Cyfranogiad Tenantiaid – Rydym eich angen chi!

Fel rhan o’n newidiadau parhaus yn Tai Gogledd Cymru, rydym yn adolygu ac adnewyddu ein strategaeth cyfranogiad tenantiaid ac rydym am gael eich cyfraniad chi.

Rydym am sicrhau eich bod chi fel tenantiaid yn gallu cael dylanwadu go iawn ar beth rydym yn ei wneud ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn…

  • Rhoi mewnbwn i gyfeiriad Tai Gogledd Cymru;
  • Mynegi eich barn;
  • Dysgu sgiliau newydd;
  • Ennill profiad gwirfoddol i gryfhau eich CV

Yna cysylltwch ag [email protected] . Mae gennym amrywiaeth mawr o gyfleoedd i chi allu cymryd rhan!

Beicio mynydd AM DDIM

Eisiau trio beicio mynydd? Dyma eich cyfle… Ar 15 Medi rydym yn cynnig preswylwyr Sir Conwy sesiwn beicio mynydd am ddim.

  • Beic a holl offer wedi ei gynnwys
  • Yn agored i bob gallu, nid oes angen unrhyw brofiad
  • Cludiant wedi ei gynnwys
  • Cyfle i ennill cymhwyster
  • Mae lleoedd yn gyfyngedig

Lawr lwytho poster

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01492 563232.

Agor Drysau i’r Awyr Agored

Mae prosiect Agor Drysau i’r Awyr Agored wedi mynd o nerth i nerth a bellach mae 29 o breswylwyr wedi mynychu ac ennill cymwysterau o’r sesiynau am ddim mewn dringo, cerdded bryniau neu ganŵio.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru, y Bartneriaeth Awyr Agored a Chanolfannau Conway ar Ynys Môn. Cafodd ei ddatblygu gyda’r nod o roi profiadau gweithgareddau awyr agored o safon uchel i denantiaid, gyda’r opsiwn o ennill cymhwyster a gwella cyfleoedd cyflogaeth yn y gweithlu sector awyr agored.

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

“Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar y rhai sydd wedi cymryd rhan. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan wedi nodi sut y maen nhw wedi gwella eu ffitrwydd, iechyd, a cholli pwysau. Mae eraill hefyd wedi sylwi gymaint y maen nhw wedi mwynhau cyfarfod â phobl eraill a chreu cyfeillgarwch newydd.”

Y gweithgaredd nesaf yw Beicio Mynydd ym mis Medi. Os hoffech chi gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn sydd AM DDIM, cysylltwch ag Iwan 01492 563232 [email protected]. Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cofrestrwch eich diddordeb rŵan!

Lawr lwythwch y poster beicio mynydd yma

Sesiwn blasu canŵio AM DDIM i denantiaid

Erioed eisiau trio canŵio ond y gost yn eich atal? Mae Tai Gogledd Cymru yn cynnig sesiynau blasu AM DDIM i denantiaid o Gonwy yn dechrau Dydd Gwener 26ain Mai.

Mae llefydd yn gyfyngedig felly cysylltwch yn fuan! E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01492 563232 i gofrestru nawr!

Llwyddiant sesiwn blasu dringo yn arwain at gymhwyster i denantiaid

Mae tenantiaid Tai Gogledd Cymru wedi ennill cymhwyster Lefel 1 NICAS (Y Cynllun Gwobr Dringo Dan Do  Cenedlaethol) fel rhan o’u prosiect Agor Drysau newydd. 

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru, Partneriaeth Awyr Agored a Chanolfannau Conway Ynys Môn. Datblygwyd y prosiect gyda’r bwriad o roi profiadau o weithgareddau awyr agored o ansawdd uchel i denantiaid, gyda’r opsiwn i ennill cymhwyster a gwella cyfleoedd cyflogadwyedd yng ngweithlu’r sector awyr agored. 

Derbyniodd y prosiect gyllid o gronfa Gwynt y Môr fis Medi 2016, a dringo oedd y gweithgaredd gyntaf a gynigiwyd i denantiaid yng Nghonwy. 

Mynychodd y cyfranogwyr gwrs unwaith yr wythnos am 8 wythnos, yn dechrau ar wal fach yng Nghanolfan Conway Ynys Môn, gan symud ymlaen yn raddol at waliau dringo dan do mwy, ac yn y pendraw, tu allan! 

Gwelodd Sally Ward o Ganolfan Conway Ynys Môn, a arweiniodd y sesiynau dringo, y gwahaniaeth yn uniongyrchol drwy gydol y sesiynau:

“Rwy’n teimlo’n angerddol am ddysgu pobl i ddringo ac i fwynhau’r awyr agored, ac mae rhannu’r angerdd hwn gyda phobl wedi bod yn ddiddorol iawn.” 

“Cynlluniwyd y cwrs hwn i roi cyfle i bobl efallai na fyddent fel arfer yn cael cyfle o’r fath i drio rhywbeth newydd yn yr awyr agored. Mae’r cyfranogwyr a achubodd ar y cyfle hwn yn amrywio o bobl nad oeddent yn gwneud dim ymarfer corff, i bobl oedd wedi trio dringo pan oeddent yn ifanc, ac yn amrywio o ran oed o bobl yn eu 20au i’w 50au.” 

“Rwy’n credu i bawb synnu eu hunain o’r dechrau, wrth iddynt fedru dringo pethau nad oeddent yn meddwl oedd yn bosib ar un adeg, ac yn eu herio eu hunain i fentro, gan ddangos gwir ymroddiad a dyfalbarhad, ond yn bwysicach yn cael hwyl! Roeddwn i’n teimlo’n falch ac yn freintiedig i wylio eu taith o’r diwrnod cyntaf i’r wythfed diwrnod, gallwn ddweud yn hapus bod y bobl hynny a gwblhaodd y cwrs nawr yn ddringwyr! Mae eu hyder wedi codi, ac nid gyda’r dringo a chredu ynddynt eu hunain yn unig, ond yn gymdeithasol hefyd.”

Mae un o’r tenantiaid a gymrodd rhan yn y cwrs yn teimlo iddo elwa mewn sawl ffordd:

“Rwyf wedi mwynhau’r cwrs hwn yn fawr. Doeddwn i erioed wedi dringo cyn hynny felly roedd hi’n wych dysgu pethau newydd.”

“Rwyf wedi elwa llawer o’r cwrs; nid yn unig rydw i wedi dysgu sgiliau newydd ond rwyf hefyd wedi cyfarfod â phobl neis. Ac rwyf wedi gwella fy ffitrwydd – mantais ychwanegol!”

Owain Williams – Llwybrau i Gyflogaeth, Partneriaeth Awyr Agored

“Mae newid mawr wedi bod o’r dechrau i’r diwedd yn y bobl a gymrodd rhan. Mae’r grŵp a ddechreuodd ar y cwrs dringo nawr yn bobl annibynnol, wybodus ac yn awyddus i gael rhagor o heriau.”

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid yn Tai Gogledd Cymru:

“Roedd hi’n bleser gweld hyder y cyfranogwyr yn codi dros yr 8 wythnos a’u gweld yn dysgu sgiliau newydd. Rwy’n falch eu bod wedi datblygu a dangos cymaint o ddiddordeb i ddringo.”

Y newyddion gwych yw bod y cyfranogwyr wedi mwynhau’r cwrs i’r fath raddau bod arnynt eisiau parhau i ddringo.

“Rydyn ni’n falch iawn eu bod wedi datblygu awch i ddringo, dyna beth yw nod rhaglenni fel hyn. Rydym wedi trefnu sesiynau pellach iddynt er mwyn iddynt allu datblygu ymhellach.”

Nid dringo yw’r unig weithgaredd a gynigir i denantiaid TGC fel rhan o’r prosiect Agor Drysau.

Esboniodd Iwan:

“Y sesiwn nesaf sydd eisoes ar waith yw cerdded bryniau; does dim angen offer drud i gerdded, dim ond pâr o esgidiau a chot, felly rydyn ni’n credu y gallai hwn apelio at unrhyw un.”

“Mae hefyd gyda ni sesiynau canŵio, padlo a beicio mynydd ar y gweill. Os ydy hyn o ddiddordeb i unrhyw un o’n tenantiaid yng Nghonwy, cysylltwch â ni.”

Mae Sally yn falch bod cyfranogwyr y sesiynau dringo eisoes wedi cofrestru i gerdded bryniau,

“Roedd hi’n bleser pur gweld rhai o’r cyfranogwyr yn cofrestru ar gyfer y cwrs nesaf, cerdded bryniau. Rwy’n edrych ymlaen at weld pa newidiadau sydd ar y gweill i’r bobl hynny sy’n cymryd rhan, ac efallai cyfarfod â phobl ar y bryniau neu ar y wal ddringo!”

Dod i adnabod eich landlord

Rydym yn awyddus i ddod i adnabod ein trigolion ychydig yn well. Felly Ebrill rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Dod i adnabod eich landlord’.

Dewch i ddweud helo a chystadlu mewn raffl i ennill tocyn anrheg TESCO gwerth £25 ac wy Pasg!

Byddwn yn darparu gwybodaeth am:

  • Ein porth tenantiaid a beth sydd gan Tai Gogledd Cymru i’w gynnig yn ddigidol
  • Y cyfleoedd sydd ar gael yn Tai Gogledd Cymru
  • Sut i gymryd rhan a dweud eich dweud

Byddwn hefyd yn gofyn eich barn am yr hyn sydd bwysicaf i chi fel tenant a beth ddylai fod ein blaenoriaethau fel landlord.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Iwan ar [email protected] neu 01492 563232.

Enillwyr Cystadleuaeth Celf Nadolig yn cael eu datgelu

Wnaethom ni alw ar ein holl denantiaid ifanc a gofyn iddynt wneud cais ar ein Cystadleuaeth Celf Nadolig.

Beth mae’r Nadolig yn ei olygu i chi? Mae holl denantiaid wedi bod yn greadigol ofnadwy, ac mae nifer o geisiadau Nadoligaidd wedi landio ar ein desgiau (dim gan Sïon Corn yn anffodus!).

Mae’r beirniad wedi bod yn brysur yn ystyried y ceisiadau artistig ac wedi dewis yr enillwyr:

  • Abbey Ellen Davies, oed 5, Y Gilan, Llysfaen
  • Mark Hodgson, oed 7, Llain Cytir, Caergybi
  • Hellen Yesil, oed 13, Maes Derw, Cyffordd Llandudno
  • Denise Yesil oed 14, Maes Derw, Cyffordd Llandudno
  • Shannon Mercer oed 16, Ffordd Bugail, Bae Colwyn

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymryd rhan. Roedd safon y ceisiadau yn ofnadwy o uchel ac rwyf wedi mwynhau edrych ar y ceisiadau sydd wedi eu gyrru mewn. Llongyfarchiadau i’r enillwyr i gyd!”

Hwyl yr ŵyl yn Ffair Nadolig cyntaf

Roedd Ffair Nadolig cyntaf Tai Gogledd Cymru yn llwyddiant mawr; codwyd dros £740 i elusen leol Hosbis Dewi Sant.

Daeth oedolion a phlant draw i’r diwrnod Nadoligaidd yn Ganolfan Cymunedol Tŷ Hapus yn Llandudno. Wnaethant fwynhau’r nifer o stondinau crefft brydferth a chwarae’r nifer o gemau ar gael.

Wnaeth Sïon Corn a Elsa o Frozen hefyd ddod draw, gan fwynhau siarad gyda’r plant am eu rhestr hir i Sïon Corn! 

Dywedodd Emma Williams, Cadeirydd panel elusen TGC:

“Diolch i bawb wnaeth helpu gwneud y digwyddiad ddigwydd; roedd yna lot o waith caled yn ymglymedig gyda’r digwyddiad. Diolch hefyd i bawb wnaeth ddod draw a gwario eu pres! Bydd yr holl elw yn mynd at Hosbis Dewi Sant, ein helusen o ddewis ar gyfer y flwyddyn hon.”

 Dywedodd Kathryn Morgan-Jones, Hosbis Dewi Sant:

“Rwyf yn hynod o falch roedd Ffair Nadolig cyntaf Tai Gogledd Cymru yn llwyddiant. Wnaeth y nifer o stondinau crefft, gemau ac anrhegion Nadolig ddenu gymaint o gefnogwyr a hel sŵn nodedig i Hosbis Dewi Sant.

“Mae cymorth Tai Gogledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr, mae’n ein galluogi i helpu llawer mwy o gleifion a theuluoedd o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Môn sydd wedi eu heffeithio gan salwch datblygedig.”

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi staff Tai Gogledd Cymru gyda’u hymdrech hel pres ac ar ran ein holl gleifion, teuluoedd, gorfoleddir a staff byswn yn hoffi ymestyn diolch enfawr.”

Grŵp preswylwyr yn y ras i ennill dwy o wobrau’r diwydiant

Mae grŵp preswylwyr Tai Gogledd Cymru, sef y Panel Ymgynghorol Preswylwyr, ar restr fer yn y categori Craffu Tenantiaid ar gyfer Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru eleni.

Mae Gwobrau Cyfranogiad blynyddol TPAS Cymru yn cael eu cydnabod fel “Oscars” y Byd Cyfranogi, gan ddathlu cyfranogiad cymunedol yn eu cymdogaethau, cydnabod gwaith caled yn ogystal â rhannu arfer gorau ar draws Cymru.

Esboniodd Iwan Evans, y Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

“Rwy’n hynod o falch o’r panel am gyrraedd y rhestr fer. Maent wedi mynd o nerth i nerth ers eu sefydlu yn 2013. Erbyn hyn mae gennym 9 o aelodau ac maent yn gyson yn cyfrannu a llunio gwasanaethau yn Tai Gogledd Cymru.” 

Mae Tai Gogledd Cymru hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Prosiect Digidol yn Gyntaf yn y categori Gwella Gwasanaethau; prosiect cyffrous yw hwn sy’n anelu at gynyddu nifer y gwasanaethau y gellir eu cynnig i denantiaid yn ddigidol ac ar-lein yn y dyfodol.

Roedd nifer o aelodau’r Panel yn rhan o’r prosiect hwn, ac roedd eu cyfranogiad yn rhan hanfodol o lwyddiant y prosiectau hyd yma yn ôl Brett Sadler, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymdogaethau a Rheolwr y Prosiect:

“Gallaf ddweud yn onest na fyddai ein prosiect Digidol yn Gyntaf wedi bod mor llwyddiannus heb gynnwys pedwar o aelodau’r Panel Ymgynghorol Preswylwyr ar y Tîm Prosiect; dydyn nhw byth yn ofni lleisio eu barn, herio’r norm ac awgrymu syniadau newydd. Maent yn chwa o awyr iach.”

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir ar 14 Gorffennaf 2016 yn Venue Cymru, Llandudno.