neu drwy adfer sensitif.

Dyfarnodd y beirniaid fod yr ailddatblygiad yn Stryd Mwrog yn enillydd teilwng.

Fel yr eglurodd Miles Anderson, Ysgrifennydd Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cylch:

“Mae’r llety amlbwrpas newydd sydd wedi ei godi yn lle’r hen adeilad adfeiliedig wedi ei adeiladu gyda sensitifrwydd ac i safon uchel iawn. Ac mae’r hen flwch postio hefyd wedi cael ailddefnydd. Er mai rhes fechan yw’r adeiladau, mae’r gwaith adfer wedi cael ei gyflawni i’r safon uchaf ac yn sicr yn denu’r llygad – mewn ffordd bleserus! Llongyfarchiadau mawr i Gymdeithas Tai Gogledd Cymru.”

Derbyniodd Peter Gibson, Cadeirydd Bwrdd Grŵp TGC, y wobr mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Gymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cylch ar ddydd Gwener, 26 Mehefin yng Nghanolfan Gymunedol Llanfwrog, Rhuthun.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae Tai Gogledd Cymru yn hynod falch o ennill y wobr hon. Rydym yn frwd dros ddod â bywyd newydd i gartrefi gwag, gan helpu i wella cymunedau yn ogystal â galluogi tenantiaid newydd i fwynhau bywyd yn eu cartrefi newydd. Rydym wrth ein bodd bod cymuned Rhuthun yn ymfalchïo yn y prosiect gymaint â ni.”