Preswylwyr Cae Garnedd yn symud i mewn

Mae’r gwaith adeiladu wedi gorffen erbyn hyn ar Gae Garnedd, cynllun tai gofal ychwanegol £8.35 miliwn Tai Gogledd Cymru ym Mangor ac fe ddechreuodd y preswylwyr symud i mewn i’w cartrefi newydd yn Rhagfyr 2014.

Mae Cae Garnedd yn gynllun gofal i bobl hŷn wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd. Dyma’r cynllun gofal ychwanegol cyntaf o’i fath ym Mangor ac mae’n cynnig ffordd wahanol o fyw i bobl hŷn, i fyw’n annibynnol gyda gofal a chefnogaeth.

Mae’r cynllun yn cynnwys 15 o fflatiau gydag un ystafell wely a 27 fflat gyda dwy ystafell wely, ac mae pob un yn cynnwys cegin, lle byw ac ystafell ymolchi. Mae’r preswylwyr yn gallu defnyddio cymaint neu gyn lleied o’r cyfleusterau cymunedol sydd ar gael ag y dymunant gan gynnwys mannau gorffwys, hamdden a gweithgareddau, yn ogystal ag ardal fwyta ganolog wedi ei harlwyo. Mae gofal pedair awr ar hugain ar gael ac yn cael ei bennu gan anghenion pob unigolyn y gellir addasu cynllun gofal ar eu cyfer wrth i’w hanghenion newid.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Dyma’r cynllun gofal ychwanegol cyntaf ym Mangor ac mae’n rhoi dewis arall pwysig i aelodau hŷn ein cymuned wrth ystyried eu dewisiadau tai. Rydym yn hynod falch o allu dod â chynllun fel hwn i’r ddinas.”

“I lawer o bobl hŷn, gellir ystyried cyfleoedd byw ar bob pen o’r sbectrwm o fyw’n annibynnol llawn i ofal preswyl neu nyrsio. Mae Gofal Ychwanegol yn pontio’r bwlch hwn ac yn cynnig dewis i bobl gadw eu byw’n annibynnol gyda chefnogaeth a gofal pan fo angen.”

Ychwanegodd Paul:

“Mae’r adeilad ei hun wedi ei leoli mewn safle ardderchog o fewn y ddinas, gan gynnig mynediad hawdd i gyrchfannau ac atyniadau allweddol o fewn y ddinas.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Gofal:

“Fel Cyngor, rydym yn falch iawn o weld preswylwyr yn symud i mewn i’r cyfleuster tai gofal ychwanegol yng Nghae Garnedd. Bydd y bartneriaeth hon rhwng Cyngor Gwynedd a Tai Gogledd Cymru yn caniatáu pobl i barhau i fyw’n annibynnol mewn cymuned ddiogel a chartrefol gyda gwasanaethau gofal hyblyg.”

“Mae’r boblogaeth hŷn yng Ngwynedd yn mynd i gynyddu dros y blynyddoedd nesaf ac mae’n rhaid i ni baratoi rŵan ar gyfer y gofynion a ddaw yn anochel ar ein gwasanaethau, a gallu rhoi dewis i bobl o sut a ble maent am fyw.”

“Mae datblygiadau fel Cae Garnedd yn caniatáu i bobl hŷn gael y rhyddid i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain gyda’r tawelwch meddwl bod cefnogaeth ar gael pan fo angen.”

Gallwch ddod hyd a mwy o wybodaeth am Cae Garnedd yma. Os hoffech wybod mwy neu drefnu ymweliad yna cysylltwch â Rheolwr y Cynllun, Carwyn George yn [email protected] neu ffoniwch 01492 563287.