Lesley Griffiths AC yn agos yn swyddogol cynllun Gofal Ychwanegol Hafod y Parc, Abergele

Mae cynllun Gofal Ychwanegol arloesol Tai Gogledd Cymru yn Hafod y Parc wedi cael ei agor yn swyddogol gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, ar ddydd Iau 20 Tachwedd, 2014.

Mae Hafod y Parc yn gynllun Gofal Ychwanegol newydd gwerth £11 miliwn yn Rhodfa Cinmel sy’n cynnig dewis gwell i bobl dros 60 oed, gan ddarparu byw’n annibynnol gyda rhaglen gofal a chefnogaeth y gellir ei haddasu a’i hasesu wrth i’w hanghenion unigol newid. Mae’r cynllun wedi derbyn dros £6m oddi wrth Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Daeth preswylwyr, staff a gwesteion ynghyd i ddathlu agoriad swyddogol y cynllun wrth i Lesley Griffiths AC ddadorchuddio plac i nodi’r achlysur. Cafodd te prynhawn ei weini a chafwyd perfformiadau gan Gôr Ysgol Glan Morfa, yr ysgol leol hefyd.

Manteisiodd y gwesteion ar y cyfle i fynd o amgylch cyfleusterau safonol gwych Hafod y Parc. Mae’r safle wedi’i leoli o fewn parcdir coediog deiliog hardd, ac mae’r cynllun yn cynnwys llu o ardaloedd cymunedol modern ond cartrefol, gan gynnwys sawl lolfa; bwyty; siop trin gwallt ac ystafell driniaeth maldod; ystafell snwcer a gemau; ystafell TG a llawer mwy.

Cwblhawyd y gwaith adeiladu yn Ebrill 2014 ac mae pob un o’r 49 flat un a dwy ystafell wely wedi cael eu llenwi. Mae’r preswylwyr wedi ymgartrefu’n gyflym yn eu cartrefi newydd, gan sefydlu nifer o weithgareddau cymdeithasol a hyd yn oed yn ffurfio band preswyl.

Dywedodd Betty Fraser, un o breswylwyr Hafod y Parc:

“Hafod y Parc yw’r lle gorau i mi fyw ynddo erioed, nid wyf erioed wedi teimlo mor hapus a bodlon yn fy mywyd. Mae yma fwyd bendigedig a chefnogaeth ddiamod gan y staff, mae’n anhygoel! “

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:

“Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r cyfleuster yma yn Hafod y Parc a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac a fydd yn helpu i amddiffyn pobl rhag cael eu hynysu neu fod yn unig.”

“Mae cynlluniau fel hyn yn cefnogi ystod o anghenion tai ac rwyf wedi cyfarfod â nifer o breswylwyr heddiw sydd i gyd yn hynod o fodlon gyda’u cartrefi newydd.”

“Mae’r buddsoddiad yma nid yn unig wedi darparu cartrefi sydd eu dirfawr angen, mae hefyd wedi cefnogi’r economi drwy roi hwb i swyddi a thwf economaidd a darparu cyfleoedd hyfforddi i bobl leol.”

Ychwanegodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym mor falch o Hafod y Parc, mae’n gynllun eithriadol ac mae’n hawdd gweld apêl y datblygiad.”

“Mae pobl hŷn yn haeddu mwy o ddewis yn eu blynyddoedd diweddarach ac mae Hafod y Parc yn cynnig dewis amgen atyniadol iawn i fywyd cartref a gofal preswyl. I ni, mae Gofal Ychwanegol yn golygu galluogi pobl i wneud dewisiadau tai a gofal ystyriol gyda rhyddid hyblygrwydd wrth i’w hanghenion newid.”

Gweinidog yn gweld effaith cefnogaeth Llywodraeth Cymru i dai

Mae cynllun gofal ychwanegol sydd newydd agor yn Abergele, a gafodd gefnogaeth Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn darparu cyfleusterau ardderchog ar gyfer y preswylwyr yn ôl y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt.

Mae Cynllun Gofal Ychwanegol Hafod y Parc yn darparu byw’n annibynnol modern i bobl dros 60 oed ac a groesawodd y preswylwyr cyntaf ym mis Ebrill eleni. Mae’n cynnwys 49 o fflatiau hunangynhwysol ac erbyn hyn mae’r cynllun yn llawn.

Mi wnaeth y cynllun gwerth £10.7m elwa o £6.2m gan Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru gyda’r gweddill yn cael ei ariannu gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru.

Mae cyfleusterau Hafod y Parc yn cynnwys gofal 24 awr ar y safle a chymorth, tŷ bwyta, salon gwallt, ystafell hobïau ac ardal gardd patio.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae cynlluniau gofal ychwanegol yn caniatáu i bobl dros 60 oed fyw’n annibynnol tra’n derbyn gwasanaethaugan dtîm gofal profiadol sydd ar y safle 24 awr y dydd, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel.”

“Mae’r cyfleusterau yma yn Hafod y Parc yn ardderchog ac yn rhoi pob cyfle i breswylwyr fyw mor annibynnol â phosibl mewn amgylchedd cymunedol.”

“Mae’r prosiect hefyd wedi bod o fudd i’r gymuned yn ystod y broses adeiladu, gyda chyfleoedd ar gyfer cynlluniau prentis saer a lleoliadau gwaith.”

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Gogledd Cymru:

“Mae Hafod y Parc yn ddatblygiad eithriadol y mae pawb ohonom yn hynod o falch ohono. Er mai dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr agorodd Hafod y Parc ei ddrysau, roedd y cynllun yn llawn yn syth, sy’n adlewyrchu safon y tai sydd ar gael yno a’r angen a’r galw clir am y cysyniad gofal ychwanegol o fyw.”

Cynllun Hafod y Parc yw’r pedwerydd cynllun gofal ychwanegol sy’n gweithredu yn Sir Conwy.

Cysyniad newydd mewn tai i bobl hŷn gyda gofal ym Mangor

Mae’r gwaith adeiladu ar gynllun tai gofal ychwanegol £8.35 miliwn newydd ym Mangor yn magu stêm, gan nodi datblygu cysyniad newydd mewn tai i bobl hŷn sy’n byw yny dref.

Mae Tai Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, yn rheoli datblygiad arloesol ‘Cae Garnedd’, sy’n cael ei ddatblygu ar safle hen dŷ ar Ffordd Penrhos, a bellach mae’r fflat arddangos ar agor i’r cyhoedd.

Y cynllun gofal ychwanegol yma fydd y cyntaf o’i fath ar gyfer Bangor ac mae’n cynnig ffordd amgen o fyw ar gyfer pobl hŷn, gan ddarparu byw’n annibynnol gyda chefnogaeth gofal a chymorth. Diben Gofal Ychwanegol yw pontio’r bwlch rhwng byw’n annibynnol a gofal cartref nyrsio. Mae’n cynnig dewis i bobl hŷn o ran lefel y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt wrth fwynhau eu hannibyniaeth.

Mae’r cynllun yn cynnwys 15 o fflatiau un ystafell wely a 27 o fflatiau dwy ystafell wely, pob un yn cynnwys ei chegin, ei hystafell fyw a’i hystafell ymolchi ei hun. Gall preswylwyr ddefnyddio cymaint neu gyn lleied ag y dymunant o’r cyfleusterau cymunedol sydd ar gael. Mae’r cyfleusterau hynny yn cynnwys mannau gorffwys, hamdden a gweithgarwch, yn ogystal ag ardal ganolog ar gyfer bwyd wedi’i arlwyo. Mae gofal pedair awr ar hugain ar gael a gaiff ei bennu gan anghenion pob unigolyn y gellir addasu cynllun gofal ar eu cyfer wrth i’w hanghenion newid.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Dyma’r cynllun gofal ychwanegol cyntaf ym Mangor ac mae’n darparu dewis amgen pwysig i aelodau hŷn ein cymuned wrth ystyried eu hopsiynau tai. Rydym yn hynod falch o allu cynnig y cynllun hwn i’r dref.”

“I lawer o bobl hŷn, gall cyfleoedd byw fod ar y naill neu’r llall o ddau ben gwahanol iawn i’r sbectrwm, o fyw’n gwbl annibynnol i ofal preswyl neu nyrsio. Mae Gofal Ychwanegol yn pontio’r bwlch hwn ac yn cynnig dewis i gadw eu bywyd annibynnol ond gyda chymorth a gofal ar gael yn ôl yr angen.”

Ychwanegodd Paul:

“Mae’r adeilad ei hun wedi ei leoli mewn safle ardderchog, yn cynnig mynediad hawdd i gyrchfannau ac atyniadau allweddol o fewn y dref. Mae llawer o drigolion lleol eisoes wedi mynegi a chofrestru eu diddordeb. Mae’r fflat arddangos bellach ar agor ac rydym wedi penodi rheolwr cynllun a fydd yn falch i dywys pobl o gwmpas y lle.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ofal:

“Rwy’n falch iawn bod y gwaith ar y safle tai gofal ychwanegol ym Mhenrhosgarnedd yn dod yn ei flaen mor dda.”

“Ar ôl ei gwblhau, bydd Cae Garnedd yn cynnig cartref cyfforddus i bobl hŷn yn ogystal â thawelwch meddwl o gael gwasanaethau gofal hyblyg.”

Disgwylir i’r prosiect gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, gyda K & C Construction o Ginmel yn gwneud y gwaith adeiladu gan gyflogi crefftwyr, cyflenwyr a masnachwyr lleol. Mae’r strwythur yn cael ei hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau amgylcheddol cadarn ac ar ôl cwblhau disgwylir i’r prosiect sicrhau sgôr Ardderchog safon BREEAM.

Sinema ddi-sain i breswylwyr Llys y coed

Mae preswylwyr cynllun tai gofal ychwanegol Llys y Coed yn Llanfairfechan wedi mwynhau prynhawn o sinema ddi-sain gyda dangosiad arbennig o un o ffilmiau clasurol Charlie Chaplin.

Codwyd sgrîn sinema fawr yn Llys y Coed ac roedd yno bianydd hefyd wrth law i chwarae alawon o’r 40au cyn dangos y ffilm, yn ystod yr egwyl ac ar y diwedd. Cafodd y gynulleidfa flasu teisennau a lluniaeth a chael cyfle i fynd yn ôl mewn amser wrth i’r awyrgylch a naws hen sinema arddull gael eu hail-greu.

Estynnwyd gwahoddiad hefyd i breswylwyr cynllun pobl hŷn Bryn Castellan sydd drws nesaf i Lys y Coed, gan roi cyfle i’r grŵp gyfarfod â ffrindiau newydd, rhannu straeon a rhoi eu barn ar amrywiaeth o faterion pwysig. Trefnwyd y digwyddiad gan Llais MAWR Conwy (prosiect cymunedol sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth gan Wasanaethau Gwirfoddol Conwy, Tai Gogledd Cymru, Cartrefi Conwy a Chlwyd Alyn), ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Cymerodd y preswylwyr ran hefyd mewn ymgynghoriad ar wasanaethau lleol.

Dywedodd Cheryl Haggas, Rheolwr Llys y Coed:

“Roedd hwn yn brynhawn braf iawn a phawb yn mwynhau eu hunain. Mi oedd sgwrsio a sôn am bethau ers talwm a thrafod cymaint oedd pethau wedi newid ers yr oes o’r blaen pan oedd y pictiwrs yn ddu a gwyn. Roedd y ffilm a’r awyrgylch yn destun trafod gwych sydd wedi dod ag atgofion arbennig yn ôl.”

Ychwanegodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn gweithio ar nifer o brosiectau gwahanol drwy brosiect Llais cymunedol sy’n canolbwyntio ar wahanol grwpiau o bobl rydym yn ymwneud â nhw. Mae’n bwysig dros ben bod ein tenantiaid a’n preswylwyr hŷn yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn mentrau sy’n berthnasol ac yn bwysig iddynt, ac rwy’n teimlo bod hyn yn enghraifft wych o roi’r syniad hwn ar waith mewn ffordd ymarferol.”

Codi het i fonedau Pasg Y Gorlan

Mae grŵp o breswylwyr yng nghynllun pobl hŷn, Y Gorlan ym Mangor, wedi dathlu’r Pasg mewn steil, gan greu eu bonedau Pasg eu hunain gydag enillydd yn cael ei ddewis gan y beirniad yn dilyn cystadleuaeth frwd!

Creodd dros saith o breswylwyr eu bonedau eu hunain ac ymunodd y Dirprwy Faer Jean Forsyth â nhw yn dilyn cael ei gwahodd i feirniadu’r gystadleuaeth. Yn dilyn proses feirniadu drylwyr dyfarnwyd mai Janice Gough oedd yr enillydd ac fe gyflwynwyd tocyn anrheg iddi.

Dywedodd Glenys Rowlands, Rheolwr Cynllun yn Y Gorlan:

“Roedd yn ddiwrnod gwych – gwnaeth ein holl breswylwyr ymdrech arbennig gyda’u bonedau ac yn sicr roedd yno naws hwyl a chystadleuaeth hyd y lle. Hwn oedd y digwyddiad cyntaf i’n pwyllgor preswylwyr newydd ei drefnu ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac yn sicr mae wedi ennyn hyder i gynllunio mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol.”

“Mwynhaodd preswylwyr a’r gwesteion ddiodydd a chinio Pasg arbennig ac yna raffl i ddilyn gyda wyau Pasg yn wobrau a’r uchafbwynt oedd y gystadleuaeth fonedau.”

Ychwanegodd Glenys:

“Roedd ein holl breswylwyr yn eiddgar i gymryd rhan ym mwrlwm y diwrnod. Bydd yr holl arian a godir gan y raffl yn mynd tuag at gronfa’r preswylwyr ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Mae’r preswylwyr yn frwdfrydig iawn am gynllunio ers lansio’r pwyllgor ac mae heddiw’n dyst i’w hymdrechion a’u gwaith caled!”

Y drysau’n agor i arddangos fflat mewn cynllun gofal ychwanegol arloesol yn Abergele

Mae’r drysau wedi cael eu hagor yn y fflat arddangos ar gynllun Gofal Ychwanegol Hafod y Parc yn Abergele, gyda gwahoddiad i bobl leol sydd â diddordeb i alw heibio.

 

Y cynllun adeiladu Gofal Ychwanegol newydd gwerth £11 miliwn, yn Rhodfa Cinmel, fydd y cyntaf o’i fath i agor yn y dref. Mae Tai Gofal Ychwanegol yn rhoi dewis i bobl hŷn; gan gyfuno byw’n annibynnol gyda rhaglen gofal â chymorth y gellir ei haddasu wrth i’r anghenion a aseswyd newid

Gyda 49 o fflatiau un a dwy ystafell wely, mae’r fflat arddangos yn rhoi cyfle i brofi a chael blas ar sut y bydd y Cynllun yn edrych unwaith y caiff ei gwblhau ym mis Chwefror 2014. Bydd agor y fflat hefyd yn caniatáu i bobl gyfarfod â thîm Tai Gogledd Cymru, er mwyn darganfod mwy am y cynllun gofal ychwanegol yn Hafod y Parc.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Mae yna angen amlwg ledled Gogledd Cymru am dai gofal ychwanegol sy’n caniatáu i bobl hŷn gynnal ffordd o fyw’n annibynnol a rhoi tawelwch meddwl trwy gynnig dewis gofal â chymorth. Mae Tai Gofal Ychwanegol yn hwyluso’r angen yma ac rydym yn falch o ddatblygu cynlluniau tai sy’n benodol addas i ffyrdd o fyw yn y blynyddoedd hŷn.”

Mae’r cynllun newydd, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, o ddyluniad cyfoes mewn lleoliad llonydd a thawel, ac mae wedi cael ei ddatblygu i fod o ansawdd eithriadol o uchel gyda chyfleusterau modern drwyddi draw. Ar y safle, bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu gan y cwmni lleol profiadol gwasanaethau Gofal Cartref AKC.

Gan adeiladu ar lwyddiant ei gynllun Tai Gofal Ychwanegol cyntaf, sef Llys y Coed yn Llanfairfechan, mae Tai Gogledd Cymru wedi gallu ailadrodd elfennau allweddol yn Hafod y Parc.

Mae llawer eisoes wedi mynegi diddordeb yn y cynllun ond mae croeso o hyd i geisiadau.

Rhaid trefnu apwyntiad er mwyn cael gweld y Fflat Arddangos – cysylltwch â Tai Gogledd Cymru ar (01492) 572727 i wneud hynny.