Agor datblygiad tai fforddiadwy newydd yn swyddogol

Daeth preswylwyr, staff a gwesteion ynghyd i ddathlu agoriad swyddogol datblygiad tai fforddiadwy newydd Stad yr Ysgol yn Bryn Paun, Llangoed ar ddydd Gwener 21 Hydref, 2016.

Gan weithio’n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn, mae datblygiad tai newydd Stad yr Ysgol wedi’i adeiladu yn ardal Bryn Paun pentref Llangoed, yn agos at yr ysgol gynradd leol.

Mae’r safle wedi cael ei weddnewid gan Tai Gogledd Cymru a’r contractwyr dynodedig Williams Homes Bala, gan ddarparu 10 o dai fforddiadwy sydd eu dirfawr angen, sef cymysgedd o 8 tŷ pum person x tair ystafell wely a 2 dŷ pedwar person x dwy ystafell wely.

Mi wnaeth Lynne Parry, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Landlord Tai Gogledd Cymru, a’r cynghorydd lleol Lewis Davies helpu i blannu coeden addurnol i nodi’r achlysur cyn mwynhau te prynhawn gyda pherfformiadau gan blant yr ysgol leol, Ysgol Llangoed.

Eglurodd Phil Danson, Cyfarwyddwr Lleoedd gyda Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi creu 10 o dai rhent fforddiadwy newydd i bobl leol Llangoed. Mae hyn yn ganlyniad partneriaeth wych gyda Chyngor Sir Ynys Môn. Trwy weithio gyda’n gilydd rydym wedi gwella’r rhagolygon tai i deuluoedd ifanc lleol a helpu i fynd i’r afael â mater ehangach prinder tai.”

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai Ynys Môn, Shan Lloyd Williams:

“Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Tai Gogledd Cymru i gyflenwi’r cynllun tai fforddiadwy arloesol yma, mewn ardal lle canfyddwyd angen am dai fforddiadwy. Ein gobaith yw y bydd y tenantiaid yn mwynhau byw ar eu stad newydd am flynyddoedd i ddod, ac y byddant yn cymryd pob cyfle i gyfrannu at weithgareddau’r gymuned.

Dywedodd deilydd y portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Aled Morris Jones:

“Dyma enghraifft wych arall o sut y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda’i bartneriaid i ddatblygu tai fforddiadwy newydd ar yr Ynys. Rydym yn gweithio’n rhagweithiol i ddatblygu tai fforddiadwy ychwanegol ar draws Ynys Môn, sy’n cynnwys adeiladu’r cartrefi Cyngor newydd cyntaf ers 30 mlynedd, dod ag eiddo gwag hir dymor yn ôl i ddefnydd ac yn ddiweddar diddymu’r Hawl i Brynu ar Ynys Môn.”

Ychwanegodd Phil Danson, Cyfarwyddwr Lleoedd gyda Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn gobeithio y bydd preswylwyr Stad yr Ysgol yn mwynhau byw yn eu cartrefi newydd ac y bydd y gymuned yn ffynnu ac yn tyfu ochr yn ochr â’r goeden newydd a blannwyd heddiw.”