Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr

Mae Cyfranogiad Preswylwyr yn ymwneud â chael Preswylwyr i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch eu tai.

Mi wnaethon ni gynnal ymgynghoriad gyda’r Preswylwyr a’r staff i nodi beth rydym yn ei wneud yn dda a sut y gallwn wella cyfranogiad Preswylwyr yn Tai Gogledd Cymru.

Datblygwyd y strategaeth o gwmpas barn ein Preswylwyr , a’r staff sydd wedi ein cynorthwyo i nodi beth rydym yn ei wneud yn dda, a lle mae angen i ni wneud gwelliannau.

Amcan y strategaeth yw gwella ein gwasanaethau drwy gynnwys Preswylwyr yn llawn yn y broses o ddatblygu a dylanwadau ar sut y darperir y gwasanaethau hyn. Mae’r strategaeth yn nodi sut y byddwn yn sicrhau cyfranogiad da gan Preswylwyr , a sut y byddwn yn ymgynghori â Preswylwyr ac yn defnyddio eu barn hwy.

Adroddiad Blynyddol ar Gyfranogiad Preswylwyr

Gellir gweld yr Adroddiadau Blynyddol ar Gyfranogiad Preswylwyr Ebrill 2023 – Mawrth 2024 isod:

Cynllun Gweithredu Cyfranogiad Preswylwyr 2024 – 2027

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y strategaeth hon neu eisiau cael gwybod mwy am sut i gymryd rhan a dweud eich barn, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu anfonwch ebost at [email protected]. Adroddiad Blynyddol Ymgysylltu â Preswylwyr