Fideo newydd yn dangos bywyd yn Cae Garnedd

Mae Cae Garnedd, ein cynllun Gofal Ychwanegol ym Mhenrhosgarnedd, Bangor wedi gwened hi i’r sgrin fawr! Rydym newydd gwblhau fideo sy’n dangos bywyd yn Cae Garnedd.

Mae’r Rheolwr Gofal Ychwanegol Carwyn George a’r preswylwyr yn siarad am y cynllun a manteision Gofal Ychwanegol.

Gallwch wylio y fideo yma.

Os hoffech drefnu ymweliad i Cae Garnedd cysylltwch â ni ar 01492 572 727 neu [email protected].

Gweddnewid ‘Winter Wonderland’ i elusen

Mae’r Dderbynfa yn Llys y Coed wedi cael ‘Winter Wonderland makeover’!

Mae Rheolwr Llys y Coed Cheryl Haggas a’i ffrindiau wedi addurno derbynfa’r cynllun Gofal Ychwanegol yn Llanfairfechan er mwyn hel arian i Mae Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor.

Eglurodd Cheryl:

“Rydym yn addurno’r cynllun bob blwyddyn; mae’n ein helpu ni i deimlo’n Nadoligaidd! Y flwyddyn hon wnaethom ni benderfynu hefyd hel arian i elusen.”

“Mae ymwelwyr yn cael gwahodd i gyfrannu at yr elusen os meant yn gwerthfawrogi’r olygfa Nadoligaidd. Rydym wedi casglu £50 yn barod; mae gennym ni galendr llawn digwyddiadau cyn y Nadolig felly dwi’n siŵr fydd hwn lot mwy cyn diwedd Rhagfyr!”

Rhoddion gan breswylwyr yn cadw’r digartref yn gynnes y gaeaf hwn

Ym mis Medi eleni anfonodd hostel Santes Fair i’r digartref ym Mangor apêl brys am roddion wrth i gyflenwadau eu gwasanaeth i’r digartref fynd yn beryglus o isel.

Camodd adran Pobl Hŷn a phreswylwyr Tai Gogledd Cymru i’r adwy gan gydweithio i gasglu rhoddion.

Esboniodd Eirlys Parry, y Pennaeth Pobl Hŷn, pam eu bod wedi penderfynu helpu:

“Wedi i ni ddarllen yn ein newyddlen am y prinder roeddem yn awyddus iawn fel adran i helpu. Mae estyn cymorth yn cychwyn ar garreg ein drws ac roeddem yn hynod awyddus i helpu ein cydweithwyr. Mae’r tenantiaid Pobl Hŷn hefyd yn wirioneddol dda am godi arian ar gyfer gwahanol elusennau drwy gydol y flwyddyn, felly roeddem yn gwybod y byddent yn gwneud yn dda.

“Daeth preswylwyr ar draws Gogledd Cymru at ei gilydd i gasglu, gan ddethol o’u casgliadau eu hunain yn ogystal â rhai ffrindiau a theuluoedd. Roedd y canlyniad yn anhygoel, ac roedd pawb yn hynod o hael. Mi wnaethon ni gasglu pentwr o ddillad a bocsys yn orlawn o fwyd.”

Trosglwyddodd y Tîm y pentwr anferth o roddion i Hostel Santes Fair ar Lôn Cariadon, Bangor mis Hydref.

Roedd Rob Parry, Rheolwr Cynllun yn y Santes Fair, wrth ei fodd efo’r rhodd:

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r adran Pobl Hŷn a’r preswylwyr am eu haelioni, a hoffwn ddiolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth.”

“Mae’r gwasanaeth clwyd a gynigir yn y Santes Fair i ddigartref y stryd ym Mangor yn dibynnu’n helaeth ar roddion er mwyn cadw i fynd. Gyda’r gaeaf oer yn agosáu roeddem yn bryderus bod ein stoc yn isel ac roedd dirfawr angen y rhodd hwn.”

Cael gwybod mwy am roddion angenrheidiol yma. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw bebyll, sachau cysgu, dillad cynnes neu fwyd ewch ag unrhyw roddion draw i’r Santes Fair, Lôn Cariadon, Bangor neu cysylltwch â 01248 362211 ar gyfer trefniadau eraill.

Bore Coffi Macmillan

Anghofiwch am y Great British Bake Off, Medi oedd amser Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan!

Y Bore Coffi, a gynhaliwyd ar 30ain o fis Medi yw digwyddiad codi arian mwyaf Macmillan i bobl sy’n wynebu canser. Mae pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn cynnal eu boreau coffi eu hunain gyda’r rhoddion ar y diwrnod yn mynd i Macmillan.

Mi wnaeth nifer o breswylwyr TGC gynnal eu boreau coffi eu hunain. Estynnodd preswylwyr cynlluniau Pobl Hŷn Cae Garnedd, Y Gorlan, Taverners Court a Hafod y Parc am eu ffedogau a choginio pethau blasus ar gyfer yr ymgyrch codi arian sy’n digwydd ledled y DU, gan godi bron i  £1,500 ar gyfer yr elusne canser.

Roedd bore coffi Taverners Court yn ymdrech ar y cyd gyda ffrindiau Taverners o floc cyfagos sydd ag aelod o’r teulu yn dioddef o ganser ar hyn o bryd.

Dywedodd Susan Gough, Warden yn Taverners Court:

“Daeth dipyn o bobl draw i’r digwyddiad gyda phreswylwyr, ffrindiau o’r blociau cyfagos, y gymuned leol a phreswylwyr a staff o Gartref Gofal Brigadoon yn Llandudno yn bresennol.”

Da iawn i bawb a gymerodd ran a mynychu’r bore coffi – rydym yn edrych ymlaen at un y flwyddyn nesaf yn barod!!

Hafod y Parc yn rhan o Astudiaeth Achos y Rhwydwaith Dysgu a Gwella Tai (LIN)

Mae Hafod y Parc, ein cynllun Gofal Ychwanegol yn Abergele, wedi cael ei gynnwys fel rhan o astudiaeth achos gan y Rhwydwaith Dysgu a Gwella Tai (LIN).

Mae’r astudiaeth achos yn canolbwyntio ar fyw’n anibynnol gyda gofal, gan ddefnyddio Hafod y Parc i amlygu’r budd a ddaw i gynlluniau gofal ychwanegol newydd o weithio’n effeithiol mewn partneriaeth.

Gallwch ddarllen yr astudiaeth achos yma.

Y Rhwydwaith Dysgu a Gwella Tai (LIN) yw’r prif ‘ganolbwynt gwybodaeth’ ar gyfer rhwydwaith cynyddol o weithwyr proffesiynol ym meysydd tai, iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr a phawb sy’n gysylltiedig â chynllunio, comisiynu, dylunio, ariannu, adeiladu a rheoli tai â gofal ar gyfer pobl hŷn.

Hafod y Parc oedd ail Gynllun Gofal Ychwanegol Tai Gogledd Cymru a agorodd ei ddrysau i breswylwyr ym mis Ebrill 2014. Mae cynlluniau gofal ychwanegol fel hyn yn cynnig gwell dewis i rai dros 60 oed, gan ddarparu byw’n annibynnol gyda rhaglen gofal a chymorth y gellir ei haddasu a’i hasesu wrth i’w hanghenion unigol newid.

I wybod mwy am Hafod y Parc ewch i yma.

Preswylwyr y Gorlan yn cymryd rhan Ymgyrch Gwau The Big Knit

Mae preswylwyr y Gorlan, Bangor wedi bod yn brysur yn gwau hetiau bach ar gyfer y Big Knit, sy’n ymgyrch wedi’i sefydlu gan Innocent Smoothies i helpu i godi arian ar gyfer Age UK.

Bydd pob un o’r hetiau bach yn mynd ar ben smwddîs cwmni Innocent ac wedyn yn cael eu gwerthu, gyda 25 ceiniog o hynny’n mynd i Age UK.

Mae staff Tai Gogledd Cymru wedi cymryd rhan yn hyn hefyd – dyma rai wedi’u creu gan Mary Jones, Gweinyddwr Pobl Hŷn, a Ruth Lanham-Wright, Rheolwr Cyllid a Refeniw!

Gallwch gael gwybod mwy am The Big Knit a sut i gymryd rhan yma www.thebigknit.co.uk.

Hobi crosio yn hel cannoedd o bunnoedd ar gyfer apêl pabi

Mae Mrs Liliana Owen wedi troi ei hobi yn rhywbeth gwerth chweil go iawn, gan fynd ati i grosio a gwerthu 124 pabi coch er budd Apêl y Pabi mis Tachwedd, gan godi cannoedd o bunnoedd.

Roedd Liliana, 91 oed, yn difyrru’r amser trwy grosio pabis i’w chyd-breswylwyr yn natblygiad gofal ychwanegol Llys y Coed yn Llanfairfechan, ond yn gwbl annisgwyl mi wnaeth yr hobi dyfu’n rhywbeth mwy.

Eglurodd Mrs Liliana Owen:

Digwyddodd y cyfan ar ddamwain. Roeddwn yn gwneud pabis i breswylwyr ac mi wnaeth rhywun awgrymu fy mod yn eu gwerthu i godi arian at Apêl y Pabi.

 

Mi wnaethon nhw ddod yn boblogaidd iawn, ac mi wnes i ddechrau derbyn archebion am 10 ar y tro gan deulu a ffrindiau o bob cwr! Doedd crosio pabi ddim yn cymryd llawer o amser i mi, ac mi gefais help gan fy nghyd-breswylydd Mrs Eirwen Hughes.”

Mae Liliana yn crosio’n gyson ar gyfer achosion da, gan anfon ei chreadigaethau i nifer o elusennau megis Cancer Research UK i’w gwerthu ymlaen er mwyn codi arian. Mae hi hefyd yn cyflenwi dillad ar gyfer y babanod bach yn yr uned babanod cynamserol yn Ysbyty Bangor.

Rwy’n mwynhau crosio ac rwyf mor falch fy mod wedi gallu gwneud rhywbeth i helpu’r apêl a’n helpu i gofio.”

 

Prynhawn Agored yng Nghae Garnedd, Bangor 7fed Hydref

Mae Cae Garnedd, eiddo Gofal Ychwanegol mwyaf newydd Tai Gogledd Cymru yn agor ei drysau ar ddydd Mercher 7 Hydref, ac yn eich gwahodd i Brynhawn Agored.

Dewch draw i gael golwg ar y cyfleusterau gwych a darganfod mwy am Ofal Ychwanegol.

Pryd: Dydd Mercher, 7fed Hydref 2015, 3 – 6yp
Lle: Cae Garnedd, Penrhosgarnedd, Bangor , Gwynedd, LL57 2NH

Mae Gofal Ychwanegol yn cynnig ffordd arall o fyw i bobl hŷn. Mae’n galluogi byw’n annibynnol gyda gofal a chefnogaeth hyblyg 24 awr y dydd.

Am fwy o wybodaeth am y Prynhawn Agored neu ynghylch Cae Garnedd cysylltwch â ni ar 01492 563287.

Prif Weinidog Cymru yn agor Cae Garnedd yn swyddogol

Ar ddydd Mercher 2 Medi, 2015 agorwyd Cae Garnedd, sef cynllun Gofal Ychwanegol arloesol Tai Gogledd Cymru, yn swyddogol gan Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru.

Daeth preswylwyr, staff a gwesteion ynghyd i ddathlu agoriad swyddogol y cynllun a rhoddodd Carwyn Jones AC help llaw wrth blannu coeden addurnol i nodi’r achlysur cyn cyfarfod preswylwyr dros de prynhawn.

Mae ‘Cae Garnedd’ yn gynllun Gofal Ychwanegol newydd gwerth £8.35 miliwn a adeiladwyd ym Mhenrhosgarnedd, Bangor, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru. Y cynllun hwn yw’r cyntaf o’i fath ar gyfer Bangor ac mae’n cynnig ffordd amgen o fyw ar gyfer pobl dros 55 oed, gan ddarparu byw’n annibynnol wedi’i gefnogi gan raglen gofal a chefnogaeth y gellir ei haddasu a’i hasesu wrth i’w hanghenion unigol yn newid.

Manteisiodd gwesteion hefyd ar y cyfle i gael eu tywys o amgylch y cyfleusterau gwych yng Nghae Garnedd. Mae’r cynllun yn cynnwys 15 o fflatiau un ystafell wely a 27 fflat dwy ystafell wely manyleb uchel, gyda phob un yn cynnwys ei chegin ei hun, ardal fyw ac ystafell ymolchi, yn ogystal â llu o ardaloedd cymunedol modern a chartrefol gan gynnwys lolfa; bwyty; lle trin gwallt ac ystafell driniaeth harddwch a llawer mwy.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

Mae’r cyfleusterau yma yng Nghae Garnedd yn rhagorol ac yn rhoi cyfle i bobl hŷn barhau i fyw’n annibynnol. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi’r cyfleuster hwn gyda £4.8m o arian Grant Tai Cymdeithasol. Mae cynlluniau fel Cae Garnedd yn lleihau’r ddibyniaeth ar ofal preswyl neu’r system gofal hir dymor a sicrhau nad yw pobl mewn perygl o fod yn unig neu’n ynysig.

Mae cynlluniau fel Cae Garnedd hefyd yn rhoi hwb i’r economi drwy gefnogi adeiladu a’r gadwyn gyflenwi, a thrwy ddarparu swyddi a phrentisiaethau ar gyfer yr ardal leol.”

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

Rydym yn hynod o falch o allu dod â’r cynllun hwn i’r ddinas, y cynllun cyntaf o’i fath ym Mangor. Mae’n darparu dewis amgen pwysig i aelodau hŷn ein cymuned wrth iddyn nhw ystyried eu hopsiynau tai.

I lawer o bobl hŷn, gall cyfleoedd byw gael eu cyfyngu o un pen y sbectrwm i’r pen arall, o fyw’n annibynnol llawn i ofal preswyl neu nyrsio. Mae Gofal Ychwanegol yn pontio’r bwlch hwn ac yn cynnig dewis i bobl barhau i fyw’n annibynnol gyda chefnogaeth a gofal pan fo angen.”

Chwith i dde:

  • Ian Williams, Advent
  • Chris White Grwp K&C
  • Cynghorydd Ioan Thomas, Cyngor Gwynedd
  • Peter Gibson, Cadeirydd, Bwrdd Tai Gogledd Cymru
  • Prif Weinidog, Carwyn Jones
  • Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru

Preswylwyr Cae Garnedd yn symud i mewn

Mae’r gwaith adeiladu wedi gorffen erbyn hyn ar Gae Garnedd, cynllun tai gofal ychwanegol £8.35 miliwn Tai Gogledd Cymru ym Mangor ac fe ddechreuodd y preswylwyr symud i mewn i’w cartrefi newydd yn Rhagfyr 2014.

Mae Cae Garnedd yn gynllun gofal i bobl hŷn wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd. Dyma’r cynllun gofal ychwanegol cyntaf o’i fath ym Mangor ac mae’n cynnig ffordd wahanol o fyw i bobl hŷn, i fyw’n annibynnol gyda gofal a chefnogaeth.

Mae’r cynllun yn cynnwys 15 o fflatiau gydag un ystafell wely a 27 fflat gyda dwy ystafell wely, ac mae pob un yn cynnwys cegin, lle byw ac ystafell ymolchi. Mae’r preswylwyr yn gallu defnyddio cymaint neu gyn lleied o’r cyfleusterau cymunedol sydd ar gael ag y dymunant gan gynnwys mannau gorffwys, hamdden a gweithgareddau, yn ogystal ag ardal fwyta ganolog wedi ei harlwyo. Mae gofal pedair awr ar hugain ar gael ac yn cael ei bennu gan anghenion pob unigolyn y gellir addasu cynllun gofal ar eu cyfer wrth i’w hanghenion newid.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Dyma’r cynllun gofal ychwanegol cyntaf ym Mangor ac mae’n rhoi dewis arall pwysig i aelodau hŷn ein cymuned wrth ystyried eu dewisiadau tai. Rydym yn hynod falch o allu dod â chynllun fel hwn i’r ddinas.”

“I lawer o bobl hŷn, gellir ystyried cyfleoedd byw ar bob pen o’r sbectrwm o fyw’n annibynnol llawn i ofal preswyl neu nyrsio. Mae Gofal Ychwanegol yn pontio’r bwlch hwn ac yn cynnig dewis i bobl gadw eu byw’n annibynnol gyda chefnogaeth a gofal pan fo angen.”

Ychwanegodd Paul:

“Mae’r adeilad ei hun wedi ei leoli mewn safle ardderchog o fewn y ddinas, gan gynnig mynediad hawdd i gyrchfannau ac atyniadau allweddol o fewn y ddinas.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Gofal:

“Fel Cyngor, rydym yn falch iawn o weld preswylwyr yn symud i mewn i’r cyfleuster tai gofal ychwanegol yng Nghae Garnedd. Bydd y bartneriaeth hon rhwng Cyngor Gwynedd a Tai Gogledd Cymru yn caniatáu pobl i barhau i fyw’n annibynnol mewn cymuned ddiogel a chartrefol gyda gwasanaethau gofal hyblyg.”

“Mae’r boblogaeth hŷn yng Ngwynedd yn mynd i gynyddu dros y blynyddoedd nesaf ac mae’n rhaid i ni baratoi rŵan ar gyfer y gofynion a ddaw yn anochel ar ein gwasanaethau, a gallu rhoi dewis i bobl o sut a ble maent am fyw.”

“Mae datblygiadau fel Cae Garnedd yn caniatáu i bobl hŷn gael y rhyddid i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain gyda’r tawelwch meddwl bod cefnogaeth ar gael pan fo angen.”

Gallwch ddod hyd a mwy o wybodaeth am Cae Garnedd yma. Os hoffech wybod mwy neu drefnu ymweliad yna cysylltwch â Rheolwr y Cynllun, Carwyn George yn [email protected] neu ffoniwch 01492 563287.