Mis Rhagfyr, cafodd preswylwyr ar draws Conwy a Gwynedd dipyn o hwyl y Nadolig wrth i ni rannu hamperi blasus fel rhan o’n hymgyrch i ‘Enwebu Cymydog’.
Gofynnwyd i breswylwyr enwebu cymydog da oedd wedi eu helpu nhw neu eu cymuned yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Daeth Siôn Gorn i weld y cymdogion da yma, gyda’r ceirw a thîm o gynorthwywyr y Nadolig, ym mis Rhagfyr, i gyflwyno’r hamperi yn llawn anrhegion da a rhannu tipyn o hwyl y Nadolig.
Felly beth wnaeth y cymdogion buddugol i gael eu dewis ar gyfer hamper? Amrywiodd rhesymau o helpu cymdogion pan fyddant yn sâl i wneud yn siŵr bod eu cymuned yn lân, yn daclus ac yn ddiogel.
Dyma ddetholiad o luniau o’r gyflenwi. Gallwch weld y dewis llawn ar ein tudalen Facebook.
Rydym am wneud Clwb Seren, ein Cylchlythyr Tenantiaid, yn rhywbeth rydych am bori ynddo, ei ddarllen a’i fwynhau. I wneud hynny mae angen i ni gael gwybod gennych beth rydych chi eisiau ei gael ohono.
Ymunwch â ni am weithdy ym mis Mawrth a fydd yn ein helpu i ddeall beth rydych chi ei eisiau gan y cylchlythyr. Beth rydych chi’n ei hoffi am y cylchlythyr presennol; beth nad ydych chi’n ei hoffi; beth fyddech chi’n hoffi cael mwy ohono? Dyma eich cyfle i ddweud wrthym!
Bydd pawb sy’n dod draw yn cael eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill talebau o’u dewis naill ai o dalebau Love2Shop (Gellir eu defnyddio yn HMV, Argos, Iceland, Mothercare, a llawer mwy), talebau Grŵp Arcadia (y gellir eu defnyddio yn Topman, Topshop, Dorothy Perkins, Burton, Miss Selfridge, Outfit) neu dalebau Tesco.
Darperir lluniaeth. Caiff costau teithio eu talu nôl i chi.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r gweithdy, cysylltwch ag Iwan Evans ar [email protected] neu ffoniwch 01492 563232.
Bydd Sioned a Donna o Prosiect Bus Stop, yn ymweld â stad Parc Clarence i wneud Gweithgareddau Crefft Nadolig Dydd Mercher 16eg o Rhagfyr, 4:00 — 5:00yp – Dewch i ymuno! Lawr lwythwch y poster yma!
Mae preswylwyr ar draws Conwy a Gwynedd yn cael eu gwahodd i ‘Enwebu Cymydog’ sy’n haeddu dathlu’r Nadolig yn gynnar gyda hamper yn llawn pethau da.
Mae Tai Gogledd Cymru unwaith eto yn lansio ei hymgyrch Nadolig flynyddol gydag 20 o hamperi Nadoligaidd blasus ar gael i’w hennill gan denantiaid sy’n byw yng Ngwynedd a Chonwy.
A ydyn nhw wedi dangos cefnogaeth ragorol i aelodau eraill o’r gymuned, wedi helpu i lansio menter neu brosiect cymunedol neu wedi bod yn gymydog wirioneddol wych? Rydym yn awyddus i glywed gan bawb!
Bydd yr enillwyr yn cael ymweliad gan tai Gogled Cymru y agosach at y Nadolig pan fydd Siôn Corn yn galw heibio i weld y cymdogion da yma, gyda’r ceirw a thîm o gynorthwywyr i gyflwyno’r hamperi yn llawn anrhegion da a rhannu tipyn o hwyl yr ŵyl.
Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:
Dyma un o fy hoff bethau ar galendr Tai Gogledd Cymru! Mae yna ysbryd cymdogol yn parhau yn ein cymunedau ac rydym am ei ddathlu.
Manteisiwch ar y cyfle hwn i ddweud diolch i’ch cymdogion, ac enwebwch nhw heddiw! “
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Llun, y 14 o Ragfyr 2015. Gallwch enwebu drwy anfon negeseuon testun enw, cyfeiriad a rheswm dros eich enwebiad i 07538254254 neu drwy lenwi ffurflen enwebu yma https://www.surveymonkey.com/r/Nadolig neu gan lawr lwytho a cwpwlhau y ffurflen yma ai ddychwelyd i:
Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno. Conwy LL31 9HL.
Mae Cribiniau ag Ystolion, tîm cynnal tiroedd mewnol Tai Gogledd Cymru, allan ag o gwmpas mis Tachwedd yma ac eisiau ein tenantiaid ymuno a nhw!
Bydd y tîm yn plannu, cynnal gweithdai, cynnig awgrymiadau a rhoi planhigion am ddim i ffwrdd!
Byddant yn y lleoliadau canlynol:
Planhigion, Potiau a Phatios, Maes y Llan, Towyn | 16 Tachwedd 3yp – 5yp
Dewch i ymuno â ni ar gyfer gweithdy planhigion gwely gaeaf a basgedi hongian a ddarperir gan Gribinau ac Ystolion. Cewch awgrymiadau garddio a phlanhigion AM DDIM! Croeso i bob oedran.
Lawr lwythwch boster
Y Plannu Mawr, Cae Bold, Caernarfon | 20 Tachwedd | 2yp – 5yp
Ymunwch â ni ar gyfer y plannu mawr! Bydd staff Cribiniau ac Ystolion a TGC yn plannu bylbiau cennin Pedr yng Nghae Bold, Caernarfon. Croeso i bob oedran.
Lawr lwythwch boster
Mwy o Wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Iwan Evans 01492 563232 [email protected]
Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn… Cystadleuaeth Garddio Tai Gogledd Cymru
Bydd Prosiect Bus Stop yn ymweld ag nifer o ein stadau tai yn gwneud gweithgareddau Nos Galan Gaeaf AM DDIM yn mis Hydref.
Y dyddiadau a’r lleoliadau yw:
- Maes Myrddin, Llanrwst – Dydd Llun 26 Hydref 1:30yp – 3:00yp
- Ffordd Dawel & Heol Dirion, Colwyn Bay – Dydd Mercher 28 Hydref 5:00yp – 6:30yp
- Parc Clarence, Llandudno – Dydd Iau 29 Hydref 1:00yp – 14:30yp
Dewch draw gydag eich plant a chadwch lygaid allan am y bws glas!
A oes ganddo’ch chi gwestiwn yr ydych yn ysu i’w ofyn i Dîm Trwsio Tai Gogledd Cymru
Dyma eich cyfle i ofyn. Bydd y Tîm Trwsio, gwaith Cynlluniedig a Chribiniau ag Ystolion yn cymryd y llwyfan ac yn cynnal sgwrs Facebook fyw ar Ddydd Mercher 28 Hydref o 2yp -3yp.
Byddwch yn gallu postio eich cwestiynau ar ein tudalen Facebook neu drwy anfon neges breifat uniongyrchol ar y diwrnod.
Ddim yn gallu mynychu’r sgwrs? Gyrrwch neges i ni o flaen llaw a byddwn yn gwneud ein gorau i ateb eich cwestiynau.
https://www.facebook.com/northwaleshousing
Mae’r gwaith wedi dechrau’n swyddogol ar ddatblygiad tai cymdeithasol newydd gwerth £1.5 miliwn yn Wrecsam, fydd yn darparu 12 o dai rhent fforddiadwy newydd yn yr ardal.
Y datblygiad hwn yw datblygiad cyntaf TGC yn y rhanbarth, a hynny mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam.
Trefnwyd ddigwyddiad gan Tai Gogledd Cymru I i nodi dechrau’r gwaith ar y safle, ac er mwyn croesawu partneriaid a’r Cynghorwyr lleol Mark Pritchard ac Ian Roberts i roi mwy o wybodaeth iddynt am y datblygiad pwysig hwn.
Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gael cychwyn ar y datblygiad hwn yn Wrecsam. Mae’n nodi ehangu i Tai Gogledd Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyngor Wrecsam. Trwy weithio mewn partneriaeth agos fel hyn gallwn wella rhagolygon tai teuluoedd ifanc lleol.”
Mae’r safle wedi’i leoli oddi ar Ffordd Whitegate yn Wrecsam, ac yn y gorffennol cafodd ei ddefnyddio fel maes parcio. Bydd TGC a’r contractwyr a benodwyd, Grŵp K & C, yn trawsnewid y safle, gan ddarparu 12 o gartrefi sydd eu dirfawr angen yn yr ardal, sef 6 tŷ gyda 2 ystafell wely a 6 fflat un ystafell wely.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Arweiniol dros Dai, Cyngor Wrecsam:
Mae tai fforddiadwy yn flaenoriaeth strategol i’r Cyngor a bydd y datblygiad hwn yn helpu tuag at ddiwallu’r angen yma.”