Cynlluniau gofal ychwanegol arloesol yn cipio prif wobrau’r diwydiant adeiladu

Cafodd cynlluniau gofal ychwanegol Tai Gogledd Cymru noson lwyddiannus yn ddiweddar yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu rhanbarthol Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC).

Enillodd Cae Garnedd, Bangor, cynllun gofal ychwanegol mwyaf newydd Tai Gogledd Cymru wobr sirol a rhanbarthol Gwynedd am y ‘Prosiect Dylunio Cynhwysol Gorau’ a chipiodd Hafod y Parc, Abergele y wobr am ‘Tai Cymdeithasol/Fforddiadwy Gorau’ ar gyfer rhanbarth Conwy.

Cyflwynwyd y gwobrau i K&C Construction, sef y tîm oedd y tu ôl i’r cynlluniau gofal ychwanegol arloesol yng Ngogledd Cymru, mewn digwyddiad gwobrwyo a gynhaliwyd yn yr Urban Resort Village, Caer ar ddydd Gwener 24 Ebrill, 2015.

Nod gwobrau’r LABC yw dathlu rhagoriaeth mewn safonau adeiladu, arloesedd technegol a dylunio cynaliadwy.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

Rydym wrth ein boddau gyda’n llwyddiant ar y noson. Rydym yn hynod falch o’n cynlluniau gofal ychwanegol ond mae derbyn y wobr yma gan y diwydiant yn atgyfnerthu’r balchder hynny.

Hoffwn longyfarch ein partneriaid adeiladu, K&C sydd wedi gweithio ar y cyd gyda’n tîm trwy gydol y broses ddylunio ac adeiladu, gan gynhyrchu datblygiadau gwych. Yn sicr mae hyn yn llwyddiant haeddiannol i holl dîm K&C.”

Roedd Bleddyn Jones, Rheolwr K&C Construction hefyd ar ben ei ddigon:

Rwyf wrth fy modd bod K&C Construction wedi derbyn y gwobrau hyn ac rwy’n credu ei bod yn deyrnged addas iawn i ymroddiad a gwaith caled yr holl dîm. Mae llwyddiant y prosiectau yn adlewyrchu ein perthynas waith gydweithredol gref gyda Chyngor Sir Gwynedd a Tai Gogledd Cymru a’r holl ymgynghorwyr sydd wedi ymwneud â’r prosiectau.”

Nid dyna oedd yr unig lwyddiant fodd bynnag, oherwydd llwyddodd Tai Gogledd Cymru a Pure Residential hefyd i ennill y wobr ‘Tai Cymdeithasol/Fforddiadwy’ ar gyfer Sir Ddinbych am y gwaith diweddar a wnaed yn adnewyddu Plas Penyddeuglawdd, Ffordd Pendyffryn, Y Rhyl, sef un o’r tai hynaf yn y Rhyl.

Bydd Cae Garnedd yn awr yn mynd ymlaen i Rowndiau Terfynol gwobrau’r LABC a gaiff eu cynnal ar ddydd Mawrth, 10 Tachwedd, 2015 yng Ngwesty’r Lancaster, Llundain.