Ydych chi wedi rhoi cynnig ar ein Chatbot Huw?

Ar gael 24/7 drwy ein gwefan, efallai y bydd gan Huw yr ateb yr ydych wedi bod yn chwilio amdano. Cliciwch ar yr eicon ar waelod ochr dde ein gwefan a theipiwch eich cwestiwn.

Dal heb gael yr ateb? Peidiwch ag poeni, yn ystod oriau agor y swyddfa gallwch ddefnyddio ein Sgwrs Fyw, sy’n cael ei gofalu gan aelod o’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Cynnydd Rhent: Newid i Credyd Cymhwysol

Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, ac yn hawlio costau tai i dalu eich rhent, rhaid i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am y newid hwn yn eich rhent.

Er mwyn gwneud hyn yn haws i chi, bydd y DWP yn anfon hysbysiad ‘I’w Wneud’ atoch i’ch cyfnodolyn yn ystod wythnos gyntaf Ebrill 2022.

Rhaid i chi gwblhau’r ‘I’w Wneud’ cyn diwedd eich cyfnod asesu Credyd Cynhwysol ym mis Ebrill 2022 neu byddwch yn colli allan ar yr arian sy’n ddyledus i chi.

Peidiwch â diweddaru eich dyddlyfr cyn dydd Llun 5 Ebrill, mae hyn oherwydd sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo

Os oes angen help arnoch gyda’ch dyddlyfr, siaradwch â’ch swyddog incwm.

Os na fyddwch yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am eich codiad rhent, ni fydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei gynyddu i dalu am eich rhent newydd a gallech golli allan ar fudd-daliadau sy’n ddyledus i chi.

Os ydych chi’n talu trwy archeb sefydlog mae angen i chi siarad â’ch banc ynglŷn â chynyddu eich taliad.

Yma i’ch Cefnogi

Rhaid rhoi blaenoriaeth i dalu eich rhent ar amser. Mae gennym lawer o wahanol ffyrdd o dalu i helpu i gael gwared ar y straen o reoli eich arian. Mae Tîm Incwm Tai Gogledd Cymru yma i’ch cefnogi a darparu cyngor arbenigol ar hawlio budd-daliadau, cynyddu incwm, rheoli dyled a chyngor ariannol.

Cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01492 572727 i siarad ag aelod o’r Tîm Incwm.

Fel arall, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn cynnig cyngor ac arweiniad annibynnol ar faterion budd-daliadau, dyled, ynni a chyflogaeth https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Gallwch hefyd ymweld â www.understandinguniversalcredit.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol.

Rhaid rhoi blaenoriaeth i dalu eich rhent ar amser. Mae gennym lawer o wahanol ffyrdd o dalu i helpu i gael gwared ar y straen o reoli eich arian. Gall ein cynghorwyr arbenigol hefyd eich helpu i baratoi cyllideb ar gyfer eich cartref, fel eich bod yn gwybod beth sy’n dod yn ogystal â pha bethau sydd angen eu talu fel blaenoriaeth, fel rhent, treth cyngor, cyfleustodau ac ati.

Tîm Incwm yn bwrw iddi!

Dydd Llun y 28ain o Chwefror mae Tîm Incwm Tai Gogledd Cymru ar ei newydd wedd yn gweithio i ddarparu gwasanaethau casglu incwm ar draws ein hardal weithredu. Gan weithio mewn pedair ardal ddaearyddol, bydd pob swyddog yn gyfrifol am weithio gyda’n tenantiaid a rhoi cymorth. 

Bydd y trawsnewid i weithio mewn ardaloedd yn cael ei wneud mewn dau gam, a disgwylir i’r “cyfnod hyfforddi” cychwynnol barhau 6 mis cyn i ni symud i’r strwythur ardal barhaol ym mis Medi 2022. Rydym yn ei wneud fel hyn i wneud yn siŵr bod holl aelodau grŵp y tîm yn gallu derbyn yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ddarparu gwasanaethau rhagorol a chyson i’n holl denantiaid a chydweithwyr. Y rhain yn ôl eu hardaloedd yw: 

  • Swyddog Incwm y Gorllewin – Martin Williams 
  • Swyddog Incwm Canol – Karlene Jones 
  • Swyddog Incwm y Dwyrain – Joann Fisher 
  • Swyddog Cyngor Ariannol ac Incwm – Nicky Thomas 
  • Swyddog Incwm Cyfreithiol a Swyddog Incwm Ynys Môn – Rhian Hughes 
  • Swyddog Incwm Cynorthwyol – Hannah Williams 
  • Swyddog Incwm Allan o Oriau – Kieren Lewis 
  • Rheolwr Incwm – Darren Thomas. 

Mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un yn y Tîm Incwm os hoffech drafod ein strwythur newydd a gweld sut y gallwn gydweithio.  

Sesiwn Blasu Beiciau Trydan AM DDIM i tenantiaid

Mewn partneriaeth â Chyngor Conwy a Chwaraeon Conwy rydym yn cynnig cyfle i denantiaid Tai Gogledd Cymru roi cynnig ar E-feicio!

  • Bydd hyfforddwr cymwys yn arwain y sesiwn, a darperir beiciau a helmedau.
  • Bydd y sesiwn blasu yn addas ar gyfer pob gallu, a byddwn yn mynd ar hyd llwybrau gwastad a hawdd.
  • Rydym yn bwriadu cychwyn y sesiynau ym mis Mehefin 2022.
  • Mae asesiad risg llawn wedi’i gynnal a bydd mesurau pellhau cymdeithasol ar waith.

Yn anffodus, yn wahanol i’n gweithgareddau awyr agored a drefnwyd cyn Covid, ni fyddwn yn gallu darparu cludiant i’r sesiwn.

Os hoffech wybod mwy am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch ag Iwan ar [email protected]  neu 01492 563232.

Enillwyr Cystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi wnaethom ni lansio cystadleuaeth i denantiaid, yn gofyn i chi dynnu llun, gwaith celf, collage neu ffotograff o’r hyn y mae Dydd Gŵyl Dewi yn ei olygu i chi.  

Mae’r beirniaid wedi trafod ac wedi cadarnhau mai’r enillwyr yw Bethan Hughes and Owain Ellis; llongyfarchiadau i chi dau.  

Dyma’r darnau wnaeth o yrru, yn dangos beth mae Cymru yn golygu iddyn nhw. 

Diolch i bawb wnaeth gymryd yr amser i wneud cais. 

Apwyntiadau wyneb yn wyneb nawr ar gael

Eisiau cyfarfod â’ch Swyddog Cymdogaeth? Eisiau cymorth a chyngor gan y tîm incwm? Gallwn nawr gynnig apwyntiadau o gysur eich cartref eich hun, neu o 14 Chwefror ‘22, yn ein Swyddfa Cyffordd Llandudno. 

Bydd y Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid yn eich helpu i drefnu apwyntiad. Cysylltwch â nhw trwy e-bost Gwasanaethau Cwsmer neu ffoniwch 01492 572727 gyda’r wybodaeth ganlynol wrth law:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif Ffôn
  • Rheswm dros y cyfarfod
  • Dyddiad ac amser addas
  • Lleoliad a ffafrir

Mae digwyddiad gyrfa ar-lein yn rhoi cyfle i bobl wneud gwahaniaeth yn 2022 gyda gyrfa newydd

Mae pobl sydd am gael dechrau newydd a gyrfa newydd yn 2022 yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiad arbennig i ddarganfod sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau gyda swydd yn Tai Gogledd Cymru (TGC).  

Bydd TGC yn cynnal Digwyddiad Gyrfa ar-lein ddydd Mercher 2 Chwefror rhwng 1pm-2pm fel y gall pobl ddarganfod mwy am weithio yn y sector tai cymdeithasol a’r gyrfaoedd sydd ar gael yn TGC.  

Digwyddiad Gyrfa Ar-lein 

Pryd: Dydd Mercher, Chwefror 2, 1-2pm 

Lleoliad: Ar-lein 

Mwy o wybodaeth https://www.nwha.org.uk/cy/news-and-events/events/digwyddiad-gyrfa-ar-lein/. 

Yn ystod y digwyddiad bydd timau gwahanol yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud a sut brofiad yw gweithio yn y sector tai ac yn TGC, yn ogystal â darganfod mwy am y swyddi gwag cyffrous sydd ar ddod. 

Mae’n amser cyffrous i ymuno â TGC, mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol ac rydym yn creu rolau newydd. Dewch i ymuno â ni a gwneud gwahaniaeth.  

Cofrestru 

Eisiau mynychu? Cofrestrwch eich diddordeb yn [email protected] 

Nifer uchel o alwadau oherwydd difrod storm

Rydym yn derbyn nifer uchel o alwadau oherwydd adroddiadau o ddifrod storm yn dilyn storm dros y penwythnos.

Os gwelwch yn dda byddwch yn amyneddgar gyda ni wrth i ni geisio cynorthwyo; gall amser aros galwadau fod yn hirach na’r disgwyl dros yr ychydig ddyddiau nesaf. Gallwch hefyd logio atgyweiriadau trwy e-bostio [email protected] neu ddefnyddio MyNWH trwy ein gwefan.

Hysbysiad: Bydd recordio galwadau yn cael ei roi ar waith

O 22 Tachwedd 2021 bydd pob galwad i’r Tîm Gwasanaethau Cwsmer yn cael ei recordio.

Y prif bwrpas ar gyfer recordio galwadau yw ar gyfer hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth. Bydd galwadau wedi’u recordio hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer monitro ansawdd a/neu ddelio â chwynion. Defnyddir hyn yn bennaf gan ein tîm Gwasanaethau Cwsmer; gellir ei ddefnyddio hefyd fel tystiolaeth pan fydd honiadau’n cael eu gwneud.

Bydd galwadau yn cael eu monitro a’u storio fel y gellir cyfeirio atynt yn ddiweddarach am hyd at 90 diwrnod. Gellir cadw galwadau am gyfnod hirach o amser, mewn rhai amgylchiadau, os yw staff wedi lawrlwytho’r galwadau o fewn y 90 diwrnod hynny. Yna bydd eu cadw yn dod o dan y Polisi Cadw Dogfennau a Data.

Am fwy o fanylion gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd a’n Polisi Recordio Galwadau yma https://www.nwha.org.uk/cy/about-us/data-protection/.