Gwneud Cais am Gartref

Mae siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Sir Ddinbych yn gweithredu polisi gosod eu hun, ac mae ganddynt un Gofrestr Tai Gyffredin i bawb sy’n gwneud cais am eiddo ar rent yn y sector tai cymdeithasol. Trwy gwblhau un ffurflen gais, byddwch yn cael eich ystyried gan yr holl gymdeithasau tai yn yr ardal hon.

Isod rhoddir y manylion cyswllt ar gyfer pob sir:

Ynys Môn

Gwefan Ffôn: 01248 750057 | Ebost: [email protected]

Gwynedd

Gwefan Ffôn: 01766 771000| Ebost: [email protected]

Conwy

Gwefan Ffôn: 0300 124 0050 | Ebost: [email protected]

Sir Ddinbych

Gwefan Ffôn:  01824 712911 | Email: [email protected]

Wrexham

Gwefan

Os ydych yn 55 oed neu’n hŷn, gallwch wneud cais i fyw yn ein Tai Gwarchod neu ein cynlluniau Gofal Ychwanegol.

Digartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref?

Os ydych yn ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref mae gan Tai Gogledd Cymru Wasanaethau Digartrefedd a all helpu. Mae gan yr awdurdod lleol hefyd ddyletswydd statudol i ddelio â digartrefedd. Os ydych yn ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref o fewn 28 diwrnod, fe’ch cynghorir i gysylltu â’ch awdurdod lleol a fydd yn rhoi cyngor pellach i chi.