Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gwblhau ein Harolwg Boddhad Tenantiaid ym mis Hydref i Ragfyr 2015.
Llongyfarchiadau Mr a Mrs Blundell o Fangor a enillodd y Dabled Samsung Galaxy. Dyma lun o Mr Blundell yn derbyn y dabled fuddugol gan Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid Tai Gogledd Cymru.
Mae canlyniadau’r arolwg, a fydd yn cael ei rannu i bawb cyn bo hir, yn helpu i lunio a gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Diolch unwaith eto i bawb.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (yr enw newydd ar Asiantaeth yr Amgylchedd) ar hyn o bryd yn cynnal prosiect ymwybyddiaeth llifogydd ar draws Gogledd Cymru.
Mae’r prosiect wedi ei anelu at rhai rhwng 16-25 oed sydd â diddordeb yn yr amgylchedd a/neu sydd wedi cael rhywfaint o brofiad uniongyrchol neu anuniongyrchol o lifogydd.
Maen nhw’n bwriadu cynnal dwy sesiwn grŵp ffocws er mwyn rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan roi eu safbwynt ar ymwybyddiaeth o lifogydd a sut y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru wella eu gwasanaethau yn y maes hwn.
Bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan yn un o’r 2 sesiwn sydd ar gael yn cael taleb Amazon gwerth £40 fel diolch am helpu gyda’r prosiect.
Mae’r ddwy sesiwn yn cael eu cynnal ar y dyddiau yma:
- Dydd Mercher 24 Chwefror yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl (6pm – 7:30pm)
- Dydd Iau 3 Mawrth yng Nghanolfan Busnes Llanrwst (6pm – 7:30pm)
Os hoffech gofrestru eich diddordeb, cysylltwch ag Iwan ar 01492 563232 neu [email protected]
Mae preswylwyr ar draws Conwy a Gwynedd yn cael eu gwahodd i ‘Enwebu Cymydog’ sy’n haeddu dathlu’r Nadolig yn gynnar gyda hamper yn llawn pethau da.
Mae Tai Gogledd Cymru unwaith eto yn lansio ei hymgyrch Nadolig flynyddol gydag 20 o hamperi Nadoligaidd blasus ar gael i’w hennill gan denantiaid sy’n byw yng Ngwynedd a Chonwy.
A ydyn nhw wedi dangos cefnogaeth ragorol i aelodau eraill o’r gymuned, wedi helpu i lansio menter neu brosiect cymunedol neu wedi bod yn gymydog wirioneddol wych? Rydym yn awyddus i glywed gan bawb!
Bydd yr enillwyr yn cael ymweliad gan tai Gogled Cymru y agosach at y Nadolig pan fydd Siôn Corn yn galw heibio i weld y cymdogion da yma, gyda’r ceirw a thîm o gynorthwywyr i gyflwyno’r hamperi yn llawn anrhegion da a rhannu tipyn o hwyl yr ŵyl.
Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:
Dyma un o fy hoff bethau ar galendr Tai Gogledd Cymru! Mae yna ysbryd cymdogol yn parhau yn ein cymunedau ac rydym am ei ddathlu.
Manteisiwch ar y cyfle hwn i ddweud diolch i’ch cymdogion, ac enwebwch nhw heddiw! “
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Llun, y 14 o Ragfyr 2015. Gallwch enwebu drwy anfon negeseuon testun enw, cyfeiriad a rheswm dros eich enwebiad i 07538254254 neu drwy lenwi ffurflen enwebu yma https://www.surveymonkey.com/r/Nadolig neu gan lawr lwytho a cwpwlhau y ffurflen yma ai ddychwelyd i:
Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno. Conwy LL31 9HL.
Mae Mrs Liliana Owen wedi troi ei hobi yn rhywbeth gwerth chweil go iawn, gan fynd ati i grosio a gwerthu 124 pabi coch er budd Apêl y Pabi mis Tachwedd, gan godi cannoedd o bunnoedd.
Roedd Liliana, 91 oed, yn difyrru’r amser trwy grosio pabis i’w chyd-breswylwyr yn natblygiad gofal ychwanegol Llys y Coed yn Llanfairfechan, ond yn gwbl annisgwyl mi wnaeth yr hobi dyfu’n rhywbeth mwy.
Eglurodd Mrs Liliana Owen:
Digwyddodd y cyfan ar ddamwain. Roeddwn yn gwneud pabis i breswylwyr ac mi wnaeth rhywun awgrymu fy mod yn eu gwerthu i godi arian at Apêl y Pabi.
Mi wnaethon nhw ddod yn boblogaidd iawn, ac mi wnes i ddechrau derbyn archebion am 10 ar y tro gan deulu a ffrindiau o bob cwr! Doedd crosio pabi ddim yn cymryd llawer o amser i mi, ac mi gefais help gan fy nghyd-breswylydd Mrs Eirwen Hughes.”
Mae Liliana yn crosio’n gyson ar gyfer achosion da, gan anfon ei chreadigaethau i nifer o elusennau megis Cancer Research UK i’w gwerthu ymlaen er mwyn codi arian. Mae hi hefyd yn cyflenwi dillad ar gyfer y babanod bach yn yr uned babanod cynamserol yn Ysbyty Bangor.
Rwy’n mwynhau crosio ac rwyf mor falch fy mod wedi gallu gwneud rhywbeth i helpu’r apêl a’n helpu i gofio.”
Mae Cribiniau ag Ystolion, tîm cynnal tiroedd mewnol Tai Gogledd Cymru, allan ag o gwmpas mis Tachwedd yma ac eisiau ein tenantiaid ymuno a nhw!
Bydd y tîm yn plannu, cynnal gweithdai, cynnig awgrymiadau a rhoi planhigion am ddim i ffwrdd!
Byddant yn y lleoliadau canlynol:
Planhigion, Potiau a Phatios, Maes y Llan, Towyn | 16 Tachwedd 3yp – 5yp
Dewch i ymuno â ni ar gyfer gweithdy planhigion gwely gaeaf a basgedi hongian a ddarperir gan Gribinau ac Ystolion. Cewch awgrymiadau garddio a phlanhigion AM DDIM! Croeso i bob oedran.
Lawr lwythwch boster
Y Plannu Mawr, Cae Bold, Caernarfon | 20 Tachwedd | 2yp – 5yp
Ymunwch â ni ar gyfer y plannu mawr! Bydd staff Cribiniau ac Ystolion a TGC yn plannu bylbiau cennin Pedr yng Nghae Bold, Caernarfon. Croeso i bob oedran.
Lawr lwythwch boster
Mwy o Wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Iwan Evans 01492 563232 [email protected]
Efallai y byddwch hefyd fod â diddordeb mewn… Cystadleuaeth Garddio Tai Gogledd Cymru
Ydych chi rhwng 16 i 25 oed? Oes gennych chi rywbeth i ddweud am faterion tai sy’n effeithio pobl ifanc? Oes gennych chi ddiddordeb gweithio a’r prosiect gyda phobl ifanc eraill i daclo’r materion yma? Os oes, pam ddim ymuno ein grŵp newydd Rhwydwaith Tai Pobl Ifanc? Byddem yn cyfarfod yn Tŷ Hapus, Llandudno ar Ddydd Mawrth 14eg o Orffennaf am 5yh.
Peidiwch â phoeni am gyrraedd yno, gallwn eich helpu gyda hynny.
Lawrlwytho taflen
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Gemma ar 07717543198 neu [email protected].
Mae cynllun ymgysylltu cymunedol sy’n cael ei gefnogi gan dair cymdeithas dai leol wedi ennill Gwobr ‘Cyfranogiad Tenantiaid’ genedlaethol a gyflwynwyd yng Nghaerdydd.
Bu Cartrefi Conwy, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ers Mai 2013, fel rhan o brosiect ‘Conwy gyda’i Gilydd’ a’r wythnos ddiwethaf enillodd Llais Cymunedol Conwy’r wobr bwysig flynyddol am Gyfranogiad Tenantiaid yn cynnwys Cymru gyfan a ddyfarnwyd gan TPAS Cymru, y Gwasanaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Chynghori.
Trefnir ‘Llais Cymunedol Conwy’ gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Conwy ac mae’n cael ei ariannu gan y Loteri Fawr.
Dan y cynllun mae’r tair cymdeithas dai wedi gweithio gyda’i gilydd i gynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ennyn diddordeb preswylwyr Conwy yn greadigol gan eu grymuso i gael lleisio eu barn o ran y gwasanaethau a’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau dyddiol.
Roedd y digwyddiadau yn amrywio o ddyddiau hwyl i’r teulu a sinema dawel i fforwm cymunedol cyson gydag amrywiaeth eang o siaradwyr yn ymweld.
“Rwyf wedi mwynhau cyfarfod cynghorwyr a gwleidyddion yn y fforymau – dwi’n meddwl eu bod wedi synnu bod gennym gymaint i’w ddweud!” dywedodd Anne Rothwell, un o breswylwyr Pentre Mawr yn Abergele.
Canmolodd Mr S. (Mitch) Mitchell hefyd y fforymau, gan ddweud bod yr awyrgylch hamddenol yn annog y preswylwyr i gymryd rhan yn y trafodaethau.
Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid Cymdeithas Tai Gogledd Cymru:
“Mae Tai Gogledd Cymru yn eithriadol o falch bod y prosiect wedi ennill y wobr bwysig hon. Yn sicr bu’r prosiect yn llwyddiant; bu’n allweddol wrth sicrhau bod tenantiaid anodd eu cyrraedd yn cael llais a mynegi eu barn am weithgareddau a gwasanaethau cyrff cyhoeddus. Mae tenantiaid Tai Gogledd Cymru wedi mwynhau’r llu o weithgareddau ac maent wedi eu gweld yn ddefnyddiol.”
Dywedodd David Lloyd, Cyfarwyddwr TPAS Cymru:
“Mae ein Gwobrau Cyfranogiad blynyddol yn rhoi cyfle i ni gydnabod bod cyfranogiad tenantiaid yn newid gwasanaethau tai a chymunedau er gwell. Mae’r gwobrau yn cynnig ffenestr siop i arfer gorau ar draws Cymru wrth sicrhau bod tenantiaid wrth galon gwasanaethau tai. Mae wedi bod yn braf iawn dathlu llwyddiannau cyfranogiad ac rydym wedi gweld enillwyr sy’n ysbrydoli ac yn ysgogi unwaith eto eleni.”
Mae’r Panel yn grŵp o denantiaid sy’n cyfarfod yn fisol ac maent yn rhan bwysig o’r broses barhaus o reoli a llywodraethu’r sefydliad. Mae bod yn aelod o’r Panel Ymgynghorol Preswylwyr yn gyfle go iawn i ddylanwadu ar sut y mae Tai Gogledd Cymru yn gweithredu.
Maent yn grŵp cyfeillgar a chroesawgar sydd bob amser yn chwilio am denantiaid newydd i ymuno â nhw.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Panel neu os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch ni ar 01492 572727.