Canlyniadau arolwg tenantiaid

Ym mis Mawrth mi wnaethon ni gynnal arolwg tenantiaid. Cafodd yr arolwg ei drefnu gan gwmni allanol, ac fe’i anfonwyd at holl denantiaid Tai Gogledd Cymru. Roedden ni am ddarganfod beth oeddech chi’n ei feddwl am bob rhan o TGC, o’ch cartref, i’n gwaith trwsio a’r gwasanaeth rydyn ni’n eu darparu.

Diolch i bob un ohonoch a gwblhaodd yr arolwg. Rydym yn awr yn falch o rannu’r canlyniadau gyda chi yn yr Adroddiad Cryno hwn i Breswylwyr.

Cafodd pawb a gwblhaodd yr arolwg eu cynnwys mewn raffl fawr i ennill tabled Samsung. Dewiswyd yr enillydd ar hap, a gallwn ddatgelu mai’r enillydd yw… Mr Haywood yn Bron Bethel, Rachub. Llongyfarchiadau Mr Haywood, byddwn mewn cysylltiad â chi i drefnu cyflwyno eich tabled newydd sbon i chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adroddiad, cysylltwch â ni ar 01492 572727.

TGC yn ymrwymo i ddod â stigma am iechyd meddwl i ben

Ar ddydd Gwener 2 Hydref llofnodwyd addewid Amser i Newid gan Brif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, Helena Kirk, a thrwy hynny fe ffurfiolwyd ein hymrwymiad i newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn gweithredu am iechyd meddwl yn y gwaith.

Esboniodd Helena:

“Mae arwyddo Addewid Amser i Newid Cymru yn dangos ymrwymiad ein sefydliad i greu man gwaith sy’n rhydd o wahaniaethu a stigma iechyd meddwl, ac i newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn gweithredu am iechyd meddwl yn y gwaith.

Rydyn ni am ei gwneud hi’n beth cyffredin i weithwyr ddweud “rwy’n cael trafferth”, “rwy’n gweithio gormod” neu “mae angen cefnogaeth arnaf” yn y man gwaith heb iddyn nhw ofni canlyniadau negyddol.”

Gan fod y rhan fwyaf o’n horiau effro yn cael eu treulio yn y gwaith, gall ein hamgylchedd gwaith chwarae rhan fawr yn ein hiechyd a’n llesiant. Mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol, ac mae Tai Gogledd Cymru yn cydnabod hynny ac wedi buddsoddi amser yn iechyd a llesiant staff fel rhan o’u Strategaeth Pobl.

Esboniodd Lynne Williams, Pennaeth Pobl:

“Mae gennym grŵp Iechyd a Llesiant ymroddedig sy’n hybu iechyd a llesiant i staff mewn ffordd hwyliog a gafaelgar. Rydym am i staff ofalu am eu hunain, fel y gallan nhw fod y fersiynau gorau o’u hunain.

Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â hyn; mae 37 aelod o staff bellach yn Rheolwyr hyfforddedig, gan roi’r offer iddynt helpu i reoli a hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol yn y man gwaith.”

Fodd bynnag, mae Tai Gogledd Cymru yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud, a dim ond y cam nesaf yn eu taith yw llofnodi’r addewid.

Adolygiad Blynyddol: Amser i edrych yn ôl ar 2019 – 2020

Dyma’r adeg honno o’r flwyddyn eto, yr amser ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) lle mae cyfranddalwyr yn dod ynghyd i drafod materion Llywodraethu. Eleni fydd y tro cyntaf i’r cyfarfod gael ei gynnal ar-lein oherwydd Covid-19.

Mae’r CCB yn rhoi cyfle inni edrych yn ôl ar y flwyddyn a aeth heibio, myfyrio ar ei heriau a dathlu ei lwyddiannau. Rydym wedi llunio’r Adolygiad Blynyddol hwn sy’n crynhoi’r flwyddyn yn dda. Cliciwch ar y llun i’w ddarllen:

Rydym yn croesawu adborth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar yr Adolygiad Blynyddol hwn, cysylltwch â [email protected] neu 01492 572727

Cyhoeddi Cadeirydd newydd

Penodwyd Catherine Dixson gan y Bwrdd Grŵp fel Cadeirydd newydd Bwrdd Grŵp Tai Gogledd Cymru yng nghyfarfod Ionawr. Roedd hyn yn dilyn proses gyfweld egnïol a oedd yn cynnwys cael ei chyfweld gan banel o denantiaid.

Catherine yw Prif Weithredwr  Cymdeithas Tai Muir Group a leolwyd yng Nghaer.

Yn flaenorol, bu Catherine yn gweithio yn GreenSquare fel Cyfarwyddwr Gweithredol (Datblygu Sefydliadol a Gwasanaethau Corfforaethol) yn Wiltshire a chyn hynny fel Cyfarwyddwr Cymorth Busnes gyda Synergy Housing yn Dorset.

Mae gan Catherine flynyddoedd lawer o brofiad yn y maes tai a gweithio i awdurdod lleol ym myd addysg, gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth tân ac achub.

Mae Catherine yn Gadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Sant Dunawd ym Mangor-is-y-coed.

Mae gan Catherine Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) ac mae’n Ysgrifennydd a Gweinyddwr Siartredig (ACIS).

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Catherine:

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy mhenodi’n Gadeirydd Tai Gogledd Cymru. Mae’n amser cyffrous i ymuno â’r sefydliad wrth iddo archwilio ei strategaeth at y dyfodol, ei gyfleoedd i dyfu a datblygu. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda phawb a gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddyfodol Tai Gogledd Cymru. ”

Datblygiad Caergybi yn symud ymlaen

Mae’r gwaith wedi symud ymlaen yn dda iawn yn ein datblygiad Gerddi Canada yng Nghaergybi, a gobeithiwn y bydd 15 o’r 25 o dai a fflatiau yn cael eu cwblhau a’u trosglwyddo ym mis Mai 2020.

Yn ddiweddar mi wnaethon ni ymweld â’r safle gydag un o’n cyllidwyr, sef y Principality. Roedd y cynnydd ar y safle ers ein hymweliad diwethaf yn anhygoel ac rydym rŵan yn gallu gweld y diwedd yn dod i’r golwg!

Oes gennych chi ddiddordeb mewn byw yn un o’r tai neu’r fflatiau hyn? Cysylltwch â Chyngor Ynys Môn ar:

  • Gwasanaethau Tai, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TW
  • 01248 750057

Penblwydd Hapus i ni

Roedd Tai Gogledd Cymru yn 45 mlwydd oed eleni; llwyddiant mawr yn y sector tai.

Plannwyd coeden o flaen Plas Blodwel i ddathlu.

Lluniwyd fideo byr hefyd; gallwch ei wylio yma.

Newidiadau i grwpiau cyfranogi tenantiaid

Cynhaliodd y Panel ei gyfarfod olaf ar ei ffurf bresennol ym mis Gorffennaf 2019, a bydd yn awr yn uno â’r Pwyllgor Gwasanaethau Landlord. Enw’r grŵp newydd hwn fydd y Panel Tenantiaid a Chymunedau, cyfuniad o aelodau’r PYP ac aelodau’r Bwrdd, sy’n cyfarfod bob deufis.

Pam uno?

  • Lleihau dyblygu o’r ddau grŵp
  • Sicrhau mwy o gynrychiolaeth o safbwyntiau tenantiaid
  • Cryfhau rôl tenantiaid yn ein strwythur llywodraethu

Rôl Gyffredinol y Panel Tenantiaid a Chymunedau Newydd

  • Craffu ac adolygu ar pa mor effeithiol y mae’r Cynllun a’r strategaethau Corfforaethol yn cael eu trosi’n gamau gweithredu a pherfformiad ar gyfer cwsmeriaid a chymunedau.
  • Archwilio gwasanaethau, gan sicrhau bod llais preswylwyr yn cael ei glywed a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.
  • Bydd yn mynd i’r afael â gwella polisïau a gweithdrefnau gweithredol yn barhaus a’r cyfleoedd ar gyfer mynediad cwsmeriaid at wasanaethau, adborth gan gwsmeriaid a chraffu dan arweiniad cwsmeriaid.

Gallwch chi gwrdd ag aelodau’r Panel Tenantiaid a Chymunedau yma.

Adolygiad Blynyddol yn cael ei ddatgelu yn y Cyfarfod Blynyddol

Cynhaliodd Tai Gogledd Cymru ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ar ddydd Iau 12fed Medi 2019. Daeth staff, aelodau’r Bwrdd a chyfranddalwyr at ei gilydd yn y digwyddiad blynyddol.

Cafodd yr Adolygiad Blynyddol 2018 – 2019 ei ddatgelu yn y digwyddiad; mae’r Adolygiad yn gyfle perffaith i edrych dol ar y flwyddyn a’i lwyddiannau.

Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn yn cynnwys derbyn ‘Safonol’ eto yn ein dyfarniad rheoleiddiol gan Lywodraeth Cymru, gorffen ein datblygiad Nant Eirias yn Bae Colwyn, dechrau Canada Gardens yng Nghaergybi a’r nifer o gyfleoedd i denantiaid i gael dweud eu dweud, gan gynnwys y prosiect ‘Agor drysau i’r awyr agored’.

Cymerodd Tom Murtha, Cadeirydd y Grŵp Bwrdd, y cyfle i ddiolch i gyfranddalwyr, staff ac aelodau Bwrdd yn y Cyfarfod am eu cyfraniad i lwyddiant y flwyddyn.

Gallwch lawrlwytho copi o’r Adolygiad Blynyddol yma:

TGC yn chwifio’r faner yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cawsom wythnos brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni.

Diolch i’r rhai ohonoch a ddaeth draw i’n stondin a chymryd rhan yn ein nifer o weithgareddau! Fe wnaethon ni gyflawni ein nod o feicio’r 186 milltir o Langollen i Abersoch ac yna Caergybi. Cawsom dros 200 o gynigion ar gyfer y gystadleuaeth arlunio plant hefyd, a oedd yn gwneud beirniadu yn anodd iawn!

Fe wnaethon ni gynnal cystadleuaeth tenantiaid i ennill tocynnau; llongyfarchiadau i’r rhai a enillodd, a diolch i Ace am bicio draw i ddweud helo!