Mae digwyddiad gyrfa ar-lein yn rhoi cyfle i bobl wneud gwahaniaeth yn 2022 gyda gyrfa newydd

Mae pobl sydd am gael dechrau newydd a gyrfa newydd yn 2022 yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiad arbennig i ddarganfod sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau gyda swydd yn Tai Gogledd Cymru (TGC).  

Bydd TGC yn cynnal Digwyddiad Gyrfa ar-lein ddydd Mercher 2 Chwefror rhwng 1pm-2pm fel y gall pobl ddarganfod mwy am weithio yn y sector tai cymdeithasol a’r gyrfaoedd sydd ar gael yn TGC.  

Digwyddiad Gyrfa Ar-lein 

Pryd: Dydd Mercher, Chwefror 2, 1-2pm 

Lleoliad: Ar-lein 

Mwy o wybodaeth https://www.nwha.org.uk/cy/news-and-events/events/digwyddiad-gyrfa-ar-lein/. 

Yn ystod y digwyddiad bydd timau gwahanol yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud a sut brofiad yw gweithio yn y sector tai ac yn TGC, yn ogystal â darganfod mwy am y swyddi gwag cyffrous sydd ar ddod. 

Mae’n amser cyffrous i ymuno â TGC, mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol ac rydym yn creu rolau newydd. Dewch i ymuno â ni a gwneud gwahaniaeth.  

Cofrestru 

Eisiau mynychu? Cofrestrwch eich diddordeb yn [email protected] 

Nifer uchel o alwadau oherwydd difrod storm

Rydym yn derbyn nifer uchel o alwadau oherwydd adroddiadau o ddifrod storm yn dilyn storm dros y penwythnos.

Os gwelwch yn dda byddwch yn amyneddgar gyda ni wrth i ni geisio cynorthwyo; gall amser aros galwadau fod yn hirach na’r disgwyl dros yr ychydig ddyddiau nesaf. Gallwch hefyd logio atgyweiriadau trwy e-bostio [email protected] neu ddefnyddio MyNWH trwy ein gwefan.

Hysbysiad: Bydd recordio galwadau yn cael ei roi ar waith

O 22 Tachwedd 2021 bydd pob galwad i’r Tîm Gwasanaethau Cwsmer yn cael ei recordio.

Y prif bwrpas ar gyfer recordio galwadau yw ar gyfer hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth. Bydd galwadau wedi’u recordio hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer monitro ansawdd a/neu ddelio â chwynion. Defnyddir hyn yn bennaf gan ein tîm Gwasanaethau Cwsmer; gellir ei ddefnyddio hefyd fel tystiolaeth pan fydd honiadau’n cael eu gwneud.

Bydd galwadau yn cael eu monitro a’u storio fel y gellir cyfeirio atynt yn ddiweddarach am hyd at 90 diwrnod. Gellir cadw galwadau am gyfnod hirach o amser, mewn rhai amgylchiadau, os yw staff wedi lawrlwytho’r galwadau o fewn y 90 diwrnod hynny. Yna bydd eu cadw yn dod o dan y Polisi Cadw Dogfennau a Data.

Am fwy o fanylion gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd a’n Polisi Recordio Galwadau yma https://www.nwha.org.uk/cy/about-us/data-protection/.

Enillwyr Cystadleuaeth Cymdogion Da yn cael eu datgelu

Diolch i bawb a gymerodd ran yng nghystadleuaeth Cymdogion Da TGC.

Bellach gallwn ddatgelu mai’r enillwyr yw… Amy Hale o Gerddi Canada, Caergybi a Cliff Astill o Cae Clyd, Llandudno.

Darganfyddwch pam y cawsant eu dewis trwy ddarllen crynodeb o’u henwebiadau isod:

Amy Hale o Gerddi Canada, Caergybi

Enwebwyd Amy gan gymydog a ddywedodd – Mae hi’n gwneud cymaint i mi fy hun a’r gymdogaeth a hefyd i’r plant i gyd. Yn enwedig trwy gydol yr haf newydd fynd.

Cliff Astill o Cae Clyd, Llandudno

Enwebwyd Cliff gan gymydog a ddywedodd – Mae’n gwneud llawer ar yr ystâd ac mae’n berson hyfryd. Mae bob amser yn cadw llygad ar bawb yn ein bloc, ac yn mynd â’r biniau allan bob wythnos. Nid oes unrhyw beth yn ormod o drafferth iddo ac mae bob amser yn barod i helpu gydag unrhyw beth y gall.

Diolch eto i bawb a gymerodd ran. Cadwch lygaid allan am y gystadleuaeth TGC nesaf.

Lauren Eaton-Jones yn ymuno â TGC fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol

Mae Lauren Eaton-Jones wedi ymuno â Tai Gogledd Cymru ym Mehefin 2021 fel ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol.

Penodwyd Lauren ym mis Mai, ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad Datblygu. Mae ei chefndir mewn Cynllunio Tref, gan weithio mewn sawl swydd yng Nghyngor Sir y Fflint, gan ennill profiad gwerthfawr iawn ar draws ystod eang o ddatblygiadau. Yn fwy diweddar, mae Lauren wedi gweithio yn y sector preifat fel Ymgynghorydd Cynllunio i gwmni ymgynghori amlddisgyblaethol.

Daw penodiad Lauren wrth i Datblygu chwarae rhan bwysig yn ein Cynllun Corfforaethol newydd ac mae’n greiddiol i weledigaeth TCG ar gyfer y dyfodol.

Mae Lauren yn ymuno ag Uwch Dîm Arweinyddiaeth TGC, sy’n cynnwys Helena Kirk – Prif Weithredwr, Brett Sadler – Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Jayne Owen – Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau, Ruth Lanham-Wright – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi, Allan Eveleigh – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau, Lynne Williams – Pennaeth Pobl ac Emma Williams – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid.

Gallwch ddarganfod mwy am Lauren, ac aelodau eraill o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yma https://www.nwha.org.uk/cy/about-us/meet-the-management-team/

Hoffem estyn croeso cynnes i Lauren i deulu TGC, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i weithio gyda hi.

TGC yn ‘Un i wylio’ yn ôl arolwg Cwmnïau Gorau

Rydym yn falch o ddatgelu ein bod wedi ein hachredu yn ddiweddar fel ‘Un i wylio – sefydliad da i weithio iddo’ gan y Cwmnïau Gorau.

Achredwyd y wobr hon yn dilyn arolwg a gwblhawyd gan staff TGC ynghyd â’r dystiolaeth gefnogol a ddarparwyd.

Rydym yn gwerthfawrogi bod hwn yn llwyddiant anhygoel o ystyried yr amseroedd heriol rydym yn gweithredu ynddynt, ac mae’n deyrnged i’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddod allan yn gryfach o’r pandemig.

Diolch i bawb sy’n gweithio i TGC a’r rôl rydych chi’n ei chwarae yn y cyflawniad hwn.

TGC wedi arwyddo ymrwymiad DymarSectorTai

Mae TGC yn falch iawn ein bod wedi llofnodi addewid #DymarSectorTai, ymgyrch wedi ei arwain gan Cartrefi Cymunedol Cymu.

Lansiodd Cartrefi Cymunedol Cymu, gyda cymorth cymdeithasau tai,yr ymgyrch ‘Dyma’r sector Tai’ i ddathlu hyn. Cafodd yr ymgyrch hon ei chreu i ddweud stori sut beth yw gweithio yn y sector a’r ystod swyddi sydd ar gael.

Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr TGC:

“Rydym wedi arwyddo’r ymrwymiad oherwydd ein bod yn credu bod gyrfa ym maes tai yn rhoi llawer o foddhad ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o bobl. Gyda’n gilydd rydym am roi llais i’r sector a hyrwyddo ehangder o swyddi sydd ar gael.”

Ewch i’r gwefan https://thisishousing.wales/cy/catref/ i glywed sut rai yw’r gyrfaoedd go iawn gan y bobl sy’n gweithio yn y sector tai, dysgu’r hyn rydych ei angen i gael yr yrfa a ddymunwch a’r ffyrdd gorau i wneud cais am swyddi mewn tai cymdeithasol, canfod beth mae cymdeithasau tai yn ei wneud a ble maent yn seiliedig.

Newidiadau i’r gwasanaeth yn ystod cyfnod clo Lefel 4

Yn dilyn datganiad Llywodraeth Cymru am y cyfnod clo lefel 4, rydym wedi adolygu y gwasanaethau y medrwn eu cynnig.

O Dydd Llun, 21ain o Ragfyr 2020:

  • Byddem ond yn gwneud atgyweiriadau sydd yn argyfwng
  • Bydd archwiliadau sy’n ymwneud a diogelwch yn dal i gymryd lle
  • Bydd gwaith tu allan yn dal i gymryd lle ble mae’n ddiogel i wneud hyn
  • Bydd gwaith ar ein eiddo gwag yn parhau fel eu bod yn barod ar gyfer ein tenantiaid newydd

Byddem yn adolygu y gwaith sydd wedi ei gynllunio ar gyfer yr wythnos yma ac yn ail-drefnu lle fydd angen. Byddem yn cysylltu gyda chi os yw hyn yn eich effeithio. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster y bydd hyn yn naturiol yn ei greu i chi.

Byddem yn adolygu y sefyllfa yn reolaidd gan sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda canllawiau Llywodraeth Cymru.

Oriau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Bydd Tai Gogledd Cymru ar gau o ddydd Iau 24 Rhagfyr 2020 ac yn ail-agor dydd Llun 4ydd Ionawr 2021.

Oes oes gennych atgyweiriad brys galwch ni ar 01492 572727 a dewis yr opsiwn atgyweiriad brys.

Gall atgyweiriadau sydd ddim yn frys cael eu hadrodd drwy ‘Fy TGC’ neu drwy e-bostio [email protected]. Bydd y rhain yn cael eu delio gyda phan fydd y swyddfa ar agor eto ar ddydd Mawrth 3ydd Ionawr.

Diweddariad gwasanaeth ôl-gloi

Rydym wedi dechrau gwneud rhywfaint o waith Atgyweirio eto. Rydym yn gweithio ein ffordd trwy’r ôl-groniad o ganlyniad i’r cyfnod cau i lawr diweddar ac efallai y bydd yr amseroedd ymateb yn hirach na’r arfer. Diolch am eich amynedd.

Byddwn yn adolygu’r sefyllfa yn aml ac bydd y dudalen hon a Facebook a Twitter hefyd yn cael ei ddiweddaru.