Mae’r wefan newydd yn FYW!

Croeso i wefan newydd Tai Gogledd Cymru! Mae wedi bod yn llawer o waith caled, ond dyma ni o’r diwedd.

Diolch i bawb a wnaeth gyfrannu i’r ymgynghoriad, helpu i ailysgrifennu’r cynnwys a phrofi’r wefan.

Mi welwch chi bytiau o eitemau a awgrymir ar draws y wefan. Nid ydym wedi gallu gwneud popeth oherwydd adnoddau cyfyngedig. Ond ‘gwaith ar y gweill’ yw’r wefan, fydd yn datblygu dros amser ac os gwelwch yn dda daliwch ati i roi ymateb ac awgrymiadau i ni.

Felly beth ydi beth, a ble mae popeth? Dyma’r manylion pwysig…

  • Amdanom Ni – sef cyflwyniad i bopeth am Tai Gogledd Cymru, cyfarfod â’r Tîm Rheoli a’r Bwrdd, sut rydym yn perfformio a’r diweddaraf am ein gwaith elusennol (rydym hefyd yn arbennig o falch o’r fideo ‘Amdanom Ni’, beth am daro golwg arno?).
  • Dod o Hyd i Gartref – Mae’r adran hon ar gyfer y rhai sy’n chwilio am gartref newydd, gan egluro’r broses o wneud cais yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Mae hefyd yn dweud ychydig wrthych am ein hamrywiaeth eang o gartrefi a’r gwasanaethau ychwanegol rydym yn eu cynnig e.e. Tai â Chymorth a’r gwasanaeth digartrefedd.
  • Eich Cartref – Popeth sydd ei angen ar denant presennol, o waith trwsio, helpu i dalu eich rhent ac ychydig o help llaw yn ‘Help a Chymorth’.
  • Newyddion a Digwyddiadau – Yn union beth mae’n ei ddweud ar y tun. Ond nid dim ond digwyddiadau Tai Gogledd Cymru, rydym yn ceisio cynnwys mwy o ddigwyddiadau cymunedol. Dyma hefyd lle gallwch ddarllen Clwb Seren, ein cylchlythyr tenantiaid.
  • Gyrfaoedd – Mae’r adran hon yn dweud ychydig mwy wrthych am fywyd yn gweithio i Tai Gogledd Cymru a sut beth yw gweithio yma (fideo arall!). A dyma lle cewch hyd i restr o Swyddi Gwag wrth gwrs.
  • Cymryd Rhan – Rydym am i’n tenantiaid gymryd rhan gymaint â phosib. Rydym am i chi ddweud wrthym beth rydych ei eisiau, beth rydym yn ei wneud yn iawn (neu’n anghywir). Mae’r adran hon yn amlinellu sut y gallwch chi gymryd rhan.
  • Cysylltu â ni – Rhestr gyfredol o sut y gallwch chi gysylltu â ni. A’r cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol hollbwysig (rydym yn newydd i Instagram, dilynwch ni, os gwelwch yn dda ?!).

Mae yna ychydig o bethau eraill ar y wefan hon sy’n newydd (y blog yma yn un peth!).

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y wefan. Ac os dowch o hyd i unrhyw wallau, rhowch wybod i ni hefyd er mwyn i ni allu eu cywiro.