Rhestr diogelwch Preswylwyr ar gyfer Diwrnod Saff Ar lein

Rhestr wirio diogelwch ar lein
Rhestr wirio diogelwch ar lein

Mae grŵp o breswylwyr wedi rhoi efo’i gilydd rhestr wirio diogelwch ar lein i gefnogi Diwrnod Saff Ar lein 2017.

Mae’r canllaw byr a hawdd i’w ddarllen yn argymell beth i edrych allan am wrth siopa ar lein yn ogystal â chynnwys 3 tip ar sut i aros yn saff ar lein.

Gallwch lawr lwytho’r rhestr wirio gan glicio ar y llun ar y dde.

Wnaeth y tenantiaid rhoi’r rhestr efo’i gilydd gyda chymorth gan Sioned Williams, ein Swyddog Digidol. Os rydych yn edrych am gymorth gyda bod mwy digidol, neu eisiau helpu eraill, cysylltwch â ni.

Beth yw cwyn?

Mae Tai Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi holl adborth sy’n cael ei ddarparu gan ein tenantiaid, rydym yn ei ddefnyddio i wella’r gwasanaeth rydym yn eich cynnig i chi.

Rydym ni hyd yn oed yn gwerthfawrogi cwynion. Ond beth yn union sydd yn cael ei gyfrif fel cwyn? Yn yr erthygl yma, yn dilyn awgrym gan y Panel Ymgynghorol Preswylwyr, rydym yn egluro yn union beth yw cwyn a beth sydd ddim yn cael ei ystyried yn y drefn cwyn.

Beth sy’n cael ei ystyried fel Cwyn?

Mae cwyn yn golygu nad yw cwsmer yn fodlon a’r gwasanaeth a gafwyd gan Tai Gogledd Cymru neu unrhyw un o’n contractwyr. Mae hyn yn cynnwys achlysuron lle rydych yn credu:

  • Ein bod wedi gwneud rhywbeth na ddylem fod wedi ei wneud
  • Nad ydym wedi gwneud rhywbeth y dylem fod wedi ei wneud
  • Bod ymddygiad un o weithwyr TGC (neu unrhyw un o’n contractwyr) wedi bod yn amhriodol
  • Nad yw gwasanaeth rydym yn ei ddarparu wedi cael ei gyflenwi yn uno[ a’r ansawdd, diogelwch, amlder neu gost ddisgwyliedig
  • Bod ein proses o wneud penderfyniadau wedi bod yn wallus
  • Bod TGC wedi gweithio y tu allan i bolisi neu brotocol

Beth nad yw’n cael ei gynnwys yn ein trefn gwyno?

  • Dyma’r cyswllt cyntaf ynghylch y mater
  • Nid yw’r ad ran iawn wedi cael y cyfle i fynd i’r afael a’r mater
  • Materion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Gallwch ddarllen mwy am ein trefn gwyno, neu adrodd cwyn ar-lein (neu ganmoliaeth!) gan ymweld â’r tudalen cwyn yma.

Sesiynau Cynghori Tai yn Llandudno

Byddwn yn cynnal sesiynau cynghori tai bob mis ar gyfer Llandudno – yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Llewelyn, ger ysbyty Llandudno.

Cynhelir sesiynau rhwng 11:00yb a 12:30yp ar Ddydd Mawrth cyntaf bob mis, gan gychwyn ar Mawrth 1af. Mae’r sesiynau’n agored i holl breswylwyr Tai Gogledd Cymru.

Mae’r sesiynau yn gyfle i drafod unrhyw faterion cynnal a chadw tai sydd gennych, holi am gyngor ac arweiniad ar unrhyw faterion neu i gynnig awgrymiadau ar wasanaethau neu gynlluniau yr hoffech eu gweld yn eich cymuned.

Bydd y sesiynau yn gweithredu ar sail apwyntiad yn unig.

I drefnu apwyntiad cysylltwch â’r Swyddog Tai Garth Butcher ar 07899966743.

Dyddiadau’r sesiynau yw:

  • Dydd Mawrth 1af Mawrth
  • Dydd Mawrth 5ed Ebrill
  • Dydd Mawrth 3ydd Mai
  • Dydd Mawrth 7fed Mehefin
  • Dydd Mawrth 5ed Gorffennaf
  • Dydd Mawrth 2il Awst
  • Dydd Mawrth 6ed Medi
  • Dydd Mawrth 4ydd Hydref
  • Dydd Mawrth 1af Tachwedd
  • Dydd Mawrth 6ed Rhagfyr

Cronfa Gymunedol newydd yn cael ei lansio gan TGC

Mae Tai Gogledd Cymru wedi lansio Cronfa Gymunedol i ddarparu cymorth ariannol i gynorthwyo grwpiau gwirfoddol, cymunedol, hamdden neu breswylwyr sydd wedi’u lleoli yn siroedd Conwy, Gwynedd, ac Ynys Môn. Dylai’r sefydliadau/grwpiau hyn fod yn datblygu prosiectau a mentrau sydd o fudd i’r gymuned leol.

Mae dyfarniadau ariannol fel arfer yn amrywio o £25 i £250 a gyda rhai amodau. Am fwy o wybodaeth gweler y tudalen CronfaGymunedol.

Digwyddiad recriwtio Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc

Ydych chi rhwng 16 i 25 oed? Oes gennych chi rywbeth i ddweud am faterion tai sy’n effeithio pobl ifanc? Oes gennych chi ddiddordeb gweithio a’r prosiect gyda phobl ifanc eraill i daclo’r materion yma? Os oes, pam ddim ymuno ein grŵp newydd Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc? Byddem yn cyfarfod yn Tŷ Hapus, Llandudno ar Ddydd Mawrth 14eg o Orffennaf am 5yh.

Peidiwch â phoeni am gyrraedd yno, gallwn eich helpu gyda hynny.

Lawrlwytho taflen

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Gemma ar 07717543198 neu [email protected].

Ddigwyddiad Ynni am ddim

Dewch i Ddigwyddiad Ynni am ddim yng Ngwesty’r Eagles, Llanrwst ar Ddydd Gwener, 10 Gorffennaf (10am – 3pm).

Cewch gyngor a chymorth am ddim ar sut i wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon ac arbed arian ar eich biliau tanwydd

Lawrlwythwch

Grant Datblygiad Personol newydd ar gael i tenantiaid

Mae TGC yn falch o allu cynnig Grant Datblygiad Personol o hyd at £ 250 ar gyfer ein tenantiaid, wedi cael ei ddatblygu er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau ariannol a allai fod yn eich atal rhag cael mynediad i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Mae enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ariannu yn cynnwys offer neu gyfarpar ar gyfer swydd neu gymhwyster e.e. pecyn trin gwallt neu lyfrau ar gyfer coleg; ffioedd cwrs neu dillad ar gyfer cyfweliad.

Cliciwch yma i gael gwybod a ydych chi’n gymwys a sut i wneud cais.

Niferoedd da yn mynychu diwrnod agored cyfleoedd cyflogaeth NWH

Dywed Tai Gogledd Cymru fod nifer dda o bobl wedi mynychu diwrnod agored cyfleoedd cyflogaeth cyntaf erioed y sefydliad.

Cynhaliwyd y diwrnod agored mewn dau leoliad, sef swyddfa TGC ym Mhlas Blodwel yng Nghyffordd Llandudno a swyddfa’r sefydliad yn Stryd y Deon ym Mangor, a dywedwyd bod dros 100 o bobl wedi galw heibio i gael gwybod mwy am y swyddi sydd ar gael yn TGC ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Dywedodd Lynne Williams, Pennaeth Personél:

“Roeddem eisiau i bobl wybod am yr amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth sydd gennym i’w cynnig yma yn Tai Gogledd Cymru. Roedd gennym nifer o gydweithwyr wrth law ar y diwrnod i rannu eu profiadau o weithio yn Nhai Gogledd Cymru mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol.”

Yn ogystal â darparu gwybodaeth am swyddi gwag, roedd cyfle hefyd i gael cyngor gan Tai Gogledd Cymru hefyd ar sut i gwblhau ceisiadau, egluro mwy am bolisi iaith Gymraeg y sefydliad a rhoi cipolwg ar y manteision y mae’r sefydliad yn eu cynnig i’w weithwyr.

Ychwanegodd Lynne:

“Rydym yn sefydliad sy’n tyfu ac mae gennym nifer o swyddi gwag ar hyn o bryd gyda mwy i ddilyn yn y dyfodol. Byddwn yn gofyn am adborth gan y bobl a fynychodd ein Diwrnod Agored er mwyn gallu cynllunio ar gyfer digwyddiadau pellach ond yn y cyfamser, byddwn yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw swyddi gwag sydd gennym yn y dyfodol.”

Gall unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am TGC fynd i www.nwha.org.uk. Os hoffech gael gwybod am unrhyw swyddi gwag yn y dyfodol, yna anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch Personél ar 01492 563226.

Bod yn wyrdd a chadw tŷ mewn trefn

Mae preswylwyr ystadau tai ledled rhanbarth Conwy wedi gwneud defnydd o nifer o sgipiau mawr dros dro, gan gael gwared ar wastraff hen a segur a fydd yn cael ei ailgylchu wedyn fel rhan o gyfres o ‘Ddiwrnodau Gweithredu Amgylcheddol’.

Dechreuodd y fenter, sy’n cael ei rheoli gan Tai Gogledd Cymru, ryw chwe blynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad blynyddol y mae preswylwyr yn edrych ymlaen ato fel cyfle i gael trefn ar eu tai ar ôl y Nadolig.

Caiff eitemau cartref o beiriannau golchi, setiau teledu a nwyddau trydanol bach eu rhoi yn y sgip ochr yn ochr â theganau, ffensys wedi torri, gemau a llawer mwy. Yna caiff y sgip enfawr ei gasglu gan fynd â’r nwyddau i’w hailgylchu a’u hailddefnyddio lle bo hynny’n bosibl.

Dywedodd Garth Butcher o Tai Gogledd Cymru, sy’n helpu i reoli’r dydd:

“Mae’r Diwrnod Amgylcheddol yma nid yn unig yn gyfle gwych i bobl glirio a chael trefn ar eu tai ond mae hefyd yn annog aelodau o’r gymuned i gyfarfod a sgwrsio. Yn aml, mi welwch chi gymdogion sydd erioed wedi siarad â’i gilydd yn dechrau cymryd rhan a helpu ei gilydd, sy’n wych!”

Bydd cyfanswm o 24 sgip yn cael eu lleoli o fewn cymunedau lleol gyda phob un yn dal dwy dunnell o wastraff. Ar ôl cwblhau’r gwaith dros 12 wythnos o gyflwyno’r sgipiau, mae tîm Tai Gogledd Cymru yn disgwyl y byddant wedi casglu bron i 50 tunnell o wastraff.