Prif Weinidog Cymru yn agor Cae Garnedd yn swyddogol

Ar ddydd Mercher 2 Medi, 2015 agorwyd Cae Garnedd, sef cynllun Gofal Ychwanegol arloesol Tai Gogledd Cymru, yn swyddogol gan Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru.

Daeth preswylwyr, staff a gwesteion ynghyd i ddathlu agoriad swyddogol y cynllun a rhoddodd Carwyn Jones AC help llaw wrth blannu coeden addurnol i nodi’r achlysur cyn cyfarfod preswylwyr dros de prynhawn.

Mae ‘Cae Garnedd’ yn gynllun Gofal Ychwanegol newydd gwerth £8.35 miliwn a adeiladwyd ym Mhenrhosgarnedd, Bangor, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru. Y cynllun hwn yw’r cyntaf o’i fath ar gyfer Bangor ac mae’n cynnig ffordd amgen o fyw ar gyfer pobl dros 55 oed, gan ddarparu byw’n annibynnol wedi’i gefnogi gan raglen gofal a chefnogaeth y gellir ei haddasu a’i hasesu wrth i’w hanghenion unigol yn newid.

Manteisiodd gwesteion hefyd ar y cyfle i gael eu tywys o amgylch y cyfleusterau gwych yng Nghae Garnedd. Mae’r cynllun yn cynnwys 15 o fflatiau un ystafell wely a 27 fflat dwy ystafell wely manyleb uchel, gyda phob un yn cynnwys ei chegin ei hun, ardal fyw ac ystafell ymolchi, yn ogystal â llu o ardaloedd cymunedol modern a chartrefol gan gynnwys lolfa; bwyty; lle trin gwallt ac ystafell driniaeth harddwch a llawer mwy.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

Mae’r cyfleusterau yma yng Nghae Garnedd yn rhagorol ac yn rhoi cyfle i bobl hŷn barhau i fyw’n annibynnol. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi’r cyfleuster hwn gyda £4.8m o arian Grant Tai Cymdeithasol. Mae cynlluniau fel Cae Garnedd yn lleihau’r ddibyniaeth ar ofal preswyl neu’r system gofal hir dymor a sicrhau nad yw pobl mewn perygl o fod yn unig neu’n ynysig.

Mae cynlluniau fel Cae Garnedd hefyd yn rhoi hwb i’r economi drwy gefnogi adeiladu a’r gadwyn gyflenwi, a thrwy ddarparu swyddi a phrentisiaethau ar gyfer yr ardal leol.”

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

Rydym yn hynod o falch o allu dod â’r cynllun hwn i’r ddinas, y cynllun cyntaf o’i fath ym Mangor. Mae’n darparu dewis amgen pwysig i aelodau hŷn ein cymuned wrth iddyn nhw ystyried eu hopsiynau tai.

I lawer o bobl hŷn, gall cyfleoedd byw gael eu cyfyngu o un pen y sbectrwm i’r pen arall, o fyw’n annibynnol llawn i ofal preswyl neu nyrsio. Mae Gofal Ychwanegol yn pontio’r bwlch hwn ac yn cynnig dewis i bobl barhau i fyw’n annibynnol gyda chefnogaeth a gofal pan fo angen.”

Chwith i dde:

  • Ian Williams, Advent
  • Chris White Grwp K&C
  • Cynghorydd Ioan Thomas, Cyngor Gwynedd
  • Peter Gibson, Cadeirydd, Bwrdd Tai Gogledd Cymru
  • Prif Weinidog, Carwyn Jones
  • Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru