Preswylwyr yn gweddnewid tir segur a’i droi yn ardd flodau gwyllt

Mae preswylwyr Tai Gogledd Cymru yn Ffordd Eithinog a Lôn Mieri ym Mangor wedi gweddnewid darn o dir segur a’i droi yn ardd flodau gwyllt.

Cafwyd cefnogaeth arbennig o dda i’r prosiect pan ofynnwyd i breswylwyr beth yr hoffent ei weld ar y tir yma.

Arweiniodd Ann Williams, Arweinydd Prosiect Garddio Bywyd Gwyllt ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sesiwn wybodaeth er mwyn i’r preswylwyr ddysgu mwy am y prosiect a bywyd gwyllt yn gyffredinol.

Cymerodd y preswylwyr ran trwy blannu blodau gwyllt, a chael help llaw staff TGC, Arweinydd y Prosiect Garddio Bywyd Gwyllt, a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

Dywedodd Emma Briscoe, Swyddog Tai Cynorthwyol gyda Tai Gogledd Cymru:

Rwyf mor falch ein bod wedi gallu cynnwys Anna o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn y gwaith o blannu’r cae a’r ardd flodau gwyllt gyda’n tenantiaid yn Eithinog, roeddwn wedi gobeithio ers tro y gallem wneud rhywbeth fel hyn ar y darn yma o dir.”

Bydd yn creu cynefin hynod bwysig ar gyfer gwenyn a thrychfilod ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a’r gymuned gyfan. Rydym yn gobeithio y bydd yr ysgol leol hefyd yn gallu defnyddio’r tir ar gyfer eu prosiectau bywyd gwyllt.”

Ychwanegodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid, Tai Gogledd Cymru:

Mae wedi bod yn brosiect hynod lwyddiannus sydd wedi gweld cynnydd mewn ymgysylltiad gyda rhai o’r preswylwyr.”

Bydd digwyddiadau tebyg yn cael eu hysbysebu ar y Calendr Digwyddiadau neu gallwch weld y diweddaraf ar ein tudalenFacebook neu ein ffrwd Twitter.

Cronfa Gymunedol newydd yn cael ei lansio gan TGC

Mae Tai Gogledd Cymru wedi lansio Cronfa Gymunedol i ddarparu cymorth ariannol i gynorthwyo grwpiau gwirfoddol, cymunedol, hamdden neu breswylwyr sydd wedi’u lleoli yn siroedd Conwy, Gwynedd, ac Ynys Môn. Dylai’r sefydliadau/grwpiau hyn fod yn datblygu prosiectau a mentrau sydd o fudd i’r gymuned leol.

Mae dyfarniadau ariannol fel arfer yn amrywio o £25 i £250 a gyda rhai amodau. Am fwy o wybodaeth gweler y tudalen CronfaGymunedol.

Byw yn Annibynnol – gêm fwrdd newydd yn adlewyrchu materion bywyd go iawn sy’n wynebu pobl ifanc

Mae gêm fwrdd newydd sbon wedi cael ei lansio sy’n amlygu realiti byw’n annibynnol i bobl ifanc yng ngogledd Cymru. Mae’r gêm wedi ei datblygu gan bobl ifanc sydd wedi cael profiad go iawn o’r anawsterau sy’n ymwneud â byw’n annibynnol a digartrefedd.

Sefydlwyd y gêm fwrdd ‘Byw yn Annibynnol’, a gefnogir gan Tai Gogledd Cymru, Grŵp Cynefin, Cartrefi Conwy a Phrosiect Bus Stop, o daflen wybodaeth a grëwyd i helpu pobl ifanc i ddysgu am sgiliau bywyd fel rheoli cyllideb a chostau byw.

Teimlai’r bobl ifanc oedd y tu ôl i ddatblygu’r gêm bod natur ryngweithiol gêm fwrdd yn ffordd hwyliog o gael pobl i siarad am y materion allai eu poeni wrth ddysgu am wirioneddau digartrefedd yr un pryd.

Gan ddod ar faterion yma’n fyw, cynhaliwyd gwaith ymchwil a sylweddoli bod yr elfen ryngweithiol o chwarae gêm fwrdd yn fwy buddiol i bobl ifanc na dilyn y llwybr arall, o greu gêm ddigidol.

Bydd y gêm a ddatblygwyd gan Rwydwaith Tai Ieuenctid, ar gael ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych i’w ddefnyddio fel adnodd dysgu effeithiol.

Yn ôl Gemma Closs-Davies, Cydlynydd Prosiect Digartrefedd Ieuenctid:

Mae Byw yn Annibynnol yn debyg i’r gêm fwrdd Monopoly mewn sawl ffordd. Rydych yn teithio o gwmpas y bwrdd gan godi cerdyn sefyllfa wahanol a rhyngweithio. Mae gennych bedwar diwrnod pan fydd eich cyflog yn cyrraedd a phedwar diwrnod i dalu biliau yn ystod y gêm, ac mae angen i chi reoli eich arian i sicrhau bod gennych ddigon o arian i fynd â chi o gwmpas y bwrdd.

Cyn lansio’r gêm, rydym wedi cynnal nifer o sesiynau peilot i brofi’r gêm ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan bobl ifanc sydd wedi ei ddefnyddio.

Gan fod y gêm wedi cael ei datblygu gan bobl ifanc sydd wedi cael profiadau go iawn o’r problemau hyn, mae’n cynnwys sefyllfaoedd realistig all gael eu defnyddio fel pynciau trafod. Mae’r digwyddiadau a grëwyd o fewn y gêm yn adlewyrchu’r hyn all ddigwydd mewn bywyd go iawn.”

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid yn Nhai Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y prosiect:

“Mae Tai Gogledd Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hwn. Mae ein tenantiaid hefyd wedi mwynhau cymryd rhan, ac wedi defnyddio eu profiad personol i helpu i ddatblygu’r gêm. Rydym yn gobeithio bydd y gêm fwrdd yn mynd ymlaen i fudd i lawer o bobl ifanc.”

“Mae’r bobl ifanc dan sylw, aelodau’r Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc, hefyd yn datblygu gwefan sy’n darparu gwybodaeth hanfodol i bobl ifanc sydd yn meddwl am fyw yn annibynnol.”

Cafodd y gêm ei lansio yn TAPE, Bae Colwyn lle datgelwyd gêm enfawr sydd wedi ei greu a’i osod ar y llawr.

Os ydych yn chwilio am wybodaeth ynglŷn â’r gêm fwrdd ‘Byw yn Annibynnol’, neu i gael manylion am gymorth ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232.

Mae’r Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc yn recriwtio ar gyfer aelodau newydd ac maent yn cwrdd yn Nhŷ Hapus yn Llandudno ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf am 5pm. Lawr lwythwch daflen yma

 

Grant Datblygiad Personol newydd ar gael i tenantiaid

Mae TGC yn falch o allu cynnig Grant Datblygiad Personol o hyd at £ 250 ar gyfer ein tenantiaid, wedi cael ei ddatblygu er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau ariannol a allai fod yn eich atal rhag cael mynediad i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Mae enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ariannu yn cynnwys offer neu gyfarpar ar gyfer swydd neu gymhwyster e.e. pecyn trin gwallt neu lyfrau ar gyfer coleg; ffioedd cwrs neu dillad ar gyfer cyfweliad.

Cliciwch yma i gael gwybod a ydych chi’n gymwys a sut i wneud cais.

Pwyso’r botwm a chael mynd i gyngerdd access all Eirias

Mae dau o denantiaid Tai Gogledd Cymru wedi mwynhau diwrnod yng nghyngerdd arbennig Access All Eirias, a’r cyfan yr oedd angen iddynt ei wneud oedd hoffi Tudalen Facebook y sefydliad.

Mae Tai Gogledd Cymru yn annog tenantiaid i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o ymgysylltu â’r sefydliad, gan eu helpu i gael gwybodaeth a rhoi adborth neu fynegi barn. Yn ddiweddar, cynhaliodd TGC gystadleuaeth lle’r oedd cyfle i ennill dau docyn i Access All Eirias – ac er mwyn cael cyfle i ennill y tocynnau y cyfan yr oedd rhaid i denantiaid ei wneud oedd hoffi tudalen Facebook neu ddilyn Tai Gogledd Cymru ar Twitter.

Mi wnaeth Helen a Robert Mawson o Borthaethwy hoffi Tai Gogledd Cymru ar Facebook a nhw oedd yr enillwyr lwcus. Cawsant ddiwrnod gwych yn mwynhau’r seren byd enwog o Gymru, Tom Jones ac artistiaid enwog eraill yn perfformio yn y digwyddiad ym Mae Colwyn.

Dywedodd Iwan Evans o Tai Gogledd Cymru:

“Mae cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn arf cyfathrebu hynod o bwysig i ni ac rydym am i gymaint o’n tenantiaid â phosibl ymgysylltu â ni trwy eu hoff gyfrwng cymdeithasol. Mae cystadlaethau fel hyn yn gadael i’n tenantiaid wybod bod gennym bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn helpu i yrru traffig a diddordeb tuag atom ar-lein.”

Ychwanegodd:

“Rydym yn falch bod Helen a Robert wedi mwynhau eu diwrnod a byddwn yn annog ein holl denantiaid i gadw golwg allan am gynlluniau tebyg eraill drwy gydol 2014.”

Hwyl yr Haf

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cyhoeddi manylion ei Diwrnod Hwyl yr Haf blynyddol!

Caiff y digwyddiad ei ystyried gan lawer fel uchafbwynt y flwyddyn i’r gymdeithas gyda channoedd o denantiaid yn heidio iddo, ac eleni cynhelir y digwyddiad ar ddydd Mercher 20fed o Awst yn Ysgol Morfa Rhianedd, Ffordd Cwm, Llandudno.

Bydd yr hwyl yn cychwyn am 11yb ac yn parhau tan 3yp, a gall ymwelwyr ddisgwyl llu o weithgareddau hwyliog. Eisoes ar y rhaglen y mae DJ, sioe dalent, paentio wynebau, celf a chrefft, helfa drysor, ardal chwarae, gardd a gweithgareddau chwaraeon amrywiol, gyda mwy i’w cadarnhau.

Gall pawb sy’n mynychu fwynhau cinio am ddim a bydd cludiant am ddim yn cael ei drefnu i hebrwng preswylwyr yn ôl a blaen o’u cartrefi. Rhoddwyd gwahoddiad i holl denantiaid y gymdeithas ledled Gogledd Cymru i ddod draw i’r diwrnod hwyl.

Dywedodd Iwan Evans Tai Gogledd Cymru:

Mae hwn yn ddiwrnod pwysig yng nghalendr Tai Gogledd Cymru. Mae nid yn unig yn ddiwrnod llawn hwyl, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i bawb sgwrsio â phobl o fewn eu cymunedau ac o drefi eraill cyfagos.

Rydym wedi trefnu llond gwlad o bethau difyr sy’n amrywio o weithgareddau chwaraeon egniol i bethau mwy ymlaciol a hamddenol. Rydym yn annog ein holl denantiaid i ymuno â ni ar y dydd! “

Bydd aelodau o dîm Tai Cymru Gogledd hefyd wrth law i gynnig cymorth a chyngor ynghylch unrhyw agwedd o’u tenantiaeth. Bydd gwybodaeth o sefydliadau partner eraill, gan gynnwys yr Undeb Credyd, Crest, Bus Stop ac ailgylchu Cyngor Conwy hefyd ar gael ar y diwrnod.

 

Am fwy o wybodaeth am y dwirnod hwyl cysylltwch â ni ar 01492 572727 neu [email protected]

Bod yn wyrdd a chadw tŷ mewn trefn

Mae preswylwyr ystadau tai ledled rhanbarth Conwy wedi gwneud defnydd o nifer o sgipiau mawr dros dro, gan gael gwared ar wastraff hen a segur a fydd yn cael ei ailgylchu wedyn fel rhan o gyfres o ‘Ddiwrnodau Gweithredu Amgylcheddol’.

Dechreuodd y fenter, sy’n cael ei rheoli gan Tai Gogledd Cymru, ryw chwe blynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad blynyddol y mae preswylwyr yn edrych ymlaen ato fel cyfle i gael trefn ar eu tai ar ôl y Nadolig.

Caiff eitemau cartref o beiriannau golchi, setiau teledu a nwyddau trydanol bach eu rhoi yn y sgip ochr yn ochr â theganau, ffensys wedi torri, gemau a llawer mwy. Yna caiff y sgip enfawr ei gasglu gan fynd â’r nwyddau i’w hailgylchu a’u hailddefnyddio lle bo hynny’n bosibl.

Dywedodd Garth Butcher o Tai Gogledd Cymru, sy’n helpu i reoli’r dydd:

“Mae’r Diwrnod Amgylcheddol yma nid yn unig yn gyfle gwych i bobl glirio a chael trefn ar eu tai ond mae hefyd yn annog aelodau o’r gymuned i gyfarfod a sgwrsio. Yn aml, mi welwch chi gymdogion sydd erioed wedi siarad â’i gilydd yn dechrau cymryd rhan a helpu ei gilydd, sy’n wych!”

Bydd cyfanswm o 24 sgip yn cael eu lleoli o fewn cymunedau lleol gyda phob un yn dal dwy dunnell o wastraff. Ar ôl cwblhau’r gwaith dros 12 wythnos o gyflwyno’r sgipiau, mae tîm Tai Gogledd Cymru yn disgwyl y byddant wedi casglu bron i 50 tunnell o wastraff.

Disgyblion Ysgol maelgwn yn dod ag ysbryd yr ŵyl i Blas Blodwel

Mae disgyblion ifanc o Ysgol Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth Nadolig ar gyfer ysgolion i ddylunio a chynhyrchu’r addurn Nadolig gorau.

Cymerodd dros 100 o ddisgyblion ran yn yr her Addurn Nadolig, a osodwyd gan Tai Gogledd Cymru, a gwelwyd cynhyrchu casgliad enfawr o addurniadau lliwgar ar gyfer y gystadleuaeth. Mae swyddfeydd Tai Gogledd Cymru bron gyferbyn ag Ysgol Maelgwn ar Broad Street, ac roedd yr her ysgol yn gyfle gwych i’r ddau ddod at ei gilydd yng nghyfnod y Nadolig.

Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, Paul Diggory, fu’n beirniadu’r addurniadau ac roedd wrth ei fodd gyda’r canlyniadau. Dywedodd:

“Am gasgliad gwych a chreadigol o addurniadau! Rwyf wedi fy mhlesio’n arw gyda’r syniadau a gyflwynwyd, ac roedd dewis pedwar buddugol yn waith anodd iawn.”

Dewiswyd pedwar disgybl o bedwar grŵp oedran gwhanaol a derbyniodd bob un docyn rhodd am eu gwaith.

Ychwanegodd Paul:

“Llongyfarchiadau i’r enillwyr, bydd eu haddurniadau yn hongian ar ein coeden ym Mhlas Blodwel ynghyd â holl addurniadau eraill Ysgol Maelgwn.”

Roedd y beirniadu yn rhan o Ffair Nadolig flynyddol yr ysgol ac ymunodd cynrychiolwyr o Tai Gogledd Cymru â staff, disgyblion a rhieni yn ystod y prynhawn oedd, i lawer, yn gychwyn ar gyfnod yr ŵyl.

HO HO HO – Anrhydeddu eich cymydog gyda pheth o ysbryd yr ŵyl

Mae preswylwyr ar draws Conwy/Gwynedd yn cael eu gwahodd i ‘Enwebu Cymydog’ y maent yn credu sy’n haeddu syrpreis Nadolig cynnar a hamper yn llawn o bethau da.

Unwaith eto mae Tai Gogledd Cymru yn lansio ei hymgyrch Nadolig blynyddol gyda chyfle i ennill 15 o hamperi llawn danteithion ar gyfer tenantiaid sy’n byw o fewn Gwynedd/Conwy. Bydd yr enillwyr yn cael ymweliad annisgwyl gan Tai Gogledd Cymru yn nes at y Nadolig pryd y bydd Siôn Corn, a’i geirw a thîm o helpwyr Dolig yn taro heibio yn eu sled i ddosbarthu’r hamperi a lledaenu ychydig o ysbryd yr ŵyl.

Mae holl denantiaid Tai Gogledd Cymru wedi derbyn ffurflen enwebu ac amlenni rhagdaledig neu fe allent anfon e-bost at [email protected] a rhoi’r rhesymau’n gryno pam bod eu cymydog yn haeddu cael ei enwebu – A yw wedi dangos cefnogaeth ragorol i aelodau eraill o’r gymuned , wedi helpu i lansio menter neu brosiect cymunedol, neu wedi bod yn gymydog gwirioneddol wych? Mae’r sefydliad yn awyddus i glywed gan bawb!

Mae menter Enwebu Cymydog yn nodi dechrau dathliadau’r Nadolig i Dai Gogledd Cymru ac mae wedi dod yn ddyddiad i’w groesawu yng nghalendr y gymdeithas tai.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

Mae hon yn fenter wych y mae tenantiaid a staff bob amser yn awyddus i gymryd rhan ynddi. Eleni rydym yn cynnig mwy o hamperi sy’n golygu ein bod eisiau mwy o bobl i gymryd rhan i enwebu eu cymydog arbennig, felly cymerwch funud o’ch amser a chysylltwch â ni – rydym am glywed gan gynifer o’n tenantiaid â phosib!”