Dathlu gosod y fricsen gyntaf mewn datblygiad tai newydd yng Nghaergybi

Daeth cydweithwyr a phartneriaid Tai Gogledd Cymru ynghyd ar ddydd Mercher 3 Ebrill i ddathlu dechrau datblygiad newydd yng Nghaergybi, Gerddi Canada.

Bydd Gerddi Canada, mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn, yn creu 25 o gartrefi newydd yn yr ardal: deg fflat un ystafell wely a phymtheg o dai dwy ystafell wely. Mae’r safle yn agos at siopau manwerthu, archfarchnadoedd, lle chwarae, ysgolion, trafnidiaeth leol ac amwynderau eraill.

Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Ynys Môn i ddiwallu anghenion tai lleol y sir. Bydd Gerddi Canada yn darparu 25 o gartrefi newydd o ansawdd yng Nghaergybi, cymysgedd da o eiddo a fydd yn creu ysbryd cymunedol.”

Bydd tîm Datblygu mewnol Tai Gogledd Cymru yn rheoli’r prosiect, gan anelu at drosglwyddo’r goriadau i’r tai ym mis Hydref 2020, gan gwblhau’n llawn ym mis Rhagfyr 2020.

Swydd wag Aelod y Bwrdd

Rydym yn chwilio am aelod y Bwrdd sydd gyda’r sgiliau a’r profiad i gryfhau ein Bwrdd. Mae’r rhain yn cynnwys trawsnewid gwasanaeth cwsmer mewn amgylchedd sector tai; Datblygu eiddo/ rheoli asedau a dealltwriaeth o bartneriaethau Strategol gyda sefydliadau eraill ac ymgysylltu â’r gymuned neu wybodaeth o sialensau systematic gyda chymunedau lleol. Rydym yn chwilio am rywun sydd yn byw yng Nghymru ac yn ddelfrydol yn siaradwr Cymraeg.

Os yw hynny’n taro tant gyda chi ac os ydych yn rhannu ein huchelgais, yna hoffem glywed gennych. Gallwch ffeindio allan mwy am ddod yn aelod o’r Bwrdd yma.

Fe’ch gwahoddir i gwblhau a dychwelyd Ffurflen Gais a Ffurflen monitro Cyfleoedd Cyfartal i [email protected] erbyn 12yp ar Ddydd Gwener 29 Mawrth.

Asiantaethau Tai yn cyd-weithio i gefnogi Bargen Twf Gogledd Cymru

Mae grŵp o chwe asiantaeth tai lleol wedi dod at ei gilydd mewn menter ar y cyd cyffrous i gyflymu datblygiad tai fforddiadwy newydd i gefnogi dosbarthiad Bargen Twf Gogledd Cymru.

Y Fargen Twf yw ymrwymiad rhanbarth Gogledd Cymru i gydweithio er mwyn hwyluso a chyflymu twf economaidd. Roedd £120 miliwn o gyllid wedi cael ei rhoi i’r Fargen yng Nghyllideb 2018 a gafodd ei chyhoeddi mis Hydref. Mae’r Fargen yn anelu defnyddio cyllid gan y llywodraeth i sianelu bron i £700m o arian cyhoeddus a phreifat i gyfres o brosiectau sydd wedi eu hanelu at hybu economi’r Gogledd a chreu miloedd o swyddi.

Mae Prif Weithredwyr o’r 6 Asiantaeth Tai sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys Pennaf, Cartrefi Conwy, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Grŵp Cynefin, Tai Wales & West a Tai Gogledd Cymru yn cydweithio ar sail wirfoddol gyda chydweithwyr o’r chwe Awdurdod Lleol. Mae’r grŵp yn ystyried sut y gallant weithio gyda’i gilydd yn rhagweithiol i ddatblygu mwy o dai gan ddatgloi safleoedd strategol lle mae datblygiad wedi arafu neu stopio ar draws gogledd Cymru, sydd wedi cael eu dyrannu mewn Cynllun Datblygu neu lle mae hawl cynllunio wedi cael ei roi. Bydd datblygiadau fel y rhain yn adlewyrchu’r farn leol ac yn ymateb i ddymuniadau cymunedol i weld mwy o dai fforddiadwy fel bod pobl ifanc a theuluoedd yn medru byw yn yr ardal.

Eglurodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Nid yw’r lefel yma o gydweithio arloesol rhwng y cymdeithasau rhanbarthol wedi cael ei ddatblygu na’i chyflawni yng Nghymru cyn hyn.

Mae’n gyfle cyffrous i’r grŵp o chwech asiantaeth leol wneud cyfraniad strategol i’r economi drwy’r cynlluniau i gyflymu twf tai a chyflawni ystod o anghenion tai ar draws y rhanbarth.

Trwy gydweithio, bydd yr asiantaethau yn cefnogi’r Fargen Twf i gyflymu twf tai a chreu mwy o dai fforddiadwy ar draws gogledd Cymru. Trwy gydweithio, gellir defnyddio capasiti ein sefydliadau ar y cyd i dorri rhwystrau lawr ac i ddosbarthu tai ar leoliadau heriol.” 

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Dros Tai ac Adfywiad:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i greu mwy o dai fforddiadwy ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru. Trwy gydweithio, mae’r potensial gan y fenter hon i fod yn llawer mwy na’r hyn y gallai’r asiantaethau tai ei gyflawni ar eu pennau eu hunain, ac rydym yn edrych ymlaen at gynorthwyo ei datblygiad.”

Mae cynlluniau’r grŵp ar gyfer y dyfodol yn cael eu datblygu i gyd-fynd gyda blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol.

Gwobrau Cymydog Da 2018

Gall cael cymydog da wneud y gwahaniaeth enfawr i gymuned ac mae’n rhywbeth yr hoffem ei wobrwyo. Bydd y cynllun yn talu teyrnged i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion neu’r gymuned leol.

Fel tenant i ni gallwch enwebu tenant arall gyda Tai Gogledd Cymru am wobr, gyda chyfle iddyn nhw ennill £50, ac fel diolch am enwebu enillydd gwobr, mi gewch chi hefyd daleb siopa gwerth £10.

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wir yn gwneud gwahaniaeth lle rydych chi’n byw? Ydyn nhw bob amser yn cadw golwg ar eu cymdogion ac yn barod i roi help llaw pan fydd angen? Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gofalu am gymydog?

Os ydych chi’n gwybod am denant sy’n mynd yr ‘ail filltir’ honno er mwyn helpu eraill yna byddem yn hoffi clywed gennych!

Am fwy o wybodaeth cysylttwch â Iwan ar 01492 563232 neu [email protected]

Cynllun Newydd ar gyfer y dyfodol

Mae Tai Gogledd Cymru wedi datblygu Cynllun Corfforaethol newydd a fydd yn cwmpasu’r cyfnod 2018-2021.

Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad a arweiniodd at ddatblygu’r cynllun hwn.

Mae’r Cynllun Corfforaethol yn nodi ein blaenoriaethau a’n hamcanion ar gyfer y tair blynedd nesaf.  Bydd hyn yn cwmpasu ein tenantiaid, ein cartrefi, gwydnwch ariannol a datblygiad staff.

Gallwch ddarllen copi o’r Cynllun Corfforaethol yma.

Newidiadau i’n Gwasanaeth Cwsmeriaid

Fel rhan o’n hymdrech barhaus i wella ein gwasanaeth cwsmeriaid, rydym yn gwneud newidiadau rydym yn credu fydd yn gwella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.

Y prif newid yw ein bod yn dod â Gwaith Trwsio a Gwasanaeth Cwsmeriaid at ei gilydd o dan un tîm. Mae hyn yn golygu, o ddydd Mawrth 17 Hydref 2017 ymlaen, pan fyddwch yn ffonio 01492 572727 na fyddwch yn clywed mwy nag un opsiwn bellach; yn lle hynny, cewch eich cysylltu efo Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Bydd Cynghorwyr Gwasanaeth Cwsmeriaid yn gallu eich helpu gyda’r rhan fwyaf o’ch ymholiadau. Mae’r rhain yn cynnwys logio gwaith trwsio neu ymholiadau am waith presennol, eich helpu gyda’ch balans rhent, eich pasio ymlaen i Allpay i wneud taliad rhent yn ogystal ag unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill.

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi wneud llawer o’r pethau hyn ar-lein 24/7 gan ddefnyddio FyTGC? Dysgwch fwy am FyTGC yma.

Bydd y Tîm Rhenti yn dal ar gael i’ch helpu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ôl-ddyledion ar eich cyfrif rhent neu os ydych eisiau cyngor.

Mae hwn yn newid eithaf mawr i’r sefydliad, ac i’r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid. Fe fyddem yn gwerthfawrogi eich amynedd yn fawr wrth i’r Tîm arfer efo ffordd newydd o weithio a dysgu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar y gwasanaeth newydd, cysylltwch â ni ar 01492 572727 neu [email protected] .

Pen-blwydd Hapus i Monte Bre yn 30 oed!

Roedd y cynllun iechyd meddwl Monte Bre yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 ym mis Medi eleni.

Lleolir yn Llandudno, mae Monte Bre yn darparu llety â chymorth i breswylwyr sy’n gwella, neu sydd â phroblem iechyd meddwl hirdymor.

Dathlodd y cynllun y garreg filltir hon drwy wahodd rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol y maent yn gweithio gyda hwy i gael gwybodaeth bellach am y cynllun a’r gwaith a wnânt.  Dros ginio bwffe a chacen buont yn siarad gyda’r preswylwyr, y Gweithwyr Prosiect Judith Lewis a Joe Lambe a’r Rheolwr Kerry Jones, gan drafod rhai o’r prosiectau gwaith gwych maent yn eu cyflawni,

Pen-blwydd Hapus yn 30 Monte Bre – a dymuniadau gorau am lawer o flynyddoedd i ddod!!

Cadeirydd Grŵp newydd i Tai Gogledd Cymru

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cyhoeddi penodiad Tom Murtha fel Cadeirydd newydd ei Bwrdd Grŵp yn ei Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ym mis Medi eleni.

Mae Tom yn olynu Peter Gibson fel ein Cadeirydd, a safodd i lawr eleni ar ôl 9 mlynedd ar y Bwrdd, sef y cyfnod hiraf posib a ganiateir i fod yn aelod o’r Bwrdd.

Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Hoffem ddiolch i Peter am ei flynyddoedd lawer o wasanaeth fel aelod gwirfoddol o’r Bwrdd dros Tai Gogledd Cymru. Mae Peter wedi gweld llawer o newidiadau dros y blynyddoedd ac wedi bod yn rhan o’r gwaith gwych rydym wedi’i wneud mewn cymunedau lleol.”

Mae Tom Murtha yn dod â phrofiad helaeth iawn gydag ef, gan iddo dreulio dros 40 mlynedd yn y sector tai a gofal. Dechreuodd ei yrfa fel gweithiwr cymunedol yng nghanol dinas Caerlŷr ac ymddeolodd fel Prif Weithredwr Midland Heart, un o sefydliadau tai a gofal mwyaf y DU, yn 2012.

Tom Murtha, Cadeirydd Grŵp newydd yn Tai Gogledd Cymru:

“Rwy’n falch iawn o ymuno â Helena a’i chydweithwyr yn Tai Gogledd Cymru ar yr adeg bwysig hon. Rwyf bob amser wedi edmygu eu gwaith a gwaith y sector tai yng Nghymru sy’n dal i gydnabod gwir werthoedd a phwrpas tai cymdeithasol.”

Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn falch iawn o groesawu Tom fel ein Cadeirydd newydd. Teimlwn ei fod yn gaffaeliad gwych i’r sefydliad a bydd yn allweddol wrth oruchwylio gweithrediad ein Cynllun Corfforaethol newydd a chyfeiriad Tai Gogledd Cymru at y dyfodol.”

Gallwch wybod mwy am Tom ac aelodau eraill Bwrdd Tai Gogledd Cymru yma.

Beth ddigwyddodd yn 2016 – 2017?

Mae Adolygiad Blynyddol Tai Gogledd Cymru yn edrych yn ôl ar y flwyddyn sydd wedi bod, yn ein hatgoffa o’r hyn rydym wedi cyflawni.

Gallwch ddarllen yr Adolygiad Blynyddol ar gyfer 2016 – 2017 yma.

Beth yw eich barn? Gadewch i ni wybod beth yw eich barn am Adolygiad Blynyddol eleni drwy anfon e-bost at [email protected].

Dyfarnu gwobr lles i Tai Gogledd Cymru

Ar ddydd Iau, Mehefin 15fed fe ddyfarnwyd ‘Gwobr Llysgennad Sefydliad Lles Conwy’ i Tai Gogledd Cymru mewn seremoni Wobrwyo CGGC.

Esboniodd Gemma Struthers, Swyddog Lles Cymunedol gyda Thîm Lles Cymunedol Conwy y rhesymau dros ddewis Tai Gogledd Cymru i dderbyn y wobr:

“Roeddem am ddiolch i TGC am fod mor gefnogol i raglen Lles Conwy. Drwy helpu i ledaenu’r gair am y rhaglen Lles a chynnal amrywiaeth o weithgareddau fel rhan o gynlluniau Pobl Hŷn TGC; rydym wedi gallu casglu rhai astudiaethau achos gwych am effaith gadarnhaol y rhaglen lles.”

“Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth barhaus ac am hyrwyddo gweithgareddau Lles Cymunedol a’r 5 Llwybr at Les, mae eich help wedi bod yn amhrisiadwy i lwyddiant ein rhaglen.”

Caiff gweithgareddau Lles Cymunedol eu cynnal yng Nghynlluniau Gofal Ychwanegol Hafod y Parc a Llys y Coed, gyda digwyddiadau fel gweithdai Ukulele, cyflwyniadau hanesyddol a chrefft a sgyrsiau tymhorol.

Mi wnaeth Shelley Hughes, y Rheolwr  Cynllun yng nghynllun Gofal Ychwanegol Hafod y Parc, Abergele, gasglu’r wobr ar ran Tai Gogledd Cymru yn y seremoni wobrwyo.