Maes parcio yn gwneud lle i 12 o gartrefi fforddiadwy newydd

Agorwyd datblygiad tai fforddiadwy newydd Clos Owen yn Wrecsam yn swyddogol mewn digwyddiad ar ddydd Gwener 4 Tachwedd 2016.

Mae’r datblygiad tai cymdeithasol £1.5 miliwn yn nodi’r cyntaf ar gyfer Tai Gogledd Cymru yn Wrecsam, gan wneud yn siŵr bod y gymdeithas yn byw yn ôl ei enw ‘Tai Gogledd Cymru’.

Gan weithio’n agos gyda Chyngor Sir Wrecsam mae cymdeithas tai Gogledd Cymru wedi creu 12 o dai rhent fforddiadwy newydd yn ardal Whitegate y dref ar safle hen faes parcio.

Plannwyd coeden addurnol i nodi’r achlysur cyn cyfarfod trigolion dros de prynhawn.

Meddai Phil Danson, Cyfarwyddwr Llefydd yn Tai Gogledd Cymru:

“Mae hon yn enghraifft ardderchog o sut mae Tai Gogledd Cymru yn gweithio gyda’u partneriaid i ddatblygu tai fforddiadwy newydd yng Ngogledd Cymru. Drwy weithio’n agos mewn partneriaeth gyda Chyngor Wrecsam rydym wedi gwella rhagolygon tai i deuluoedd ifanc lleol a mynd i’r afael â’r mater ehangach o brinder tai.”

“Rydym yn gobeithio y bydd y tenantiaid yn mwynhau byw ar eu stad newydd am flynyddoedd i ddod, ac y byddant yn cymryd pob cyfle i gyfrannu at eu cymuned.”

Symudodd trigolion i’w cartrefi newydd ym mis Gorffennaf 2016 ac maent wedi ymgartrefu’n dda.

Dyweddod un o’r preswylwyr Julie Jones:

“Rwy’n hapus iawn gyda fy nghartref newydd. Symudais yma o Llai a dwi’n hapus iawn gydag ansawdd y tŷ newydd. Mae yna ddigon o le ynddo, mae yna baneli solar sydd eisoes wedi arbed arian i mi ar filiau gwresogi, mae popeth yn lân ac yn fodern ac yn hawdd i’w defnyddio ac mae digon o le storio. Gallaf gyrraedd canol y dref o fewn ychydig funudau ar droed rŵan felly mae’n ddelfrydol i mi.”

Dywedodd yr Aelod Lleol ar gyfer Whitegate, y Cyng Brian Cameron:

“Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn ar gyfer tai yn yr ardal.  Rwy’n falch iawn hefyd fod dau o’r fflatiau llawr gwaelod un ystafell wely wedi cael eu hadeiladu gydag addasiadau ar gyfer preswylwyr sydd ag anghenion penodol. Mae partneriaeth y cyngor gyda Tai Gogledd Cymru wedi gweithio’n dda iawn yma ac, o ganlyniad, rydym wedi gallu creu eiddo dymunol iawn ac rwy’n siŵr y bydd y preswylwyr newydd yn hapus iawn gyda nhw.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Rydym wedi gwneud cynnydd gwych gyda datblygu tai fforddiadwy yn Wrecsam yn ddiweddar, diolch i nifer o gynlluniau sydd ar y gweill ar draws y Fwrdeistref Sirol. Rwyf wrth fy modd bod y cartrefi modern, atyniadol hyn wedi eu cwblhau yn Clos Owen ac mae’n wych gweld bod y bartneriaeth rhwng y Cyngor a Tai Gogledd Cymru wedi cael canlyniadau mor gadarnhaol yma.”