Cymdogion da yn cael eu gwobrwyo y Nadolig hwn

Mae gan bob cymuned berson sy’n mynd gam ymhellach i helpu eu cymdogion. Roeddem yn teimlo y dylid dathlu’r bobl hyn, a dyna pam y gwnaethom lansio gwobr Cymydog Da TGC.

Fe wnaethom ofyn i bobl enwebu’r rhai sy’n gwneud gwahaniaeth i ble maent yn byw, bob amser yn cadw golwg ar eu cymdogion ac yn barod i roi help llaw pan fydd angen.

Cawsom rai enwebiadau gwych, yn llawn enghreifftiau o gymdogion yn cefnogi ei gilydd. Fe wnaethom ystyried yr enwebiadau ac rydym yn falch o ddatgelu mai’r ddau enillydd yw Rachel Turnbull o Noddfa a Dorothy Caudwell o Llys y Coed. Darganfyddwch pam y cawsant eu henwebu isod:

Rachel Turnbull, Noddfa

Mae Rachel yn gwirfoddoli tridiau’r wythnos yn coginio ac yn bwydo’r digartref. Mae hi hefyd yn mynd gam ymhellach wrth baratoi a rhoi prydau bwyd i’w chyd-breswylwyr. Bydd yn coginio prydau iddynt, gan wneud yn siŵr bod anghenion pawb yn cael eu diwallu, yn aml yn prynu cynhwysion o’i phoced ei hun. Bydd Rachael yn helpu unrhyw un mewn angen.

Dorothy Caudwell, Llys y Coed

Mae Dorothy yn helpu i drefnu llawer o weithgareddau adloniant ar gyfer ei chyd-breswylwyr ac mae wedi bod yn allweddol wrth geisio cael rhywfaint o normalrwydd yn ôl yn dilyn Covid. Mae hi’n chwarae rhan bwysig iawn yn adeiladu’r ysbryd cymunedol yn Llys y Coed.

Diolch i chi’ch dau am fod yn gymdogion mor anhygoel! A diolch i bawb a gymerodd yr amser i enwebu.

Paned a Sgwrs dros y Nadolig

Ymunwch â staff TGC am dal i fyny gyda ni dros ddiod poeth a mins pei neu fisgedi mis Rhagfyr hwn.

Mae gennym ni ddigwyddiadau tenantiaid TGC ar y dyddiadau canlynol:

6ed Rhagfyr 12yp – 2yp – Ty Llywelyn, Ffordd Yr Orsedd, Llandudno. LL30 1LA Lawrlwytho poster

8ed Rhagfyr 12yp – 2yp – Plas Ffrancon Leisure Centre, Coetmor New Rd, Bethesda, Bangor LL57 3DT Lawrlwytho poster

CYFLE I ENNILL AIRFRYER!! Bydd pawb sy’n mynychu yn cael cyfle i ennill air fryer

Dewch draw i gael sgwrs gyda ni neu dderbyn unrhyw gyngor arbed arian. Gemau a chrefftau i ddiddanu plant (rhaid fod yng nghwmni oedolyn).

Unrhyw gwestiynau?

[email protected] neu ffoniwch 01492 572727

Sefydliadau gogledd Cymru yn dod ynghyd i gynnig croeso cynnes yn ystod yr argyfwng costau byw

Mae partneriaid ledled gogledd Cymru yn dod ynghyd i gynnig mannau cynnes a diogel i bobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi gyda chostau ynni cynyddol dros y gaeaf.

Mae’r fenter Croeso Cynnes yn cael ei harwain gan Menter Môn, ar y cyd â nifer o sefydliadau eraill fel rhan o Mudiad 2025.  Mae Mudiad 2025 yn grŵp o dros 600 o bobl a sefydliadau ledled gogledd Cymru sy’n cydweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar draws y rhanbarth.

Mae partneriaid Croeso Cynnes wedi ymrwymo i agor mannau cynnes mewn swyddfeydd, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol eraill lle gall pobl ddod i dreulio amser a mwynhau diod boeth, gyda chymorth ymarferol arall ar gael os oes angen.

Mae partneriaid Croeso Cynnes wedi ymrwymo i agor mannau cynnes mewn swyddfeydd, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol eraill lle gall pobl ddod i dreulio amser a mwynhau diod boeth, a bydd llawer o’r lleoedd hyn hefyd yn cynnig bwyd poeth. Mae’r cynllun hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r cymorth ymarferol sydd ar gael drwy sefydliadau fel Cymru Gynnes, Cwmni Budd Cymunedol sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ledled Cymru, gan sicrhau bod unrhyw un sydd angen cymorth yn cael ei gyfeirio at bobl a all helpu.

Dywedodd Clare Budden, Cadeirydd Mudiad 2025 a Phrif Weithredwr Cymdeithas Tai ClwydAlyn:

“Mae’r argyfwng costau byw yn her enfawr i’n sefydliadau a’r pobl rydym yn eu gwasanaethau, gyda’r disgwyl i anghydraddoldebau iechyd ehangu ymhellach wrth i gymunedau ddechrau teimlo effaith gwirioneddol costau cynyddol ynni. Yn enwedig yng Nghymru, sydd â’r biliau trydan uchaf yn y DU ar gyfartaledd.

“Mae’n wych gweld cyn nifer o bartneriaid yn dod ynghyd i agor eu hadeiladau, o lyfrgelloedd i ganolfannau cymunedol, er mwyn cynnig mannau cynnes a diogel i bobl leol ymweld â nhw os ydynt yn ei chael hi’n anodd cynhesu eu cartrefi. Mae pawb sydd ynghlwm â 2025 wedi ymrwymo ers peth amser i gydweithio er mwyn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, ac mae Croeso Cynnes yn enghraifft arall o’r gwahaniaeth gallwn ni ei wneud wrth ddod ynghyd.”

Mae partneriaid sydd ynghlwm â 2025 sy’n agor mannau Croeso Cynnes yn cynnwys Arloesi Gwynedd Wledig fel rhan o fenter gymdeithasol Menter Môn, y cymdeithasau tai Adra, Cartrefi Conwy, Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru a ClwydAlyn, awdurdodau lleol Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir y Fflint, yr elusen gwasanaethau tai Canllaw, ynghyd ag Arloesi Gwynedd Wledig, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Mantell Gwynedd, NDA, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Medrwn Môn, Tai Gogledd Cymru, Tai Sir Ddinbych, Cyngor Sir Dinbych, Cyngor Conwy, Cyngor Fflint.

Caiff mannau Croeso Cynnes eu hyrwyddo gan Arloesi Gwynedd Wledig, fel rhan o fenter gymdeithasol Menter Môn. Mae partneriaid sydd ynghlwm â 2025 sy’n agor mannau Croeso Cynnes ledled gogledd Cymru yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Mantell Gwynedd, Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, Medrwn Môn, Cyngor Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â chymdeithasau tai Adra, Tai Gogledd Cymru, Grŵp Cynefin, Cartrefi Conwy, Tai Sir Ddinbych a ClwydAlyn.

I ddarganfod ble mae gofodau Croeso Cynnes ar gael yn eich ardal chi cliciwch yma.

Cronfa Gymunedol yn helpu cricedwyr ifanc i gael dechrau da

Yn ddiweddar, mi wnaethon ni gyfrannu arian i Criced Cymru trwy ein Cronfa Gymunedol i gefnogi sesiynau criced i 30 o blant yng Nghonwy dros wyliau hanner tymor.

Defnyddiwyd yr arian a roddwyd i ddarparu medalau i blant cynradd ifanc o ardaloedd difreintiedig yng Nghonwy wnaeth gymryd rhan mewn gweithgareddau criced hanner tymor yn y cymunedau o amgylch tai TGC.

Mae gweithgareddau o’r fath yn helpu i gysylltu cymunedau a gwella lles plant trwy eu hysbrydoli i ddarganfod angerdd am griced.

Oes gennych chi brosiect cymunedol yr hoffech chi wneud cais i gael arian ar ei gyfer? Gallwch ddarganfod sut i wneud hynny yma https://www.nwha.org.uk/cy/cyfleoedd/cronfa-gymunedol-tai-gogledd-cymru/

Allech chi fod ein Hyrwyddwr Digidol nesaf?

Rydym yn chwilio am Hyrwyddwr Digidol newydd i ymgysylltu â thenantiaid er mwyn symud rhwystrau eithrio digidol. Bydd yr Hyrwyddwr yn darparu cefnogaeth a chyngor i denantiaid ynglŷn â defnyddio offer digidol, gan gynnwys cefnogaeth un-i-un neu sesiynau grŵp bach er mwyn darparu dysgu digidol.

Meddwl bod y cyfle yma i chi? Darganfyddwch fwy yma a cysylltwch â Sam Roberts, Swyddog Digidol [email protected] neu ffonio 01492 563295

Preswylwyr cyntaf yn symud i gartrefi ecogyfeillgar fforddiadwy mewn pentref ar Ynys Môn

Mae cymdeithas dai leol wedi trosglwyddo’r goriadau i breswylwyr newydd datblygiad o 16 o dai fforddiadwy, cynaliadwy ym mhentref deniadol Gaerwen.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn i gyflawni cynllun gwerth £2.9m Stad Maes Rhydd sydd wedi’i gynllunio er mwyn helpu i ddiwallu’r angen dybryd am dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys deg cartref dwy ystafell wely, dau gartref tair ystafell wely a phedwar fflat un ystafell wely sydd eu dirfawr angen.

Mae cynaliadwyedd wedi’i flaenoriaethu drwy gydol y datblygiad ac mae’r partneriaid wedi mabwysiadu dull ‘ffabrig yn gyntaf’ i greu cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n dda a fydd yn cadw cynhesrwydd.

Gan nad yw Gaerwen wedi’i chysylltu â’r prif gyflenwad nwy, mae pympiau gwres ffynhonnell aer trydan carbon isel a phaneli solar Ffotofoltäig wedi’u gosod ar y to. Bydd preswylwyr sy’n symud i mewn i’w cartrefi newydd yn mwynhau biliau ynni is ac wedi cael hyfforddiant a chymorth ar sut i ddefnyddio eu pympiau.

Un o amcanion y datblygiad oedd galluogi pobl leol i fagu gwreiddiau yn yr ardal sy’n profi prinder tai fforddiadwy.

Mae wedi’i adeiladu ar safle eithriedig gwledig. Mae safleoedd o’r fath yn caniatáu i ddatblygiadau bach o dai fforddiadwy gael eu hadeiladu ar dir na fyddai’n cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer eiddo preswyl.

Gan ei fod mor agos at ganol pentref Gaerwen, mae Stad Maes Rhydd yn cael ei wasanaethu’n dda gan amwynderau lleol ac mae’n agos at ffordd yr A55 sy’n cysylltu â Llangefni, Caergybi a Bangor. Gobeithir hefyd y gall preswywyr elwa o agosrwydd at gyfleoedd cyflogaeth lleol.

Dywedodd Lauren Eaton-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol Tai Gogledd Cymru; “Mae’r cartrefi hyn wedi’u hadeiladu gyda chymunedau lleol mewn golwg. Roedd ymgysylltu â thrigolion lleol yn rhan allweddol o’r broses felly rydym yn hyderus y bydd y datblygiad newydd hwn yn mynd beth o’r ffordd i ddiwallu anghenion y pentref.

“Mae’n wefr gweld pobl yn symud i mewn i’w cartrefi newydd a gwybod y byddan nhw’n elwa yn yr hydref a’r gaeaf sydd i ddod o ynni mwy fforddiadwy a chartrefi sy’n cael eu hadeiladu gydag effeithlonrwydd ynni.

“Mae gwaith partneriaeth cryf hefyd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y cynllun hwn ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Chyngor Ynys Môn i ddod â’r tai fforddiadwy hyn y mae mawr eu hangen i Gaerwen.”

Cefnogwyd cydweithwyr Tai Gogledd Cymru hefyd gan yr Hwylusydd Tai Gwledig i gynnwys pobl leol yn y broses a chadarnhau angen yn yr ardal.

Ychwanegodd deilydd portffolio Tai Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Alun Mummery: “Rydym yn falch o allu gweithio mewn partneriaeth â Tai Gogledd Cymru i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy newydd ar yr Ynys. Mae pobl ifanc a theuluoedd yn ei chael hi’n anodd iawn rhoi gwreiddiau yn eu cymunedau ac adeiladu bywyd yma. Mae cynlluniau bach, ynni-effeithlon a fforddiadwy fel Stad Maes Rhydd yn hanfodol i gynaliadwyedd a dyfodol ein pentrefi.”

“Mae’n bleser gweld preswylwyr yn symud i mewn i’w cartrefi newydd ac rydym yn gobeithio y byddan nhw’n ffynnu yn y gymuned newydd hon.”

Mae’r cartrefi wedi’u graddio yn ‘A’ o ran eu heffeithlonrwydd ynni, sy’n llawer uwch na gofynion Llywodraeth Cymru i gyrraedd y targed o sero net erbyn diwedd 2030. Yn ogystal, mae paratoadau wedi’u gwneud i ychwanegu pwynt gwefru trydan ar gyfer cerbydau yn y dyfodol.

Nain yn nodi 35 mlynedd gyda’r Gorlan wrth i’r cynllun llety gwarchod ddathlu pen-blwydd arbennig

Mae Nain o Fangor wedi canmol y cynllun llety gwarchod lle mae hi wedi magu ei theulu, wrth i’r Gorlan ddathlu pen-blwydd arbennig.

Glenys Rowlands oedd y person cyntaf i symud i mewn i ddatblygiad Y Gorlan ym Mangor ar ôl cymryd swydd fel warden byw i mewn, gan symud i’w chartref yn 1987 gyda’i gŵr a’i thri o blant, a oedd yn saith, tair a dwy oed ar y pryd.

Erbyn hyn mae Glenys yn mwynhau croesawu ei hwyrion i’r Gorlan ac yn dweud bod y datblygiad wedi cael effaith aruthrol ar fywydau cannoedd o breswylwyr dros ei chyfnod yno.

Mae Y Gorlan wedi ei leoli yng nghanol Bangor ac yn cael ei redeg gan Tai Gogledd Cymru.

Mae’n gweld preswylwyr yn cynnal bywyd cymdeithasol gweithgar tra’n mwynhau holl fanteision byw mewn cynllun llety gwarchod sy’n galluogi pobl i gadw eu hannibyniaeth.

Meddai Glenys:

“Ein nod yw creu naws gymunedol ac annibyniaeth i breswylwyr am gymaint o amser â phosibl tra’n cynnig cefnogaeth lle bo angen.

“Gall preswylwyr deimlo’n ddiogel gan wybod bod cymorth bob amser wrth law mewn argyfwng.

“Dros y blynyddoedd, mae’r bobl sy’n byw yma wedi dod yn debyg i deulu estynedig i mi, maen nhw wedi gwylio fy mhlant yn tyfu i fyny ac mae hyn yn rhywbeth na fyddwn i wedi ei newid am y byd.”

Mae tenantiaid yn mwynhau tripiau dydd gyda’i gilydd yn rheolaidd ac mae’r landlord wedi cynnal sesiynau gwirfoddoli i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n dod draw i wneud te a chynnal gweithgareddau i’r preswylwyr.

Mae’r cynllun yn cynnig 31 o fflatiau hunangynhwysol hawdd eu rheoli ar gyfer pobl dros 60 oed ac yn rhoi’r opsiwn i deuluoedd sy’n ymweld ddefnyddio ystafell westeion am dâl bychan.

Mae bywyd yn Y Gorlan wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd ac mae bellach yn gartref i gymysgedd o denantiaid ag anghenion gwahanol. Cyn ei swydd fel warden byw i mewn, hyfforddodd Glenys i fod yn nyrs, ac mae’r sgiliau hynny wedi bod o ddefnydd iddi pan fo preswylwyr wedi bod yn sâl.

Ychwanegodd Glenys:

“Mae pwyslais yn Y Gorlan ar dreulio amser gyda phobl wyneb yn wyneb fel ffordd o helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd, yn enwedig ar ôl y pandemig. Mae gan y llety ystafell gyffredin i breswylwyr gymysgu â’i gilydd ac mae boreau coffi yn cael ei gynnal yn rheolaidd bob pythefnos, gan gynnwys rhai ar gyfer elusen.”

Does dim cynlluniau gan Glenys i roi’r gorau i’w gwaith yn Y Gorlan. Mae hi wedi dod yn rhan ganolog o fywyd y llety gwarchod ac wedi cynnig wyneb cyfeillgar i breswylwyr sydd angen cefnogaeth.

Meddai Eirlys Parry, Pennaeth pobl hŷn:

“Dyma ddathliad gwych i’r Gorlan. Rydym yn hynod o lwcus i gael Glenys yn rheoli’r cynllun dros y blynyddoedd, mae hi’n gaffaeliad mawr i Tai Gogledd Cymru ac rydym mor ddiolchgar am ei holl waith caled. Diolch o waelod ein calonnau Glenys.

Pen-blwydd Hapus i’r Gorlan, gobeithio eich bod wedi mwynhau eich dathliad; pob dymuniad da ar gyfer y 35 mlynedd nesaf!”

Oes gennych chi Gymydog Da rydych chi am ei wobrwyo?

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ble rydych chi’n byw? Ydyn nhw bob amser yn cadw golwg ar eu cymdogion ac yn barod i roi help llaw pan fydd angen?

Fel tenant i ni, gallwch enwebu tenant arall Tai Gogledd Cymru am wobr, gyda chyfle iddyn nhw ennill £50, ac fel diolch am enwebu enillydd gwobr, cewch chithau hefyd daleb siopa gwerth £10.

Os ydych chi’n gwybod am denant sy’n mynd y filltir ychwanegol er mwyn helpu eraill yna rydym eisiau clywed gennych! Dyddiad cau: 04/11/2022

Cyfle ennil taleb siopio werth £50!

Yn ddiweddar, rydym wedi profi pa mor fforddiadwy yw’r rhenti a’r taliadau gwasanaeth rydym yn godi ac rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod pob un wedi pasio y meini prawf fforddiadwy.

Rydym wedi defnyddio dull a ddatblygiwyd gan y Joseph Rowntree Foundation i wneud y Gwaith hwn – dull hynod o boblogaidd sy’n dweud bod rhent yn fforddiadwy os nad yw yn fwy na 28% o incwm y tenant neu 33% o’r incwm os yw’r tenant hefyd yn talu am dal gwasanaeth (service charge).

Yn naturiol, nid oes ganddom wybodaeth am incwm pob un o’n tenantiaid, felly rydym wedi defnyddio y ‘real living wage’ i gyfrifo hyn gan ein bod yn credu bydd y mwyafrif o’n tenantiaid sy’n gweithio yn ennill hyn o ganlyniad i Lywodraeth Cymru geisio hybu cyflogwyr i dalu’r lefel hwn.

Rydym yn hynod o falch o gael rhannu’r newyddion yma gyda chi, ond rydym angen gwybod sut mae hyn yn ei deimlo i chi? Ydi hyn yn beth fyddech chi yn ei feddwl? Ydych chi yn cytuno efo hyn? Rydym yn awyddus iawn i gael eich barn ar hyn ac ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn gan Tai Gogledd Cymru trwy cwblhau yr arolwg isod. Bydd tenantiaid Tai Gogledd Cymru sy’n cwblhau’r arolwg yn cystadlu yn y raffl fawr!

Link i’r arolwg https://forms.office.com/r/P5sD3JxLM8

Os ydych am siarad â rhywun yn Tai Gogledd Cymru am yr arolwg hwn, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]

Enillwyr cystadleuaeth garddio yw…

Mae’r haf yma, mae gerddi’n wyrdd ac yn blodeuo, y rysáit perffaith ar gyfer Cystadleuaeth Gerddi TGC!

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni. Roedd y ceisiadau eleni eto o safon anhygoel o uchel, a chafodd y beirniaid amser caled yn penderfynu ar yr enillwyr.

Ar ôl llawer o drafod rydym yn falch o ddatgelu mai’r enillwyr yw:

Gardd Orau

1af Agnes Jones, Cwrt WM Hughes, Llandudno

2il Janet Hurd, Ty Llewelyn, Bae Colwyn

3ydd Edward Arundel, Lloyd Street, Llandudno

Y Gofod/Gardd Gymunedol Orau

Cydradd 1af Jean Hayward, Violet Mort, a James Mullins, Hafod y Parc, Abergele

Cydradd 1af Josh Williams, Pat Law, a Sam Thomas, Ty John Emrys, Bae Colwyn

2il Nerys Prosser, Llain Deri, Bae Colwyn

3ydd Preswylwyr Hostel y Santes Fair, Bangor

Gardd Gynhwysydd Orau

Cydradd 1af Val Conway, John Griffiths, a Shirley Thomas, Taverners Court, Llandudno

Cydradd 1af Reginald Atkinson a Joan Collins, Taverners Court, Llandudno

Cydradd 2il Laslo Keri, Leslie Evans, Geoff Uttley, a Donald Blackman, Llys y Coed, Llanfairfechan

Cydradd 3ydd Brian Edwards, Monte Bre, Llandudno

Cydradd 3ydd Rachel Turnbull, Noddfa, Bae Colwyn

Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr. Byddwn mewn cysylltiad â’r holl enillwyr a’r rhai a ddaeth yn ail yn fuan gyda gwobr.