Gweithio i ni

Mae Tai Gogledd Cymru yn gwmni cyfeillgar i weithio iddo. Fe all weithiau fod yn heriol ond rydym hefyd yn gefnogol; byddwn yn eich annog a’ch cefnogi yn eich swydd a’ch datblygiad personol.

Pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym gyda Achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl Aur, sydd yn feincnod o arferion da wrth reoli pobl. Felly, rydych yn gwybod eich bod mewn dwylo da.

Rydym eisiau i bawb fwynhau gweithio yma ac rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg lle y gallwn, gan annog cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn cynnig nifer o fanteision ychwanegol, gan wneud Tai Gogledd Cymru yn lle gwych i weithio.

I gael gwybod mwy am weithio i Tai Gogledd Cymru, ewch i weld beth yw barn ein staff . Hoffi beth rydych yn ei glywed? Cymerwch olwg ar ein swyddi gwag cyfredol a gweld os oes rhywbeth yno i chi.